
Cyfweliad Chwe Deg Eiliad
Cyfwelasom Catherine Harding ein Comisiynydd am ei gwaith.
Teitl od yw Comisiynydd Brenhinol. Beth yn union ydych yn ei wneud?
Mae bod yn Gomisiynydd Brenhinol, gan fwyaf, ychydig bach fel bod ar Fwrdd Llywodraethwyr corff arall. Fel grŵp, mae’r Comisiynwyr yn darparu trosolwg o reolaeth y corf, felly rydym yn dod ynghyn yng nghyfarfodydd cyson i fwrw golwg dros yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni (peth wmbreth fel arfer) ond hefyd i helpu ffurfio a siapio cyfeiriad dyfodol Gwaith y Comisiwn. Rydym weithiau’n cymryd rhan mewn prosiectau neu feysydd Gwaith penodol, yn dibynnu ar arbenigedd y Comisiynydd.
Sut y cawsoch y swydd?
Gwneuthum gais, cefais fy nghyfweld (mewn Caerdydd a oedd yn wyn ag eira), ac fe’m penodwyd! Cyd-weithiwr a ddaeth â’r cyfle at fy sylw; bu’r Comisiwn yn edrych ar adeg honno am arbenigedd mewn cadwraeth ddigidol, ac yr oeddwn yn siwtio i’r dim. Yr oedd yn broses agored iawn, heb fod yn or-gymhleth, er ei bod ychydig yn od i orfod aros am i’r Frenhines arwyddo eich cynnig gwaith!
Rydych yn eich ail dymor bellach, felly beth sy’n eich plesio am y rôl?
Ydw, deuthum yn Gomisiynydd yn 2010 ac rwy’n meddwl mai fi oedd y Comisiynydd benywaidd ieuaf i gael ei phenodi ar y pryd, ac yr oedd peth ofn arnaf i gael fy amgylchynu gan gyfoeth sgiliau a gwybodaeth fy nghyd-Gomisiynwyr. Ond bu pawb mor gyfeillgar a chroesawgar, felly magais hyder ac yr oeddwn yn medru cyfrannu cyn bo hir. Myfi yw’r Is-gadeirydd bellach, felly mae’n rhaid fy mod wedi bod yn gwneud rhywbeth yn gywir!
Rwy’n hoffi’r cyfeillgarwch ymysg fy nghyd-Gomisiynwyr, ac mae gweithio gyda sefydliad bach, sy’n gweithredu ar lefel uchel, fel y Comisiwn Brenhinol wastad yn cynnig heriau a phethau newydd sy’n cadw fy niddordeb yn fyw, ac yn peri imi ddysgu pethau newydd trwy’r amser. Mae’r diddordeb rydym yn ei rannu yn amgylchedd hanesyddol Cymru’n golygu ein bod yn gweithio fel tîm i gyrraedd ein hamcanion i gyd; mae’n foddhaol iawn.
Beth ydych wedi’i ddysgu o’ch profiad?
Dysgais i beidio ag amcangyfrif fy hun yn rhy isel; ein bod yn gallu, trwy gydweithio, ddod â phrofiad at y bwrdd sy’n fwy ynghyd bac y mae ar wahân. Rwyf wedi dod a’r profiad eang hwnnw’n ôl at fy swydd bob dydd, ac rwy’n sicr ei fod yn gyfrifol am fy llwyddiant gyrfaol.
Os ydych â diddordeb mewn dod yn Gomisiynydd rydym yn chwilio am bobl i ymuno â ni. Mae manylion pellach ar gael yma.
08/24/2018