
Cymru Sanctaidd : Pleidleisiwch dros eich Hoff Eglwys neu Gapel
Er mwyn dathlu a chodi ymwybyddiaeth o dreftadaeth grefyddol Cymru mae’r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol (yr elusen sy’n cefnogi adeiladau eglwysig yn y DU) wedi trefnu ‘Cymru Sanctaidd ─ Sacred Wales’ i roi cyfle i bobl ddewis hoff gapel neu eglwys Cymru. Mae mwy na 4,500 o eglwysi a chapeli’n cael eu mynychu yng Nghymru ac mae gennym rai o’r adeiladau crefyddol mwyaf prydferth a hanesyddol yn y byd, gan gynnwys eglwysi hynafol, cadeirlannau canoloesol, a chapeli gwledig.
Gallwch ddewis o blith hanner cant o addoldai o bob cwr o Gymru sydd wedi cael eu henwebu gan eglwysi a chapeli a sefydliadau crefyddol a threftadaeth.
Maen nhw’n cynnwys Eglwys St Nicholas’ , Y Grysmwnt y mae ganddi’r to dyddiedig hynaf yng Nghymru (1214-44); Capel Santes Gwenfrewi, Treffynnon sy’n fan pererindota i lawer o bobl o hyd; ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi gyda’i nenfwd nodedig o gyfnod y Dadeni.

Eglwys St Nicholas’ Y Grysmwnt, nprn: 221965

Capel Santes Gwenfrewi, Treffynnon nprn: 32328)

Eglwys Gadeiriol Tyddewi ,nprn: 306, gyda’i nenfwd nodedig o gyfnod y Dadeni.

Tŷ Cwrdd y Pales, Llandegley, Pen-y-bont, nprn: 8264
Rhai o’r capeli ar y rhestr yw Tŷ Cwrdd y Pales, Llandegley, Pen-y-bont , tŷ cwrdd hynaf y Crynwyr sydd wedi’i ddefnyddio’n ddi-dor yng Nghymru a’r unig gapel yng Nghymru sydd â tho gwellt; Capel Maesyronnen, Maesyronnen, yr unig adeilad capel o darddiad canoloesol yng Nghymru, a drwyddedwyd o dan Ddeddf Goddefiad 1689 ac a sylfaenwyd ym 1691; yn ogystal â Chapel Newydd, Nanhoron; Capel Als, Llanelli; a Chapel y Bedyddwyr, Crane Street, Pont-y-pŵl. Dyma ychydig yn unig o’r hanner cant o eglwysi a chapeli bendigedig sydd ar y rhestr o enwebiadau.

Capel Maesyronnen, Maesyronnen nprn: 8238

Chapel Newydd, Nanhoron, nprn: 6974

Capel Als, Llanelli, nprn: 6419

Chapel y Bedyddwyr, Crane Street, Pont-y-pŵl, nprn: 10791
Gallwch bleidleisio ar-lein yn www.sacredwales.org.uk hyd 31 Awst 2017.
Cyhoeddir enw’r capel neu eglwys fuddugol ar 28 Medi 2017 a bydd yn derbyn tlws ‘Cymru Sanctaidd – Sacred Wales’ a siec am £500.
Pwy fydd yn cael eich pleidlais chi?
08/02/2017