Cynhadledd Gorffennol Digidol

DP Header 18

Dathlu deg mlynedd o dechnolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan

7 – 8 o Chwefror 2018, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth

Cynhadledd ddau ddiwrnod flynyddol wedi’i threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n canolbwyntio ar dechnolegau a thechnegau digidol arloesol ar gyfer cipio data, dehongli a lledaenu gwybodaeth am dreftadaeth Cymru, y DU a thu hwnt yw Gorffennol Digidol. Mae’n dwyn ynghyd unigolion o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol, ac o’r trydydd sector, a’i nod yw hybu trafodaeth a gwybodaeth am y technolegau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol.

Cynigir cyfuniad o gyflwyniadau, gweithdai ac arddangosiadau ymarferol i’r cynadleddwyr mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a’r nod yw hybu rhwydweithio a chyfnewid syniadau. Darperir sesiynau anghynhadledd yn ystod y prynhawn cyntaf, i roi cyfle i gynadleddwyr nad ydynt ar yr amserlen ffurfiol wneud cyflwyniadau ar brosiectau, ymchwil, syniadau neu faterion sy’n cyd-fynd neu ddim yn cyd-fynd â themâu’r digwyddiad eleni. Bydd stondinau Arddangosfa a Phoster hefyd yn rhoi cyfle i arddangos prosiectau neu gynhyrchion ac i siarad â chyrff treftadaeth, cymdeithasau, prifysgolion, datblygwyr cynhyrchion ac adwerthwyr.


Danysgrifiwch i’n rhestr bostio Gorffennol Digidol

* rhaid llenwi




Fformat E-bost



Ein noddwyr:

FARO logo HLF

                                        orangeleafweblogo copy

Aber Uni logo with 1872_black_transparent CM logo WA

 

 

Tweets