
Croeso i gynhadledd Gorffennol Digidol 2020!
Bydd cynhadledd Gorffennol Digidol 2020 yn cael ei chynnal yn nhref Fictoraidd Aberystwyth, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Cynhadledd ddau ddiwrnod flynyddol wedi’i threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n canolbwyntio ar dechnolegau a thechnegau digidol arloesol ar gyfer cipio data, dehongli a lledaenu gwybodaeth am dreftadaeth Cymru, y DU a thu hwnt yw Gorffennol Digidol. Mae’n dwyn ynghyd unigolion o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol, ac o’r trydydd sector, a’i nod yw hybu trafodaeth a gwybodaeth am y technolegau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol.
Cynigir cyfuniad o gyflwyniadau, gweithdai ac arddangosiadau ymarferol i’r cynadleddwyr mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a’r nod yw hybu rhwydweithio a chyfnewid syniadau. I gael gwybodaeth am y siaradwyr gadarnhau ewch i ein Rhestr Siaradwr.
Mae Cofrestru ar agor nawr.
Rydym yn gobeithio y gallwn ni eich croesawu i’r Gorffennol Digidol yn 2020.
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Cofrestru | Sylwadau | Gwybodaeth Defnyddiol | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
11/18/2019