Cynhadledd Gorffennol Digidol Di-dâl, Chwefror 2021

Ymunwch â ni fel rhan o gynulleidfa fyd-eang ar gyfer Cynhadledd Gorffennol Digidol Ryngwladol ar-lein ddi-dâl eleni. Gellir gweld y rhaglen yma.

Yn ogystal â gweithdai dros gyfnod o bedwar diwrnod, fe fydd diwrnod llawn o sgyrsiau gan siaradwyr o bedwar ban byd ar Ddydd Mercher 10 Chwefror.

Nid yw’n costio dim i gofrestru ar gyfer Gorffennol Digidol 2021 ond rhaid gwneud hynny erbyn 5 Chwefror 2021. Cliciwch yma i gofrestru. Byddwch chi’n derbyn cyswllt drwy e-bost i ymuno â’r gynhadledd ar Zoom.

Gweler manylion llawn y gynhadledd yma.

Dyma ragolwg o’r holl sgyrsiau ysbrydoledig a gyflwynir ar Ddydd Mercher 10 Chwefror – pa rai y byddwch chi’n eu dewis? Fe gewch gyfle i ymuno â’r trafodaethau a gofyn cwestiynau i’r siaradwyr ar ddiwedd pob sesiwn.


09:15 – 10:45: Prif Sesiwn 1

Yr Athro Diao Changyu, Yr Athro Li Zhirong
a Ning Bo, ymchwilydd, yn trafod prosiect argraffu 3D. / Llun CGTN

Ail-wneud y gorffennol I ddechrau’r diwrnod, fe fydd Zhirong Li a Changyu Diao, arweinwyr tîm ymchwil digidol yn y Sefydliad Ymchwil Treftadaeth Ddiwylliannol, Prifysgol Zhejiang, China, yn siarad am eu gwaith, gan gynnwys y rhaglen uchelgeisiol i ddigido Ogofdai enwog Yungang. 

With the Yungang Grotto Academy, we built the world’s first portable real-size 3d-printed grotto replica. With the Longmen Grotto Academy, we created the real-size 3d-printed niche replicas with the finest details. Both of the results exhibited in museums in China, marking new methods of digital preserving and remaking the past.”


Dyfodol Hanes: Cryfhau Hanesion Cyhoeddus drwy Ymyriadau Digidol Chao Tayiana, sylfaenydd African Digital Heritage. Cafodd y corff nid-er-elw hwn yn Kenya ei sefydlu i hybu ymagwedd fwy beirniadol, gyfannol a gwybodaeth-seiliedig at ddylunio a gweithredu datrysiadau digidol o fewn treftadaeth ddiwylliannol Affrica.

We love experimenting with new technologies. From virtual reality to mobile applications. Our experiments fuel our curiosity but they also push us outside our comfort zone. Most importantly they allow us to imagine alternate realities and visualize history in interactive, immersive ways.


11:00 – 12:15: Sesiwn Gyfochrog 1 – Treftadaeth Ddigidol

The Emotive Project Bydd Maria Economou, Athro Treftadaeth Ddiwylliannol Ddigidol yn yr Hunterian, Glasgow, amgueddfa gyhoeddus hynaf yr Alban, yn trafod dehongli treftadaeth ddiwylliannol ddigidol mewn perthynas â denu ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, a hynny ar sail gwaith yr Emotive Project, prosiect treftadaeth wedi’i ariannu gan yr UE sydd â’r nod o ddefnyddio storïa emosiynol i weddnewid ein profiad o safleoedd treftadaeth.

Emotional engagement is increasingly recognised as a key outcome for visitors – not just learning about things, but engaging in depth in the different collections.


Gwirionedd, Moeseg a Thechnegau Mynegiannol: Gwneud Fideos Digidol i Gofnodi a Dehongli Archaeoleg a Threftadaeth Ddiwylliannol Bydd Sarah Colley o Brifysgol Caerlŷr yn rhoi sgwrs ar: Gwirionedd, Moeseg a Thechnegau Mynegiannol: Gwneud Fideos Digidol i Gofnodi a Dehongli Archaeoleg a Threftadaeth Ddiwylliannol. Bydd hi’n defnyddio ei phrofiadau ymarferol fel archaeolegydd proffesiynol a chynhyrchydd fideos digidol i ystyried,“ideas about truth, representation, ethics and the role of expressive techniques when making online videos about archaeology and heritage for research, education and public outreach.


