
Cymru a chofebau’r Rhyfel Byd Cyntaf
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
---|
Er i gan mlynedd fynd heibio ers i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben, mae effeithiau technolegol, gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol a diplomataidd dwys y Rhyfel yn parhau hyd heddiw. Gadawodd y Rhyfel ei ôl mewn llawer ffordd – Cytundeb Heddwch Paris, y bleidlais i ferched, y chwyldro yn Rwsia a phandemig ffliw Sbaen i enwi ond rhai. Gweddnewidiodd y digwyddiadau hyn Gymru a’r byd ehangach ac mae’n sicr y cânt eu coffáu yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Sut bynnag, mae’n debyg mai gwaddol mwyaf amlwg a pharhaol y Rhyfel o ran amgylchedd adeiledig Cymru yw’r cofebau rhyfel a godwyd ar hyd a lled y wlad i anrhydeddu’r rhai a gollwyd.

Mae llawer o gofebau rhyfel wedi’u lleoli yng nghanol eu cymunedau, fel hon yn Llanbadarn Fawr (NPRN 32631) y ceir arysgrif arni mewn Lladin, Cymraeg a Saesneg.
Oherwydd graddfa enfawr y colledion ar y ffrynt gorllewinol a meysydd brwydro eraill yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, penderfynwyd nad oedd yn ymarferol dod â chyrff y milwyr a laddwyd yn ôl i Brydain. Felly nid oedd gan y teuluoedd a oedd yn galaru yng Nghymru gyrff i’w claddu na beddau i gofio am eu hanwyliaid, yn agos at gartref o leiaf. Ar ôl i’r Rhyfel ddod i ben, fe ddechreuodd y Comisiwn Ymerodrol Beddau Rhyfel (Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn ddiweddarach) y gwaith o sefydlu a chynnal mynwentydd a beddau milwyr y Gymanwlad ym mhedwar ban byd, ac mae’n parhau â’r rôl hon heddiw. Serch hynny, roedd y beddau hyn, ar feysydd brwydro mewn gwledydd tramor, yn rhy bell i lawer o deuluoedd fynd iddynt. Felly penderfynodd y mwyafrif o gymunedau yng Nghymru fod angen cofebau lleol i’r dynion lleol a oedd wedi ymladd ac wedi marw yn y Rhyfel, y gallai’r teuluoedd fynd iddynt i dalu teyrnged ac i fynegi eu galar.
![]() Chwith: Rhif Catalog: C576813 Cyfeirnod Ffeil: DS2013_394_001 |
![]() De: Rhif Catalog: C577334 Cyfeirnod Ffeil: DS2013_394_002 |
Mae’r rhan a chwaraeodd cofebau fel lleoedd cysegredig i alarwyr pan oedd beddau eu hanwyliaid yn bell i ffwrdd yn cael ei bwysleisio gan y symbolaeth a welir weithiau yn eu cynllun. Enghraifft amlwg o hyn yw cofeb Penarlâg (NPRN: 419291) uchod. |
Yr hyn sy’n fwyaf arbennig efallai am y cofebau rhyfel hyn, er bod o leiaf tair mil ohonynt yng Nghymru – ymron pob pentref, tref a dinas – yw bod pob un ohonynt yn unigryw. Y rheswm am hyn i raddau helaeth yw mai pobl leol a wnaeth feddwl amdanynt, eu cynllunio a’u hariannu, heb unrhyw gyfarwyddyd canolog gan y llywodraeth. O ganlyniad, maent hwy mor amrywiol eu cynllun a’u ffurf ag y maent hwy’n niferus. Mae dyluniadau’r cofebau’n amrywio o senotaffau a cherfluniau i neuaddau a llechi coffa.

NPRN 96380. Rhif Catalog: C577261 Cyfeirnod Ffeil: DS2013_388_002

NPRN 32845. Rhif Catalog: C579273 Cyfeirnod Ffeil: DS2013_447_003
Heddiw, mae cofebau rhyfel yn rhan mor gyfarwydd o’r dirwedd fel nad ydym yn sylwi arnynt bron. Serch hynny, maent hwy wedi parhau’n rhan anhepgor o weithgareddau coffáu, yn enwedig yn ystod y flwyddyn sy’n nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Mawr. Mae llawer o bobl a sefydliadau wedi defnyddio’r canmlwyddiant i adfer cofebau rhyfel neu i wneud ymchwil i’r enwau sydd wedi’u cofnodi arnynt. Mae hyn yn sicrhau nad yw’r bywydau y tu cefn i’r enwau’n cael eu hanghofio a bod y cofebau’n parhau’n gysylltiad gweladwy, lleol a hanfodol â’r gorffennol.
Darllen pellach:
Barlow, R. Wales and World War One, Ceredigion, 2014.
Gaffney, A. Aftermath: Remembering the Great War in Wales. Cardiff, 1998. [Astudiaeth o gofebau rhyfel Cymru]
Cadw, Gofalu am Gofebau Rhyfel yng Nghymru, 2014. Llyfryn y gellir ei gael gan: http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/historicenvironment/140324caringforwarmemorialsinwalesen.pdf
CBHC, ‘Y Rhwyg o Golli’r Hogia’, Trysorau Cudd, 2008, tt. 256-7.
Gweler prosiect CBHC – Prosiect Llongau-U Cymru 1914-18: Coffáu’r Rhyfel ar y Môr, http://uboatproject.wales/
Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, http://www.walesremembers.org/
Cronfa ddata CBHC – Coflein, http://www.coflein.gov.uk/en
Tanysgrifiwch i borthiant newyddion y Comisiwn Brenhinol
11/16/2018