
Cranogwen (1839–1916): Yn gapten ar ei llong ei hun
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod eleni, rydym yn rhoi sylw i Sarah Jane Rees, sef Cranogwen. Cysegrodd ei bywyd i helpu pobl a oedd yn dioddef tlodi a chamdriniaeth ddomestig, ond ar yr un pryd dilynodd ei llwybr ei hun a oedd yn mynd yn groes i’r hyn a oedd yn arferol ar y pryd. Roedd yn gapten llong, yn athrawes, yn fardd, yn ddarlithydd, yn ymgyrchydd, yn olygydd, yn bregethwr ac yn eiriolwr cymdeithasol.

Cafodd ei geni yn 1839 ger Llangrannog, yn ferch i gapten llongau. Roedd Sarah Jane yn dyheu am gael mordeithio, a oedd yn rhan mor annatod o fywyd, yn enwedig ar hyd arfordir gorllewin Cymru. Mynychodd yr ysgol ym Mhontgarreg, ei phentref genedigol, cyn cael ei hanfon yn 13 oed i ddysgu gwneud dillad yn Aberteifi. Dychwelodd adref yn fuan i fynd ar drywydd ei gwir ddiddordeb, ac ymunodd â’i thad ar ei long ef am ychydig flynyddoedd gan deithio o gwmpas Cymru ac i Lerpwl, Ffrainc ac Iwerddon. Nid oedd gweld merched a menywod ar gychod a llongau (masnachol yn bennaf) yn rhywbeth mor anarferol ag y byddech efallai’n ei ddisgwyl, yn enwedig gan fod y môr yn rhan mor annatod o fywoliaeth llawer o bobl yn ystod y cyfnod hwnnw. Dim ond yn nes ymlaen yn 1869 y cafodd menywod eu gwahardd o longau’r Llynges Frenhinol gan y Morlys (Shopland 2017). Ar ôl i Cranogwen ddychwelyd, aeth i ysgol ar gyfer morwyr i ddysgu mwy am forwriaeth ac am agweddau eraill ar fordeithio. Cwblhaodd Sarah Jane ei hyfforddiant yn Llundain, gan ennill ei chymhwyster fel capten llongau. Yna, dychwelodd adref i ymgymryd â swydd y pennaeth yn ysgol ei phentref yn 1860, a hithau ond yn 21 oed! Roedd mordeithio, wrth gwrs, ymhlith y pynciau yr oedd yn eu haddysgu, a hyfforddodd genhedlaeth newydd o forwyr a chapteiniaid llongau. Credir hefyd iddi addysgu mordwyo yn Ysgol John Evans yn Aberystwyth, y drws nesaf i’r hen Gapel Wesleaidd yn Ffordd Alexandra. Mae’r ysgol wedi’i dymchwel, a Diva Nail Design sydd ar y safle’n awr.

