Llawlyfr ar Gwmbrân a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Datblygu Cwmbrân

Cwmbrân: ‘Lle mae’r Dyfodol yn Digwydd Nawr’

Cwmbrân yw’r unig Dref Newydd Marc I yng Nghymru ac, fel y cyfryw, mae hi’n dref hynod ddiddorol sy’n cynrychioli cyfnod pwysig yn hanes cynllunio tref yn y DU ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae hefyd yn dref nad yw wedi cael llawer o sylw gan y sector treftadaeth o ran deall ei nodweddion cyffredinol neu ei safleoedd ac adeiladau unigol ac felly mae’r Comisiwn Brenhinol wedi ymgymryd ag astudiaeth nodweddu trefol ac wedi’i chyhoeddi fel dogfen ddigidol ar ei gwefan yr wythnos hon.

Llawlyfr ar Gwmbrân a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Datblygu Cwmbrân
Llawlyfr ar Gwmbrân a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Datblygu Cwmbrân

Gardd-ddinasoedd dechrau’r ugeinfed ganrif oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y Trefi Newydd. Arweiniodd trefoli cyflym at gynllunio ar gyfer cymunedau a oedd yn gymdeithasol gyfiawn ac yn gorfforol iach drwy ddarparu tai a swyddi o safon uchel a lleoedd gwyrdd agored i weithwyr diwydiannol, gan ddilyn syniadau’r diwygiwr Ebenezer Howard. Er i’r rhaglenni adeiladu mawr rhwng y rhyfeloedd fynd yn erbyn y delfrydau hyn, fe’u rhoddwyd yn ôl ar yr agenda wleidyddol gan Patrick Abercrombie a’i gynllun ar gyfer Llundain Fwyaf ym 1944 i adeiladu wyth tref newydd o gwmpas y ddinas. Ym 1945 fe gafodd y Pwyllgor Trefi Newydd ei greu, ac ym 1946 fe basiwyd Deddf y Trefi Newydd a’i gwnaeth hi’n bosibl i ddynodi aneddiadau newydd a phenodi Corfforaethau Datblygu Tref Newydd.

Dynodwyd Cwmbrân yn Dref Newydd yn ffurfiol ar 4 Tachwedd 1949, a sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Cwmbrân yn fuan wedyn ar 24 Tachwedd. Yn wahanol i Drefi Newydd eraill, y pwrpas oedd darparu tai o safon, ysgolion, a chanol tref wedi’i gynllunio’n dda i wasanaethu’r rheiny a oedd yn gweithio yn niwydiannau de-ddwyrain Cymru ac a oedd yn gorfod teithio’n bell iawn i’r gwaith. Cafodd y Prif Gynllun strategol, a luniwyd gan yr ymgynghorwyr cynllunio Minoprio & Spencely & P. W. Macfarlane, ei gyhoeddi ym mis Mawrth 1951.

Y Prif Gynllun a gynhyrchwyd i Gorfforaeth Datblygu Cwmbrân gan Minoprio & Spencely & Macfarlane ym 1950 (llun Archifau Gwent)
Y Prif Gynllun a gynhyrchwyd i Gorfforaeth Datblygu Cwmbrân gan Minoprio & Spencely & Macfarlane ym 1950 (llun Archifau Gwent)

Mae gan y dref ardal siopa a dinesig ganolog wedi’i hamgylchynu gan ‘gymdogaethau’ preswyl, ac ardaloedd diwydiannol mewn parthau. O dan y system cymdogaethau, cafodd cymunedau o ryw 5,000 o bobl eu creu a darparwyd siopau, ysgolion, canolfannau iechyd, neuaddau cymunedol ac addoldai ar gyfer pob un ohonynt. Roedd y cymdogaethau’n ddigon mawr i fod yn hunangynhaliol ond yn ddigon bach i sicrhau bod y cyfleusterau o fewn pellter cerdded hwylus i bawb a bod ysbryd cymunedol yn datblygu rhwng y trigolion newydd. Rhoddwyd pwyslais mawr gan y Gorfforaeth ar ddefnyddio ffurfiau adeiladu a dylunio newydd ac arloesol.

Tref Newydd Cwmbrân - Astudiaeth Nodweddu Trefol
Tref Newydd Cwmbrân – Astudiaeth Nodweddu Trefol

Dim ond un elfen o’r Dref Newydd sydd wedi’i rhestru ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw ardaloedd cadwraeth yng Nghwmbrân. Fel enghraifft arbennig o gynllunio a phensaernïaeth drefol ar ôl y rhyfel, a oedd yn ceisio cynnig gwell bywyd i’w thrigolion, mae’n bwysig iawn i ni gydnabod a diogelu nodweddion unigryw y dref Gymreig hon. Nod y cyhoeddiad newydd yw helpu i gynllunio datblygiadau yn y dyfodol sy’n parchu rhinweddau’r Dref Newydd, ei chefndir hanesyddol a’i threftadaeth, a’i hamgylchedd a’i chyd-destun ffisegol. Gobeithir y bydd yn fan cychwyn ar gyfer ymchwil a thrafodaeth bellach ynghylch lle Cwmbrân yn nhreftadaeth adeiledig Cymru.