Realiti Estynedig, Hanes Cynhwysol: Defnyddio Technoleg Realiti Estynedig i Archwilio Hanesion Campws Amrywiol Bydd Paul Quigley, Jessica Taylor, Alex O’Dea, Kenny Barnes ac Emily Humes o’r Visualising History Project, Virginia Tech, UDA yn rhoi sgwrs ar: Realiti Estynedig, Hanes Cynhwysol: Defnyddio Technoleg Realiti Estynedig i Archwilio Hanesion Campws Amrywiol.

We’re currently exploring new ways to analyze historical documents using the latest visualization techniques. We’re using 3D artifacts and building models to bring the past to life. We’re interviewing witnesses and descendants to share their stories in compelling new ways.


11:00 – 12:15: Sesiwn Gyfochrog 1 – Data Digidol

Archaeoleg wrth Fy Ymyl – Archwilio’n Ddaearyddol Gasgliadau o Adroddiadau Llenyddiaeth Lwyd Bydd Nicholas Pitt, archaeolegydd a hanesydd ym Mhrifysgol New South Wales, Awstralia yn rhoi sgwrs ar: Archaeoleg wrth Fy Ymyl – Archwilio’n Ddaearyddol Gasgliadau o Adroddiadau Llenyddiaeth Lwyd sy’n edrych ar ffyrdd newydd o ddod o hyd i adroddiadau archaeolegol drwy ddefnyddio mapio rhyngweithiol ac offer digidol eraill ar gyfer gwaith ymchwil.

I’m passionate about trying to find ways to use digital tools to help improve professional and academic research – to improve what we can do with limited time and resources.


Yr Archif Ddarlledu Genedlaethol Bydd Einion Gruffudd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn rhoi sgwrs ar yr Archif Ddarlledu Genedlaethol.  Bydd y prosiect arloesol i greu Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru yn sicrhau bod tua 240,000 awr o raglenni radio a theledu Cymreig, sy’n olrhain bron 100 mlynedd o ddarlledu yn yr 20fed ganrif, ar gael ac yn ddiogel i’r cenedlaethau a ddaw.

The National Broadcasting Archive is a huge treasury, and we need the help of volunteers so that the project can reach its potential.


Tueddiadau mewn Technolegau Digidol: Hunaniaethau Rhyweddol mewn Data Amgueddfaol Bydd Victoria Guzman, ymchwilydd yn yr  Observatorio Políticas Culturales, Chile, yn rhoi sgwrs ar: Tueddiadau mewn Technolegau Digidol: Hunaniaethau Rhyweddol mewn Data Amgueddfaol.

“I will explore the complexities associated with gendered data in relation to Chilean museums, and with recognizing and accommodating identities that lie outside what has been shaped as ‘the norm’.”


13:00 – 14:45: Prif Sesiwn 2 – Treftadaeth Ddigidol


Lluniau: Louise Barker and Kieran Craven

Dronau, Cychod, Laserau a Rhaffau. Astudio Effeithiau Newid Hinsawdd ar Safleoedd a Thirweddau Treftadaeth Arfordirol Cymru ac Iwerddon yn y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol Agos Bydd Louise Barker a Kieran Craven yn cyflwyno’r Prosiect CHERISH sy’n dwyn ynghyd dîm amlddisgyblaethol o archaeolegwyr, daearegwyr a gwyddonwyr amgylcheddol i gofnodi a monitro effeithiau newid hinsawdd ar rwydwaith o safleoedd arfordirol ac arforol yng Nghymru ac Iwerddon

We are employing innovative techniques to study some of the most iconic coastal locations in Ireland and Wales. CHERISH will work with communities and will widely disseminate the results and best practice for future climate change adaptation.