Un arall o ddiddordebau Sarah Jane, yr oedd yn rhagori ynddo, oedd barddoniaeth. Byddai’n cystadlu mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol dan yr enw barddol Cranogwen, ac enillodd sawl gwobr gan gynnwys y Gadair yn Rhymni yn 1864. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth yn 1865, hi oedd y fenyw gyntaf erioed i ennill y Goron â’i cherdd ‘Y Fodrwy Briodasol’ a oedd yn dychanu ffawd menyw. Un o’i cherddi enwocaf yw ‘Fy Ffrynd’, ac mae Norena Shopland yn awgrymu bod y gerdd wedi’i hysgrifennu am fenyw a oedd yn gariad i Cranogwen. Cafodd ‘Caniadau Cranogwen,’ sef cyfrol o 40 o’i cherddi, ei chyhoeddi yn 1870. Erbyn 1879, roedd yn olygydd ‘Y Frythones’, sef y cylchgrawn Cymraeg i fenywod yn benodol (hi oedd y fenyw gyntaf i wneud hynny hefyd). Roedd y cylchgrawn yn cefnogi addysg i ferched ac yn hyrwyddo gweithiau llenyddol menywod eraill.
Darn allan o ‘Y Fodrwy Briodasol’, y gerdd a enillodd y Goron i Cranogwen yn 1865.
Y Fodrwy Briodasol
Eistedda ieuange, brydferth wraig,
Brydnawnddydd ei phriodas,
Ar esmwyth-faingc odidog yn
Ystafell oreu’r palas:
Byd o lawenydd sydd o’i chylch,
Awyrgylch hedd a’i töa,
A mwyn awelon cariad pur
Yn ddifyr a’i dyddana.
Ond yn ddisymwth, wele wrid
Ei hwyneb yn perffeithio,
A gwylder, fel pelydriad claer
O’r nef, yn chwareu arno:
Ei chalon frysia, – Beth? – Paham
Y teimla mor neill duol?
Ah! teimlo ar ei bys a wnaeth
“ Y fodrwy biodasol.”
Yn 1866, rhoddodd y gorau i’w swydd yn Ysgol Pontgarreg er mwyn mynd i ddarlithio a phregethu. Oherwydd ei henwogrwydd fel Cranogwen a’i henw da am fod yn siaradwr cyhoeddus diddorol, tanbaid a gwybodus, cafodd gyfleoedd i deithio mor bell ag America. Byddai Cranogwen yn rhoi llawer o’r arian a enillai i achosion gwerth chweil, megis i dalu am atgyweirio ac adeiladu capeli ac ysgoldai. At hynny, cododd gartref newydd i’w rhieni – Brynaeron. Yn benodol, byddai’n siarad ac yn pregethu am Ddirwest (ymwrthod ag alcohol) ac am yr effaith y gallai alcohol ei chael ar fywyd teuluol, ac ar fenywod yn enwedig. Yn 1901, cyd-sefydlodd Undeb Dirwestol Merched y De, ac ar y cyd ag eraill roedd yn ddylanwadol wrth annog menywod i amddiffyn eu hawliau. Aeth llawer o’r menywod hynny, a ysbrydolwyd gan Cranogwen, yn eu blaen wedyn i gefnogi’r mudiad a fyddai’n ymgyrchu dros roi pleidlais i fenywod.
Fy Ffrynd
Ychydig iawn o flodau têg
Y byd sydd fwy eu harddwch,
Sydd burach, well eu sawr, na chwêg
Flodeuyn cyfeillgarwch;
Ychydig hefyd, yn ddiau,
O flodau’r byd presenol,
Mewn bri a harddwch, sy’n parhau
Mor hir, ac mor rogorol.
Ah! y mae hwn yn rhosyn hardd,
Yn d’wysog mewn prydferthwch!
A oes rhyw un o fewn yr ardd
Yn fwy ei fri a’i degwch?
Mae’r blodau eraill sydd gerllaw
Fel yn ymgrymu iddo;
A phob un genfydd oddi draw
Fod gwedd urddasol arno.
Darn allan o ‘Fy Ffrynd’, sef un o gerddi enwocaf Cranogwen.
Cafodd Cranogwen berthynas hirdymor â dwy fenyw, sef Frances (Fanny) Rees a fu farw o dwbercwlosis yn 1874 yn anffodus, a hithau ond yn 21 oed; a Jane Thomas wedyn. Rywbryd ar ôl marwolaeth ei rhieni, gwerthodd Cranogwen ei thŷ a symudodd at Jane a oedd yn byw gerllaw. Buont yn bartneriaid nes i Cranogwen farw yn 1916.
Roedd Cranogwen yn gapten ar ei llong ei hun mewn mwy nag un ffordd, a daeth yn enwog ledled Cymru a thu hwnt am ei doniau a’i champau niferus. Adeg ei marwolaeth, roedd ganddi un freuddwyd yn weddill nad oedd wedi llwyddo i’w gwireddu, sef agor lloches i fenywod. Fodd bynnag, cafodd lloches o’r fath ei chwblhau a’i hagor er anrhydedd iddi yn 1922, yn Nhonypandy yn y Rhondda, a chafodd ei henwi’n Llety Cranogwen.

I ddathlu’r holl bethau a gyflawnodd, mae Cranogwen wedi’i dewis yn un o bum menyw sy’n rhan o’r ymgyrch ‘Monumental Welsh Women’, i ddathlu a choffáu cyflawniadau menywod gwych o Gymru ac i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod o’r fath. Mae cenhadaeth y grŵp yn eithaf syml: Pum Menyw o Gymru. Pum Cerflun. Pum Mlynedd yn coffáu cyflawniadau menywod go iawn o Gymru.Bydd y cerflun oCranogwen yn cael ei ddadorchuddio’n nes ymlaen eleni yn Llangrannog. Hwn fydd y trydydd cerflun i gael ei ddadorchuddio, a bydd yn dilyn yr un o Betty Campbell (ym mis Medi 2021) a’r un o Elaine Morgan (ym mis Mawrth 2022). Rydym yn nodi’r digwyddiad hwn drwy sicrhau bod lleoedd sy’n gysylltiedig â bywyd Cranogwen yn cael eu cofnodi yn y Cofnod Henebion Cenedlaethol. Gellir gweld y rhain ar-lein, ar Coflein, drwy glicio ar y dolenni cyswllt isod.
- Dolgoy-fach, Pontgarreg
- Ysgol Pontgarreg
- Pentref Pontgarreg
- Ysgol John Evans, Aberystwyth
- Brynaeron
- Bedd Cranogwen, Llangrannog
- Llety Cranogwen, Tonypandy
Darllen mwy:
- https://monumentalwelshwomen.com/our-hidden-heroines
- https://blog.library.wales/the-extraordinary-life-of-cranogwen-from-mariner-to-poet-and-so-much-more/
- https://www.peoplescollection.wales/items/601248#?xywh=-241%2C-64%2C1564%2C1666&cv=
- http://daibach-welldigger.blogspot.com/2019/01/cranogwen-pioneering-preacher.html
- Norena Shopland, Forbidden Lives LGBT stories from Wales (Seren Books, 2017)
Charina Jones, Rheolwr Gwasanaethau Ar-lein
03/08/2023