Croeso i gynhadledd Gorffennol Digidol 2017!

Bydd Gorffennol Digidol 2017 yn cael ei chynnal yng Nglan yr Afon, un o leoliadau blaenllaw Cymru ar gyfer digwyddiadau, mewn rhan o Gasnewydd sydd newydd ei hailddatblygu. Cynhadledd ddau ddiwrnod flynyddol wedi’i threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n canolbwyntio ar dechnolegau a thechnegau digidol arloesol ar gyfer cipio data, dehongli a lledaenu gwybodaeth am dreftadaeth Cymru, y DU a thu hwnt yw Gorffennol Digidol. Mae’n dwyn ynghyd unigolion o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol, ac o’r trydydd sector, a’i nod yw hybu trafodaeth a gwybodaeth am y technolegau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol.

Cynigir cyfuniad o gyflwyniadau, gweithdai ac arddangosiadau ymarferol i’r cynadleddwyr mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a’r nod yw hybu rhwydweithio a chyfnewid syniadau. I gael gwybodaeth am y siaradwyr gadarnhau ewch i ein rhestr siaradwr.

Mi fydd manylion Gofrestru ar gael yn fuan.

Rydym yn gobeithio y gallwn ni eich croesawu i’r Gorffennol Digidol yn 2017.

 

 

Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr 

11/04/2016

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x