
Cyfarchion y tymor a Blwyddyn Newydd dda
A hithau bron yn amser Nadolig, mae meddyliau’n troi tuag at Fethlehem a stori genedigaeth yr Iesu. Ond a wyddoch fod mwy nag un Bethlehem yn bod? Yn wir, mae deg Bethlehem ar ugain yn ymddangos yn y Rhestr Hanesyddol o Enwau Lleoedd ledled Cymru. Mae’n debyg y byddai lle ar gael yn y llety i’r Forwynig a Joseff Sant yn o leiaf un ohonynt! Ceir tair Nasareth ar ddeg hefyd. Mae tirwedd Cymru’n frith o enwau Beiblaidd fel hyn oherwydd i’r enwadau Methodistaidd eu rhoi ar eu capeli. Ambell waith, daeth enw’r capel i fod yn enw ar y pentref cyfan, fel Bethesda yng Ngwynedd.
Dymuna pawb sydd ynghlwm â’r Rhestr Hanesyddol o Enwau Lleoedd Gyfarchion y tymor, a Blwyddyn Newydd dda ichi oll.
12/22/2017