Y Gerddi Dŵr

Cynlluniwyd y Gerddi Dŵr gan Gordon Redfern, Prif Bensaer y Gorfforaeth, yn un o elfennau gweledol ac adloniadol allweddol Canol y Dref. Fe roddodd bwyslais ar gyfuno gwahanol weadau drwy gyfrwng tirlunio caled a phlannu, gan ddefnyddio dŵr yn byrlymu i greu ymdeimlad o symudiad a sain. Roedd ffrwd lorweddol o ddŵr yn pistyllio i ben uchaf y pwll lle roedd gwaith celf a grëwyd o Wydr Pilkington, ac oddi yno fe lifai’r dŵr ar hyd ‘camlas’ fach i’r ardd suddedig is. Rhaeadrai dŵr i lawr y mur cynnal deheuol, wedi’i wneud o goncrit mowldiedig ar ffurf geometrig haniaethol, ac roedd amrywiaeth o goed a llwyni, gan greu llecyn i siopwyr prysur a theuluoedd ymlacio a chymdeithasu.

Monmouth House

Monmouth House yw un o adeiladau pwysicaf Canol y Dref. Mae’n cyfuno siopau ar y llawr gwaelod â fflatiau moethus ac yn enghraifft o awydd y Gorfforaeth i greu datblygiadau cymysg. Cafodd ei agor gan Syr James Callaghan ym 1967 ac un o’i nodweddion mwyaf nodedig yw’r gerfwedd geometrig mewn concrit mowldiedig ar y siafft allanol. Comisiynwyd yr artist adnabyddus William Mitchell gan y Gorfforaeth i wneud y gwaith. Roedd yn arbenigo mewn murluniau concrit sylweddol ac mae’r darn hwn yn bwysig iawn a’r unig waith mawr o’i eiddo sydd wedi goroesi yng Nghymru hyd y gwyddys. Gellir gweld cerfweddau llai a wnaed gan Mitchell ar rannau o waliau cynnal yr A4051 (Cwmbran Road).

Canolfan Fairwater

Roedd y system ‘cymdogaethau’ yng Nghwmbrân yn sicrhau bod trigolion pob ardal o fewn cyrraedd hwylus i ganolfan fach lle gallent wneud eu siopa. Roedd Canolfan Fairwater yn gwasanaethu ardal dde-orllewinol y dref. Roedd deunaw siop, canolfan iechyd, deintyddfa, tŷ tafarn, a chanolfan gymunedol yno. Roedd y safle’n agored iawn a chafodd y ganolfan ei chynllunio’n ofalus gan Gordon Redfern i fynd i’r afael â’r broblem hon. Codwyd unedau ag ochrau uchel a oedd yn ffurfio llecyn caeedig a ddarparai gysgod corfforol a meddyliol i siopwyr yn ystod eu hymweliadau. Crëwyd llecyn chwarae yn y canol y gellid ei weld o’r holl siopau er mwyn gwneud y profiad siopa yn fwy pleserus i’r plant a’u rhieni

Tŷ Newydd

Adeiladodd y Gorfforaeth fwy na 10,000 o dai a Thŷ Newydd oedd y datblygiad tai cyntaf oll. Cafodd ei adeiladu yng nghymdogaeth newydd Pontnewydd (daeth yr enw o bentref lleol) a’i enwi ar ôl gwaith tunplat Tŷ Newydd gerllaw. Roedd 48 o dai, 6 fflat a 10 modurdy yn y cynllun. Gan nad oedd Prif Bensaer wedi’i benodi eto, gofynnwyd i Minoprio & Spencely (awduron y prif gynllun) wneud y gwaith cynllunio. Mae’r canlyniad yn atgoffa rhywun o’r mudiad Gardd-bentref: tai pâr wedi’u rendro’n wyn, wedi’u gosod ar hyd rhodfa grom gyda ffyrdd pengaead byr a llecyn gwyrdd. Er mwyn sicrhau bod y trigolion yn teimlo eu bod yn byw mewn lle agored braf, fe grëwyd lleiniau llydan o laswellt a phlannwyd coed a gwrychoedd.

