
Copyright for Archivists and Records Managers, Tim Padfield. London: Facet Publishing, 2019
Deuthum ar draws y llyfr hwn yn gynnar iawn yn fy ngyrfa yn y Comisiwn Brenhinol ac mae wedi bod yn un o’r rhai mwyaf defnyddiol. Mae copi ar fy nesg bob amser a byddaf yn cyfeirio ato’n gyson i gael atebion i ymholiadau hawlfraint.

Mae’r ddeddfwriaeth ar hawlfraint yn gymhleth dros ben ac yn newid yn barhaus wrth i dechnoleg newid ac i ddulliau newydd o gopïo a storio gwybodaeth gael eu cyflwyno. Yn fy swydd i mae’n hollbwysig bod y wybodaeth ddiweddaraf wrth law ac mae llyfr Tim Padfield, sydd bellach yn ei chweched argraffiad, yn arf hanfodol ar gyfer gwneud hynny. Mae’n hawdd ei ddefnyddio ac yn ganllaw cynhwysfawr i hawlfraint yn y DU. Yn ogystal ag ateb cwestiynau sylfaenol am natur hawlfraint a pherchenogaeth, mae’n cynnig cyngor amhrisiadwy ar y cyfreithiau’n ymwneud â’r deunyddiau anghyhoeddedig niferus a geir mewn casgliadau o archifau. Rydw i’n arbennig o hoff o’r siartiau gwych yn y cefn sy’n dangos am faint o amser mae hawlfraint yn para. Byddwn yn ei argymell i unrhyw un sy’n dymuno dysgu mwy am y pwnc hwn.
Penny Icke – Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth
Er bod y Llyfrgell ar gau ar hyn o bryd, gallwch fynd ar daith rithiol a phori’r silffoedd neu chwilio catalog ein Llyfrgell.


06/10/2020