
Cyfarfod Busnes Agored y Comisiynwyr, Dydd Iau 20 Hydref 2016
Bydd y Comisiynwyr a benodwyd gan y Goron i oruchwylio gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar Ddydd Iau 20 Hydref 2016 yn swyddfeydd newydd y Comisiwn Brenhinol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3BU rhwng 4.45pm a 6.15pm. Mae’r cyfarfod yn rhan bwysig o ymrwymiad y Comisiwn Brenhinol i atebolrwydd cyhoeddus a thryloywder, ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb ddod i’r cyfarfod a gweld y Comisiynwyr ar waith.
Caiff y cyfarfod ei gadeirio gan Dr Eurwyn Wiliam a bydd yr agenda’n cynnwys cyflwyniad gan yr Ysgrifennydd, Christopher Catling, ar Gynllun Strategol 2017-20 y Comisiwn Brenhinol. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael ar ôl y cyfarfod, a chyfle bryd hynny i siarad yn anffurfiol â’r Comisiynwyr a’r staff.
Nid yw’n costio dim i fynychu’r cyfarfod ond mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael a’r cyntaf i’r felin gaiff falu.
Cysylltwch â Nicola Roberts – nicola.roberts@cbhc.gov.uk; ffôn: 01970 621248 – i gadw lle neu i ofyn am fwy o wybodaeth.
05/10/2016