‘Coming in from the Cold’: Defnyddio Rhannu-Sgiliau Digidol i Ddemocrateiddio Ymgysylltu Cymunedol a Datblygu Casgliadau Bydd Drew Ellery o Ganolfan RACE ac Ymddiriedolaeth Addysg Ahmed Iqbal Ullah ym Manceinion yn siarad am y prosiect Coming in from the Cold sy’n gweithio gyda grwpiau cymunedol amrywiol sydd wedi’u tangynrychioli ar draws Manceinion Fwyaf i rannu gwybodaeth a gasglwyd ar hyd y blynyddoedd ym maes treftadaeth a helpu i ddatblygu archif sy’n cynrychioli’n well wahanol gymunedau Manceinion.

 “I will share our holistic approach to community engagement and collection development and discuss how institutions might re-negotiate dynamics of power and control within an increasingly digital landscape.


Treftadaeth ar y Dibyn: Rôl Treftadaeth o ran Cynyddu Uchelgais a Gweithredu Byd-eang yn Wyneb Newid Hinsawdd Bydd Will Megarry o Brifysgol Queen’s Belfast a Gweithgor Newid Hinsawdd a Threftadaeth Ddiwylliannol ICOMOS yn siarad am y prosiect Heritage on the Edge sy’n edrych ar bum safle treftadaeth byd y mae newid hinsawdd yn effeithio arnynt ac yn dangos sut mae pobl ar hyd a lled y byd yn defnyddio technoleg i warchod eu safleoedd diwylliannol bregus.

While climate change is predominately fuelled by large, industrialised countries, it is vulnerable communities and heritage which are most impacted. This is one of the reasons why sites were chosen from across the word.


wAVE Profiadau Ymgollol mewn Amgueddfeydd Amy Shakespeare yw Rheolwr Prosiect y prosiect wAVE Immersive Experiences in Museums a Rheolwr Arloesi Partneriaeth Amgueddfeydd Cernyw. Bydd yn siarad am ddefnyddio technolegau arloesol – fel pensetiau Realiti Rhithwir, CGI, ac ati – i alluogi ymwelwyr â phum amgueddfa yng Nghernyw ac Ynysodd Sili i weld arteffactau yn eu lleoliadau gwreiddiol a chyfarfod â chymeriadau hanesyddol fel rhan o brofiadau ymgollol newydd.

We’re really putting the museums at the heart of their communities – they’re leading the way with this innovative technology” “the thing that blows me away is when older people come in and are a bit nervous about the technology. Then they put on the headset and you hear them say ‘wow.’


Cyrchu’r Gorffennol drwy Realiti Rhithwir: Tirweddau’r Rhyfel Byd Cyntaf Bydd Todd Ogle, David Hicks a Thomas Tucker o Virginia Tech, UDA yn siarad am eu gwaith o ddelweddu profiadau’r milwyr a fu’n byw ac yn ymladd yn nhwnelau Vauquois yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

The VT Visualizing History Team’s goal has been to create an immersive, place-based experience that makes the invisible past visible for people today,” said Hicks. “Our work is guided by a single question: If this place could talk, what would it tell us about the nature and impact of World War I on the people, places, and environment on the Western Front in France?.”  


Dysgu Treftadaeth i Ddeallusrwydd Artiffisial drwy Storïa Davar Ardalan yw sylfaenydd a phrif swyddog storïa IVOW – intelligent voices of wisdom. Mae Deallusrwydd Artiffisial yn ail-lunio cymdeithas ac yn newid y ffordd rydym yn byw, dysgu, a gweithio. Yn y sgwrs hon, bydd hi’n canolbwyntio ar y gogwyddau hysbys o ran rhywedd mewn AI a setiau data dysgu peiriant, ac yn dangos mor rymus yw storïa o ran helpu peiriannau i ddysgu am rolau arloesol menywod ddoe a heddiw.

IVOW’s digital storyteller Sina is a young conversational AI, she loves learning about human history and then sharing those stories with others. That’s what gives Sina purpose. Go ahead ask Sina to tell you about Shirley Chisholm or Marie Curie.


