Cyflwyno’ch enwau lleoedd

Rhan o’n gwaith gyda’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yw annog pobl o bob cwr o Gymru i anfon eu henwau lleoedd i mewn atom. Bydd yr enwau hyn nid yn unig yn cael eu cynnwys a’u cadw yn y Rhestr am byth, ond bydd modd i’r cyhoedd chwilio amdanynt fesul ffynhonnell ar y wefan hefyd. Fel y gwelwch wrth ddefnyddio’r Chwiliad Manwl ar y wefan, mae’r rhai sydd gennym hyd yn hyn yn enwau tai, ffermydd, caeau, ac yn y blaen, a anfonwyd i mewn gan bobl yng Ngheredigion, boed yn ffrwyth prosiectau enwau lleoedd lleol, neu’n deillio o fapiau a oedd ym meddiant y teulu, neu a luniwyd ganddynt.

Blaen yr allt ddu field names 1979

Mae dros dri deg o enwau eisoes wedi cael eu casglu gan dri o Geredigion, a mwy ar y ffordd, felly dewch ymlaen, da chi, weddill Cymru! Peidiwch â gadael i’r Cardis ennill y clod i gyd! Mae enwau gennym eisoes o Ffos y Ffin, Pont Siân, ac Aberystwyth, ac yn fuan iawn bydd Cwmystwyth yn dilyn, ond beth am Fethesda, Helygain, Maenclochog neu Batrisio? Beth am Sili neu Abertyleri? Gallwch anfon eich enwau i mewn naill ai trwy’r ffurflen ymholiadau a ddeuir o hyd iddi ar y wefan, drwy anfon e-bost atom yn uniongyrchol, neu drwy siarad â’n Swyddog Enwau Lleoedd, James January-McCann ar ôl iddo roi sgwrs am y Rhestr yn eich bro. (Wrth gwrs, bydd rhaid ichi drefnu i James i ddod i siarad â chi’n gyntaf… mae ef yn rhad ac am ddim!)

Map_Penybanc

Beth ydych yn aros amdani felly? Eiddo pobl Cymru yw’r Rhestr, ac mae’n hanfodol eich bod yn cymryd meddiant ohoni. Mae miloedd ar filoedd o enwau lleoedd nad ydynt ond yn bodoli ar lafar, heb unrhyw gofnod ysgrifenedig ohonynt, a’r unig ffordd y gallwn eu hychwanegu at y Rhestr yw ichi eu hanfon atom. Felly siaradwch â’ch neiniau a’ch teidiau, gofynnwch i’ch haneswyr a’ch gwybodusion lleol, ac anfonwch yr enwau mewn os gwelwch yn dda!

27/02/2018

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x