CBHC / RCAHMW > Newyddion > Cwmbrân: ‘Lle mae’r Dyfodol yn Digwydd yn Awr!’
Early day sin Cwmbran. (Cover image) Gwent archives.

Cwmbrân: ‘Lle mae’r Dyfodol yn Digwydd yn Awr!’

Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol eleni: “Cwmbran: ‘Where the Future is Happening Now!’ gan Susan Fielding, Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol), ar Ddydd Iau, 9 Rhagfyr am 5pm.

Cafodd Cwmbrân, a ddewiswyd yn hoff Dref Newydd Prydain

Cafodd Cwmbrân, a ddewiswyd yn hoff Dref Newydd Prydain* yn 2021, ei hadeiladu fel rhan o raglen uchelgeisiol i weddnewid bywydau miliynau o bobl wedi cyni’r Ail Ryfel Byd. Er nad yw’n cael llawer o sylw, mae Cwmbrân yn enghraifft hynod ddiddorol, a hynod bwysig, o sut y cafodd cynllunio a phensaernïaeth eu cyfuno i greu math newydd o dref i’r werin. Yn y sgwrs hon fe olrheinir hanes Corfforaeth Datblygu Cwmbrân ac eglurir pam mae Cwmbrân – man geni’r Cyfeillion Eglwysi Di-gyfaill, lleoliad cwmni cynhyrchu tinsel mwyaf Ewrop, cartref y Wagon Wheel, a phrifddinas parcio di-dâl y byd – mor bwysig yn hanes amgylchedd adeiledig Cymru.

Seilir y sgwrs hon ar gyhoeddiad digidol newydd gan y Comisiwn Brenhinol. Ysgrifennwyd ‘Cwmbran New Town: An Urban Characterisation Study’ gan Susan Fielding, Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol), a bydd ar gael fel eLyfr di-dâl o’n siop lyfrau ar-lein ar ddiwrnod y ddarlith, Dydd Iau, 9 Rhagfyr.

Ceir yn y disgrifiad manwl hwn o hanes a phensaernïaeth Cwmbrân, yr unig Dref Newydd genhedlaeth-gyntaf yng Nghymru, 178 darlun atgofus o’r cyfnod o adnewyddu ar ôl y rhyfel, y cafwyd llawer ohonynt gan Archifau Gwent ac Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen, yn ogystal ag o archif y Comisiwn.

“Nid tasg adeiladu corfforol enfawr yn unig yw codi tref newydd, mae hefyd yn antur adeiladu cymdeithasol enfawr gan fod yn rhaid i’r trefi hyn fod yn gymunedau bywiog gyda’u hymwybyddiaeth ddinesig a’u balchder dinesig eu hunain”, Lewis Silkin, Deddf Trefi Newydd 1946 (cyfieithwyd o’r rhagair).

Susan Fielding, ‘Cwmbran New Town: An Urban Characterisation Study’ (CBHC 2021), 134 tudalen a 178 darlun, ISBN: 978-1-871184-59-7. Ar gael fel eLyfr di-dâl o siop lyfrau’r Comisiwn Brenhinol o Ddydd Iau, 9 Rhagfyr 2021.

