Croeso i Rifyn 4 newyddion CHERISH, arwain gan Comisiwn Brenhinol

Croeso i Rifyn 4 newyddion CHERISH, prosiect wedi’i ariannu gan Ewrop, arwain gan Comisiwn Brenhinol mewn partneriaeth â’r Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac Arolwg Daearegol, Iwerddon.

Llythyr Newyddion CHERISH Rhif 4
Llythyr Newyddion CHERISH Rhif 4

Lawrlwythwch Fersiwn Gwe (4.4Mb)

Croeso i bedwerydd rhifyn newyddion CHERISH sy’n nodi canol ein prosiect pum-mlynedd. Yn y rhifyn hwn edrychwn ar rai o uchafbwyntiau’r prosiect yn ystod cyfnod prysur rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2019. Tynnir sylw at beth o’n gwaith mwyaf uchelgeisiol hyd yma, sy’n cynnwys rhaglen newydd gan y ddwy genedl i dyllu creiddiau mawn yn ne-orllewin Iwerddon, defnyddio drôn (UAV) i fapio ardaloedd cyfan o arfordir erydol Iwerddon, cloddiadau wyneb-clogwyn i gasglu gwybodaeth am gaer arfordirol sy’n disgyn i’r môr, a seminar ac ysgol hyfforddi ar ddefnyddio awyrennau a dronau i gynnal arolygon archaeolegol o’r awyr.

I gael y newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf – ac i weld ble mae’r tîm CHERISH yn gweithio – cofiwch edrych ar ein gwefan a’n tudalennau (www.cherishproject.eu ), Facebook (Cherish Project) a Twitter (@CHERISHproj). Hoffech gael copi printiedig er mwyn llwyr werthfawrogi’r delweddau bendigedig cysylltwch â cherish@cbhc.gov.uk.

08/05/2019

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets