
Cyfraniad anhepgor llongau i’r byd!
Mae’n Ddiwrnod Morwrol y Byd heddiw – diwrnod a roddwyd o’r neilltu i ddathlu’r diwydiant sydd, yn ddistaw ac effeithlon, ddydd a nos, yn sicrhau bod pobl y byd yn cael eu bwydo, eu dilladu a’u cadw’n ddiddos, ac yn darparu’r holl ‘hanfodion’ bach hynny na allwn wneud hebddynt erbyn hyn.

Mae’r detholiad uchod yn dangos ffotograffau diweddar a dynnwyd gan ein hymchwilydd ni – y FLYING FOAM, sgwner a ddrylliwyd ger Deganwy ym 1936 (chwith uchaf), ac ysgerbwd llong ar flaendraeth Sandy Haven, Sir Benfro (de gwaelod) – a golygfeydd mwy hanesyddol o’n casgliadau megis llongau’n cael eu llwytho â glo (de uchaf) a badau pleser yn harbwr Dinbych-y-pysgod (chwith gwaelod).
Mae’r llongau a gollwyd oddi ar arfordir Cymru ac a gofnodwyd yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru – bron 6,000 o longddrylliadau yn perthyn i 17 genedl o leiaf – yn adlewyrchu natur ryngwladol ein treftadaeth forwrol.
Ceir yn ein casgliadau o ffotograffau lawer o luniau o’r llongau hyn, yn y porthladd a hefyd yn eu gorffwysfan olaf. Rydym wedi casglu ynghyd ddetholiad ohonynt mewn oriel ar-lein arbennig i’w coffáu ac i ddathlu’r diwrnod.
Mae maint llongau modern yn hollol syfrdanol. Er enghraifft, gall llongau cynwysyddion mwyaf y byd, MSC OSCAR ac CSCL GLOBE, gario mwy na 19,000 o gynwysyddion neu 39,000 o geir. Gall llongau eraill gludo digon o rawn i fwydo bron pedair miliwn o bobl am fis; digon o olew i wresogi dinas gyfan am flwyddyn, neu ddigon o nwyddau gorffenedig i lenwi rhyw 20,000 o lorïau mawr.
Ers canrifoedd lawer, llongau fu’r ‘peiriannau’ mwyaf cymhleth a grëwyd gan ddyn ac, yn sicr, maen nhw wedi cadw eu statws fel un o ryfeddodau peirianegol mwyaf y byd!

Mae dadansoddiad o’r llongau o wledydd tramor a gollwyd yn cadarnhau natur ryngwladol cysylltiadau morwrol Cymru.
Mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys fideos tanddwr o safleoedd llongddrylliadau, er enghraifft, y ROYAL CHARTER a gollwyd oddi ar Foelfre ym mis Hydref 1859: https://www.casgliadywerin.cymru/items/476122
09/29/2016