
Cyfle i gael swydd: Dewch i ymuno â’n tîm arolygu i gofnodi treftadaeth Cymru!
Rydym yn chwilio am Swyddog Geomateg. Swydd barhaol yw hon, ac mae’n ddelfrydol i’r sawl sy’n dwlu ar ddata digidol – ei gasglu, ei brosesu a’i ddosbarthu.
- Amser-llawn: 37 awr yr wythnos
- Parhaol
- £26,900 – £30,610 (Ynghyd a buddion)
- Dyddiad cau: 5 o’r gloch ar 20/08/2023.
Pwrpas y swydd ac arwyddocâd y rôl
Bydd gennych rôl ganolog yn y Tîm Arolygu ac Ymchwilio. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’n holl ymchwilwyr arbenigol (mae pump ohonynt ar hyn o bryd) i ddarparu’r arbenigedd a’r cymorth geomatig sy’n angenrheidiol i’w galluogi i wneud eu gwaith. Byddwch yn arwain ar rhai elfennau ac yn helpu gydag eraill wrth wneud arolygon o safleoedd archaeolegol, henebion ac adeiladau hanesyddol ar hyd a lled Cymru, o bob cyfnod ac mewn amrywiaeth o amgylcheddau.
Mae gwaith ein hymchwilwyr arbenigol yn cwmpasu archaeoleg, archaeoleg ddiwydiannol, adeiladau hanesyddol a phensaernïaeth, archaeoleg arforol, ac arolygu o’r awyr. Bydd y tîm yn gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau, prifysgolion, a chyrff eraill i arolygu ac ymchwilio i’r amgylchedd hanesyddol a’i ddehongli. Rhai prosiectau presennol yw Pensaernïaeth yr Ugeinfed Ganrif, Adeiladau Ffydd, yr arfordir a’r parth rhynglanw a’r Tirwedd Lechi: Safle Treftadaeth y Byd.
Byddwn yn ymgymryd â’n gwaith arolygu’n ddigidol gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a chyfarpar, gan gynnwys ffotograffiaeth safonol a ffotogrametreg i wneud arolygon ffotograffig ar y tir ac yn yr awyr (awyren ysgafn a drôn), GNSS i arolygu gwrthgloddiau, a laser-sganio i arolygu adeiladau. Byddwn hefyd yn comisiynu cwmnïau allanol i wneud gwaith arolygu geoffisegol a LiDAR, ac weithiau’n ymgymryd â phrosiectau sonar arforol mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.

Mae gennym raglen eang a bydd ein gwaith arolygu’n arwain at greu a lledaenu sawl math o gynnyrch, yn fewnol a thrwy gomisiwn, gan gynnwys cynlluniau a thrawsluniau archifol safonol, modelau 3D, animeiddiadau ail-greu, teithiau rhithiol, a Realiti Cymysg. Gallwch weld peth o’n gwaith diweddaraf yma https://sketchfab.com/CBHC_RCAHMW/collections ac yma https://www.youtube.com/@rcahmw/playlists
Byddwn hefyd yn rhoi arweiniad a chyngor ar ddulliau arolygu i sefydliadau eraill yn sector amgylchedd hanesyddol Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i ymchwilio i dechnolegau digidol arloesol ar gyfer y sector treftadaeth ac i’w datblygu, ac i dynnu sylw at y datblygiadau diweddaraf yn y maes drwy gynnal cynhadledd Gorffennol Digidol flynyddol.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â:
Louise Barker, Uwch Ymchwilydd (Archaeoleg) ar 01970 621212, e-bost louise.barker@rcahmw.gov.uk neu
Susan Fielding, Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol) ar 01970 621219, email susan.fielding@rcahmw.gov.uk
Gellir cael mwy o fanylion
Gellir cael mwy o fanylion a ffurflen gais ar ein tudalen swyddi gwag.
20/07/2023