
Cymru drwy lygaid Paul R Davis

Eglwys y Santes Fair, Y Fenni, gyda Cennin Pedr c.2011PRD_02_0157
Rydym yn ddiolchgar i Paul R Davis am roi casgliad o’i ffotograffau, adroddiadau a lluniadau’n ymwneud â lleoedd yng Nghymru i’r Cofnod Henebion Cenedlaethol yn ddiweddar. Maen nhw’n dyddio o’r 1980au i’r presennol, ac yn eu plith ceir ffotograffau o dai cyn ac ar ôl iddynt gael eu hadnewyddu, ffynhonnau sanctaidd ar hyd a lled Cymru, ogofeydd a threfluniau yn ogystal â delweddau gwych o safleoedd mwy eiconig y wlad. I bori’r casgliad llawn, cliciwch yma.
Mae ffotograffau Paul R Davis wedi ein hysbrydoli i greu oriel newydd ar gyfer dydd Gŵyl Dewi. Mae’r detholiad bach hwn o luniau bendigedig Paul yn dangos lleoedd ledled Cymru, llawer ohonynt mewn môr o heulwen wanwynol ogoneddus. Faint ohonynt y gallwch chi eu hadnabod?
Rydym yn croesawu adneuo a/neu roi dogfennau, ffotograffau a llyfrau’n ymwneud â safleoedd a thirweddau archaeolegol, pensaernïol, diwydiannol ac arforol Cymru. Os hoffech drafod adnau/rhodd byddem yn falch o glywed gennych.
01/03/2017