
Cyfle i gael swydd – Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn y Comisiwn Brenhinol
- Llawn-amser: 37 awr yr wythnos
- Parhaol
- £26,900 – £30,610 (ynghyd â buddion)
- Dyddiad cau: 5pm ar 1af Hydref 2023.
Ydych chi’n meddwl eich bod yn dda am gyfleu gwybodaeth i gynulleidfa eang ac amrywiol yng Nghymru a thu hwnt?
Ydych chi’n dwlu ar dreftadaeth yn ei holl ffurfiau amrywiol – archaeoleg, adeiladau hanesyddol, hanes arforol, a chymaint o bethau eraill? Allech chi ysgrifennu blog sy’n seiliedig ar waith y Comisiwn Brenhinol, creu negeseuon yn rheolaidd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, mynychu digwyddiadau treftadaeth a chynrychioli’r Comisiwn ynddynt, ac anfon llythyrau newyddion i rwydwaith mawr o dros fil o Gyfeillion? Os felly, efallai mai hon yw’r swydd berffaith i chi!
Diben a phwysigrwydd y swydd
Mae’r Tîm Cyfathrebiadau yn gyfrifol am hyrwyddo’r Comisiwn Brenhinol a’i weithgareddau drwy raglen ymgysylltu sy’n hygyrch i gynulleidfa eang ac amrywiol. Mae gan y Comisiwn rwydwaith cryf o Gyfeillion, sy’n cael gwybodaeth yn rheolaidd am weithgareddau a digwyddiadau’r Comisiwn.
Fel aelod o’r tîm hwn, bydd y Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn chwarae rôl bwysig o ran cynnal a datblygu’r gynulleidfa hon drwy ddulliau cyfathrebu ac ymgysylltu ar-lein ac wyneb yn wyneb arloesol yn ogystal â dulliau sydd wedi ennill eu plwyf. Bydd hynny’n golygu cysylltu pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt â gwaith y Comisiwn ac adnoddau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Bydd deiliad y swydd yn aelod o dîm brwdfrydig sy’n cydweithio’n agos â’i gilydd mewn amgylchedd dwyieithog dan arweiniad y Rheolwr Cyfathrebiadau.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â: Nicola Roberts, Rheolwr Cyfathrebiadau, ffôn: 01970 621248, ebost: nicola.roberts@cbhc.gov.uk
Gellir cael mwy o fanylion
Gellir cael mwy o fanylion a ffurflen gais ar ein tudalen swyddi gwag.
13/09/2023