*John Grindrod’s (@Grindrod) World Cup of UK New Towns. Pleidlais Twitter 2021 

Delweddau

  1. Dyddiau cynnar yng Nghwmbrân (llun y clawr). Archifau Gwent.
  2. Braslun pensaernïol gan J. C. P. West ar gyfer Canol y Dref. Casgliad Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen. Ffigur 23
  3. Ysgol Gynradd Oakfield, a adeiladwyd ym 1955-57 yn y ‘dull sirol’ a grëwyd gan Colin Jones o Adran Penseiri Cyngor Sir Fynwy, ond sy’n sefyll allan oherwydd y defnydd o gladin sinc. © Hawlfraint y Goron: Homes England ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored; Archifau Gwent: D2603/C/3472: Corfforaeth Datblygu Cwmbrân: Albwm Lluniau, Oakfield, Diddyddiad. Ffigur 28
  4. Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf, Croesyceiliog. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 52
  5. Cyffordd gylchfan Edlogan Way, ffordd reiddiol o’r cymdogaethau dwyreiniol, a Caradog Road sy’n ffurfio rhan o gylchffordd canol y dref, ynghyd â St Davids Road, un o’r prif dramwyfeydd o’r gogledd i’r de. © Hawlfraint y Goron: CBHC Ffigur 54
  6. Murluniau Gwent Square gan Henry Collins a Joyce Pallot, 1974. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 59
  7. Mae Monmouth House, a agorwyd ym 1967, yn nodedig am y cerfluniau gan William Mitchell ar siafft y lifft allanol. © Hawlfraint y Goron: CBHC.  Ffigur 67
  8. Pen deheuol y ganolfan siopa ym 1998, yn dangos cyfuniad o adeiladau a dodrefn stryd gwreiddiol ynghyd â ffryntiau siop mwy diweddar a’r canopi amddiffynnol enfawr wedi’i gynllunio gan Hildebrand & Glicker a ychwanegwyd ym 1986. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 68
  9. Northville o’r awyr yn dangos dwysedd a phatrwm y tai. © Hawlfraint y Goron: CBHC Ffigur 82
  10. Eglwys y Methodistiaid yn Fairhill. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 121
  11. Toeau un-codiad a ffasadau llym tai Corfforaeth Datblygu Cwmbrân yn Teynes. Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigurau 13
  12. Cwmbrân: Y dref lle mae’r dyfodol yn digwydd yn awr… Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen. Ffigur 171
Dyddiau cynnar yng Nghwmbrân (llun y clawr). Archifau Gwent.
1. Dyddiau cynnar yng Nghwmbrân (llun y clawr). Archifau Gwent.
Braslun pensaernïol gan J. C. P. West ar gyfer Canol y Dref. Casgliad Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen. Ffigur 23
2. Braslun pensaernïol gan J. C. P. West ar gyfer Canol y Dref. Casgliad Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen. Ffigur 23
Ysgol Gynradd Oakfield, a adeiladwyd ym 1955-57 yn y ‘dull sirol’ a grëwyd gan Colin Jones o Adran Penseiri Cyngor Sir Fynwy, ond sy’n sefyll allan oherwydd y defnydd o gladin sinc. © Hawlfraint y Goron: Homes England ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored; Archifau Gwent: D2603/C/3472: Corfforaeth Datblygu Cwmbrân: Albwm Lluniau, Oakfield, Diddyddiad. Ffigur 28
3. Ysgol Gynradd Oakfield, a adeiladwyd ym 1955-57 yn y ‘dull sirol’ a grëwyd gan Colin Jones o Adran Penseiri Cyngor Sir Fynwy, ond sy’n sefyll allan oherwydd y defnydd o gladin sinc. © Hawlfraint y Goron: Homes England ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored; Archifau Gwent: D2603/C/3472: Corfforaeth Datblygu Cwmbrân: Albwm Lluniau, Oakfield, Diddyddiad. Ffigur 28
Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf, Croesyceiliog. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 52
4. Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf, Croesyceiliog. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 52
Cyffordd gylchfan Edlogan Way, ffordd reiddiol o’r cymdogaethau dwyreiniol, a Caradog Road sy’n ffurfio rhan o gylchffordd canol y dref, ynghyd â St Davids Road, un o’r prif dramwyfeydd o’r gogledd i’r de. © Hawlfraint y Goron: CBHC Ffigur 54
5. Cyffordd gylchfan Edlogan Way, ffordd reiddiol o’r cymdogaethau dwyreiniol, a Caradog Road sy’n ffurfio rhan o gylchffordd canol y dref, ynghyd â St Davids Road, un o’r prif dramwyfeydd o’r gogledd i’r de. © Hawlfraint y Goron: CBHC Ffigur 54
Murluniau Gwent Square gan Henry Collins a Joyce Pallot, 1974. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 59
6. Murluniau Gwent Square gan Henry Collins a Joyce Pallot, 1974. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 59
Mae Monmouth House, a agorwyd ym 1967, yn nodedig am y cerfluniau gan William Mitchell ar siafft y lifft allanol. © Hawlfraint y Goron: CBHC.  Ffigur 67
7. Mae Monmouth House, a agorwyd ym 1967, yn nodedig am y cerfluniau gan William Mitchell ar siafft y lifft allanol. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 67
Pen deheuol y ganolfan siopa ym 1998, yn dangos cyfuniad o adeiladau a dodrefn stryd gwreiddiol ynghyd â ffryntiau siop mwy diweddar a’r canopi amddiffynnol enfawr wedi’i gynllunio gan Hildebrand & Glicker a ychwanegwyd ym 1986. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 68
8. Pen deheuol y ganolfan siopa ym 1998, yn dangos cyfuniad o adeiladau a dodrefn stryd gwreiddiol ynghyd â ffryntiau siop mwy diweddar a’r canopi amddiffynnol enfawr wedi’i gynllunio gan Hildebrand & Glicker a ychwanegwyd ym 1986. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 68
Northville o’r awyr yn dangos dwysedd a phatrwm y tai. © Hawlfraint y Goron: CBHC Ffigur 82
9. Northville o’r awyr yn dangos dwysedd a phatrwm y tai. © Hawlfraint y Goron: CBHC Ffigur 82
Eglwys y Methodistiaid yn Fairhill. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 121
10. Eglwys y Methodistiaid yn Fairhill. © Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigur 121
Toeau un-codiad a ffasadau llym tai Corfforaeth Datblygu Cwmbrân yn Teynes and Steils. Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigurau 134 a 135
11. Toeau un-codiad a ffasadau llym tai Corfforaeth Datblygu Cwmbrân yn Teynes. Hawlfraint y Goron: CBHC. Ffigurau 134
Cwmbrân: Y dref lle mae’r dyfodol yn digwydd yn awr… Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen. Ffigur 171
12. Cwmbrân: Y dref lle mae’r dyfodol yn digwydd yn awr… Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen. Ffigur 171

03/12/2021

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x