13:00 – 14:45: Prif Sesiwn 2 – Arolygu Digidol

Sganiwr Arwyneb 3D Awtomataidd Fforddiadwy: Achos ‘Y Gamlas Fawr, Y Dyrchafael’ gan Canaletto Cymrawd ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Printiau Cain Prifysgol Gorllewin Lloegr yw Xavier Aure. Bu’n gysylltiedig â digido gweithiau celf i’r Oriel Genedlaethol, Amgueddfa Victoria ac Albert, Oriel Gelf y Guildhall, ac Amgueddfa Ludwig yn Cologne, a bu’n cydweithio ag Amgueddfa Bryste i gynhyrchu modelau 3D ar gyfer app Realiti Ychwanegol Civilisations y BBC.

Mae ar hyn o bryd yn gweithio gyda Chasgliad Abaty Woburn ac Amgueddfa Holburne yng Nghaerfaddon i arddangos canlyniadau digido paentiad o’r 18fed ganrif gan yr arlunydd Eidalaidd Canaletto mewn 3D, ar gyfer arddangosfa a gynhelir yn gynnar yn 2021.


Cymwysiadau LiDAR ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Ymchwilio i Dirweddau a Chadwraeth yn y Carneddau, Gogledd Eryri Bydd Emily La Trobe-Bateman a Bob Johnston (Prifysgol Sheffield), a John G Roberts (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri) yn dweud wrthym am eu prosiect sydd wedi defnyddio technoleg radar laser i gynnal yr arolwg archaeolegol mwyaf erioed o Eryri. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn defnyddio’r delweddau i ddeall yn well derfynau caeau ac aneddiadau cynhanesyddol a Rhufeinig dros ardal 500 milltir sgwâr

We are trying to understand how and where the land has been enclosed by unpicking the data. It is a wonderful opportunity to study it on a big scale.


Technolegau BIM a Threftadaeth Drefol yn Ninas Surat, India Bydd Busisiwe Chikomborero Ncube Makore (Prifysgol Salford) a Lukman E Mansuri (Athrofa Technoleg Genedlaethol Surat), ymchwilwyr ar brosiect IT India, yn trafod manteision cymhwyso technolegau digidol, yn enwedig Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM), i helpu i ddiogelu safleoedd treftadaeth yn ninas hanesyddol Surat.

The project aims to enhance the cultural resilience of the Indian tangible and intangible cultural heritage, challenged by rapid urbanisation by exploiting the potential of digital technologies applied to the heritage.


16:30 – 17:45 Prif Sesiwn 3

Dadl dros Gadwraeth Ddigidol sy’n Amgylcheddol Gynaliadwy Bydd Keith Pendergrass, archifydd digidol yn Ysgol Fusnes Harvard, yn dadlau dros newid cyflym, ond meddylgar, i gadwraeth ddigidol gynaliadwy sy’n cymryd i ystyriaeth effeithiau amgylcheddol cylchred-oes lawn y dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu y mae ein hymdrechion cadwraeth ddigidol yn dibynnu arni.

By coming together as a global community of practice, we can substantially reduce the negative impacts of our work while continuing to secure our digital legacy and provide successful outcomes for our communities.


Ehangu Dimensiynau Digido: Profiad y Smithsonian Cyfarwyddwr Swyddfa Rhaglen Ddigido Sefydliad Smithsonian lle mae hi’n arwain tîm arbenigol sy’n digido casgliadau’r Smithsonian at ddefnydd y cyhoedd yw Diane Zorich.

Bydd hi’n tynnu sylw at sawl rhaglen yn Swyddfa Rhaglen Ddigido’r Smithsonian a roddwyd ar waith i gwrdd â’r her drwy greu casgliadau wedi’u digido o ansawdd uchel sy’n gynaliadwy, a all gael eu darparu ar y platfformau digidol presennol a rhai newydd, ac y gellir eu hailbwrpasu at anghenion y dyfodol.

Nid yw’n costio dim i gofrestru ar gyfer Gorffennol Digidol 2021 ond rhaid gwneud hynny erbyn 5 Chwefror 2021. Cliciwch yma i gofrestru. Byddwch chi’n derbyn cyswllt drwy e-bost i ymuno â’r gynhadledd ar Zoom.

Gweler manylion llawn y gynhadledd yma.

20/01/2021

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x