
Cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y Comisiwn Brenhinol
Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bawb wrth gyflawni ei swyddogaethau a’i wasanaethau, gan ei feithrin mewn amgylchedd o gyd-barch ac urddas.
Byddwn yn gwneud hyn drwy weithio’n barhaus i wella ein harferion cyflogaeth ac i fod yn fwy hygyrch i gynulleidfa sydd mor amrywiol â phosibl.
Gall hyn fod mewn perthynas â llywodraethu (drwy ymgorffori cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mholisïau, strategaethau a gwaith rheoli prosiect y Comisiwn), gweithdrefnau recriwtio (drwy adolygu ein dogfennau a’n gweithdrefnau’n barhaus), gwasanaethau llyfrgell a darllenwyr ac adnoddau ar-lein (drwy wneud cyfleusterau ac adnoddau’r Comisiwn yn fwy hygyrch), ac ymgysylltu â’r cyhoedd a gweithgareddau eraill (drwy wneud digwyddiadau’r Comisiwn yn fwy hygyrch; hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr ein gwasanaethau; ac annog mwy o bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli i gymryd rhan).
Mae’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn amlinellu ymrwymiadau’r Comisiwn, a sut yr ydym yn bwriadu eu cyflawni. I gyd-fynd â hyn mae gennym Gynllun Gweithredu blynyddol, a roddir ar waith gan y Grŵp Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sy’n cynnwys staff o bob rhan o’r Comisiwn.
Yn ystod 2016-17 cyflawnodd y Comisiwn y canlynol:
- Gwnaeth ei gyfleusterau a’i adnoddau yn fwy hygyrch drwy roi gwybodaeth am hygyrchedd a chyfleusterau defnyddwyr ar ei wefan;
- Prynodd ddolennau anwytho cludadwy ar gyfer ei Lyfrgell ac Ystafell Ymchwil a’r ystafell gynadledda;
- Ymunodd â chynllun Hyderus o ran Anabledd y llywodraeth sydd wedi cymryd lle’r cynllun ‘Dau Dic’, a hynny ar lefel un (allan o dair), sef Ymroddedig. Mae bellach wedi symud ymlaen i lefel dau fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn rydym nawr yn hysbysebu ein swyddi gwag ar Evenbreak, gwefan recriwtio sy’n cael ei rhedeg gan bobl anabl i bobl anabl;
- Trefnodd gynhadledd Gorffennol Digidol lwyddiannus mewn lleoliad llwyr hygyrch wedi’i redeg gan ymddiriedolaeth gymunedol yng Nghasnewydd, ardal Cymunedau’n Gyntaf, lle’r oedd pedwar o’r prif siaradwyr yn fenywod;
- Creodd dudalen we Cydraddoldeb ac Amrywiaeth benodol ar ei wefan gorfforaethol ailddatblygedig;
- Darparodd chwe phrif daflen ar-lein mewn fformat hygyrch;
- Gwnaeth ei Wybodaeth Gorfforaethol ar-lein yn fwy hygyrch drwy drawsnewid polisïau o fformat PDF i html;
- Gwnaeth ei ddogfennau recriwtio yn fwy hygyrch drwy roi dewis i ymgeiswyr ddefnyddio ffurflen gais wedi’i seilio ar PDF;
- Daeth yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig;
- Sefydlodd galendr cydraddoldeb i wella ymwybyddiaeth y staff a threfnodd weithgareddau i gyd-fynd â digwyddiadau ar y calendr, megis y blog ‘Coffáu Llongwyr Masnach o Orllewin Affrica a fu Farw yn y Rhyfel Mawr’ ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon.
Fel rhan o’n hymrwymiad rydym yn awyddus i geisio barn y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
Os oes gennych unrhyw adborth neu awgrymiadau, neu os hoffech gael y wybodaeth hon mewn fformat arall, Cysylltwch â Ni.
09/25/2017