
Cyfoethogi’r Rhestr …
Ym mis Mehefin 2016 fe lansiodd Historic England ‘Enriching The List’, datblygiad o Restr Treftadaeth Genedlaethol Lloegr (NHLE), er mwyn galluogi’r rheiny sy’n defnyddio’r Rhestr i ychwanegu gwybodaeth am y safleoedd archaeolegol, adeiladau hanesyddol a drylliadau wedi’u diogelu sydd arni ac i gyfrannu ffotograffau ohonynt.
Ceir ar Y Rhestr bron 400,000 o gofnodion, a hyd yma mae Historic England wedi derbyn mwy na 10,000 o gyfraniadau, yn cynnwys 15,000 o ddelweddau. Bydd Martin Newman, Rheolwr Rhestru Gwybodaeth Historic England, yn trafod sut y datblygwyd y platfform gan ddefnyddio technoleg ffynhonnell agored a methodoleg Agile. Bydd hefyd yn edrych ar ganlyniadau’r prosiect ac yn trafod sut mae’n llwyddo yn nhermau estyn-allan ac ymgysylltu, yn ogystal â darparu gwybodaeth werthfawr i’r sefydliad.
Clod Llun: Phil Hurd
Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
10/02/2017