
Crefftwaith a Chynllunio’r Hen Dŷ

Pantyrhwch ar ôl ei adfer. Llun: DS2011_056_001
Pantyrhwch, Llanwnnen, Ceredigion
Mae ‘bwthyn’ yn derm braidd yn gyffredinol am amryw o wahanol fathau o annedd y mae’n ddefnyddiol gwahaniaethu rhyngddynt. Yn eu plith yr oedd y bythynnod y cafwyd caniatâd i’w codi ar dir comin; bythynnod a godwyd heb ganiatâd gan sgwatwyr sef, yn aml, ‘tai unnos’; hafotai neu luestai gwahanol ffermydd; bythynnod diwydiannol; ‘cartrefi o waith cartref’ (fel Wig-wen-fach) a godwyd gan grefftwyr a thyddynwyr, a bythynnod a ffermdai bach a godwyd gan ystadau. Trafodir hwy i gyd yn llyfr Eurwyn Wiliam Y Bwthyn Cymreig (CBHC, 2010).
Enghraifft dda o’r bwthyn-ffermdy pwrpasol yw Pantyrhwch, Llanwnnen, Ceredigion. Er bod iddo gynllun anarferol, mae’n nodweddiadol o’r math hŷn o fwthyn. Yn y talcen y mae drws y tŷ, tebyg i batrwm tŷ hir, ond cegin a ychwanegwyd at yr adeilad, yn hytrach na beudy, yw’r ‘ystafell allanol’. Elfen fwya’r brif ystafell (y gegin) yw mantell enfawr y simnai – mantell a godwyd o blastr, coed a phlethwaith. Mae’n fwy na thebyg mai cyfuniad o ystafell wely a pharlwr oedd yr ystafell fewnol. Er bod dau lawr i’r tŷ, cyfyng iawn yw’r grisiau, ac mae dau hanner-gris i bob prif ris. Tipyn o gamp yw dringo i siambrau’r llawr cyntaf heb orfod meddwl am y grisiau.
Wedi’i adfer, yn hytrach na’i foderneiddio, y mae Pantyrhwch, ac fe ddiogelwyd yr hen nodweddion ynddo oherwydd ansawdd y defnyddiau a’r grefftwriaeth. Gan fod y perchnogion yn parchu crefftwaith a chynllun yr hen dŷ, mae’r rheiny’n cyd-fynd yn hapus â ffordd gyfoes o fyw.
▶️ Y Tŷ Hynaf yng Nghymru

Pantyrhwch y grisiau a’r hanner grisiau. Llun: DS2011_056_003
Cysylltau:
- Pantyrhwch, Llanwnnen NPRN 412117
- Wig-wen-fach, Llanerchaeron NPRN 35396
▶️ Parhâd Traddodiadau Adeiladu Gwerinol
01/26/2011