Neuadd Sirol Gwent

Ar ôl chwilio am flynyddoedd am safle addas ar gyfer Neuadd Sirol newydd i gymryd lle’r adeilad yng Nghasnewydd a godwyd ym 1889, fe ddewisodd y Cyngor Sir safle yng Nghroesyceiliog ar gyfer y cynllun pwysig newydd. Cafodd ei chynllunio gan gwmni RMJM a’i hadeiladu rhwng 1969 a 1977 a daeth yn gartref i Gyngor Sir Gwent a oedd newydd gael ei ffurfio. Ystyriai llawer o bobl mai’r adeilad trawiadol hwn gyda’i rodfeydd terasog oedd yr orau o blith yr holl neuaddau sir newydd a godwyd, ond cafodd ei dymchwel yn 2013.

Ysgol Croesyceiliog

Parhaodd Cyngor Sir Fynwy, fel yr Awdurdod Addysg Lleol, yn gyfrifol am ysgolion yn y Dref Newydd, ond bu cydweithredu agos rhyngddo a’r Gorfforaeth. Cafodd llawer o’r ysgolion cynnar eu cynllunio gan adran benseiri Sir Fynwy, a fanteisiodd ar y cyfle i greu ‘dull sirol’. Un o’r prosiectau addysgol pwysicaf oedd campws Croesyceiliog, a gynlluniwyd fel dwy ysgol ramadeg un-rhyw, ysgol uwchradd fodern, ac ysgol dechnegol. Dim ond ysgol ramadeg gydaddysg a’r ysgol uwchradd fodern a adeiladwyd yn y diwedd, ond ar ddiwrnod agor yr ysgol ramadeg ym 1959 fe gafodd ei disgrifio’n un o’r rhai gorau o ran adnoddau i gael ei hadeiladu gan unrhyw awdurdod yng Nghymru a Lloegr ers y rhyfel. Aeth y bartneriaeth ati hefyd i wneud mwy o ddefnydd o’r ysgolion newydd drwy ddarparu addysg oedolion yn y nos, a hynny’n llwyddiannus iawn. Cafodd yr ysgol ei dymchwel a chodwyd un newydd yn ei lle yn 2019.

Parc Hamdden Canolog Crow Valley

Roedd cadw a chreu ardaloedd gwyrdd agored yn hanfodol bwysig i ddelfryd y Dref Newydd ac i Gorfforaeth Datblygu Cwmbrân. Clustnodwyd 22 hectar ar gyfer canolfannau chwaraeon ac ar gyfer meysydd chwarae i ddiwydiant, a 3.5 erw (104 hectar) am bob 1,000 o bobl ar gyfer caeau chwarae a ierdydd chwarae i’r cymdogaethau. Hefyd fe roddwyd cynllun plannu mawr ar waith ar hyd a lled y dref, ac erbyn mis Mawrth 1988 roedd 40,557 o goed a 699,097 o lwyni wedi’u plannu. Y parc mwyaf uchelgeisiol oedd Parc Hamdden Canolog Crow Valley yn Llanfrechfa. Roedd yn ymestyn dros 57 hectar ac yn cynnwys llyn cychod, ystafelloedd te, llynnoedd bywyd gwyllt, mannau chwarae, cwrs golff a chyfleuster Chwaraeon Cymunedol. Cafodd ardaloedd helaeth o goed a llwyni eu plannu yn y parc sy’n cael ei ystyried gan bobl leol yn ‘werddon yng nghanol y dref’.

Murluniau Sgwâr Gwent

Sgwâr Gwent yw un o ddau brif sgwâr i gerddwyr yn unig yng nghanol Tref Newydd Cwmbrân. Roedd wrth galon amryfal gynlluniau’r Gorfforaeth i greu hunaniaeth i’r Dref Newydd. Un o’r cynlluniau oedd y tri murlun bendigedig hyn a gomisiynwyd ym 1974. Cawsant eu creu gan Henry Collins a Joyce Pallot a’u gwneud o goncrit wedi’i gastio ac maen nhw’n portreadu cyfnodau yn hanes Sir Fynwy/Gwent: yr Oes Haearn, Rhufeinig, Canoloesol, a Diwydiannol. Y rhain yw’r unig weithiau celf yng Nghymru sy’n cael eu priodoli ar hyn o bryd i’r artistiaid hyn.

Ymunwch â ni yfory, Dydd Iau 9 Rhagfyr, am 5pm ar gyfer Darlith y Nadolig ar-lein am ddim eleni a roddir gan Susan Fielding: Cwmbrân: ‘Where the Future is Happening Now!’

Seilir y sgwrs hon ar gyhoeddiad digidol di-dâl newydd: ‘Cwmbran New Town: An Urban Characterisation Study’, hefyd gan Susan Fielding. Bydd hwn ar gael yfory hefyd, fel eLyfr am ddim o’n siop lyfrau ar-lein.

12/08/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x