
Cyfle Hyfforddiant Mewn Treftadaeth Ddiwylliannol
PRYNHAWN AGORED
yn
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,12 Gorffennaf,
4:00 – 6:00yh
Os ydych chi rhwng 18 – 24 oed, ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, heb radd, dyma gyfle i chi gael profiad o weithio ym maes diwylliant. Dewch draw am sgwrs i ddysgu mwy am y cyfleodd a gynigir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac
Amgueddfa Ceredigion.
Cyfle euraidd i ddysgu am 12 mis
ac i ennill cymhwyster NVQ Lefel 2,
gyda thâl!
Dewch draw i’r
Llyfrgell Genedlaethol, 12 Gorffennaf
rhwng 4:00 – 6:00yh i ddysgu mwy
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol
07/10/2018