
Croeso Coflein Newydd! – darganfyddwch sut i gael y gorau o’n gwefan newydd.
Estynnir croeso cynnes i chi fynychu lansiad ar-lein Coflein Newydd, ein cronfa ddata ar-lein â nodweddion gwell:
- Cyflwyniadau byr gan staff arbenigol
- Cyflwyniad i’r nodweddion newydd a gwell
- Sesiwn holi ac ateb.
Mae’r nodweddion newydd yn cynnwys:
- Gwefan hawdd ei defnyddio sy’n gweithio ar draws pob dyfais
- Mwy na 180,000 o ddelweddau cydraniad uchel chwyddadwy
- Delweddau ac adroddiadau y gellir eu lawrlwytho am ddim
- Cario Coflein yn eich poced – mae nodweddion fel tracio lleoliad a mapiau Arolwg Ordnans manwl yn golygu y gallwch ddod o hyd i wybodaeth am safleoedd archaeolegol ac adeiladau hanesyddol wrth fynd.
Rhowch gynnig ar y wefan a dewch â’ch cwestiynau!
20 Mai 2021, 5pm

Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys cyflwyniadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.
Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn.
Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.
05/16/2021