Cynllunio’r Moroedd

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod angen cael caniatâd cynllunio cyn adeiladu pethau ar y tir: tai, swyddfeydd, ffyrdd, ac ati. Llai hysbys yw’r ffaith bod y drefn gynllunio yn y DU yn ymestyn i’r môr hefyd. Mae hyn yn bwysig gan fod angen i lawer o’r gwaith adeiladu a datblygu sy’n digwydd yn y parth morol gael ei asesu i sicrhau ei fod yn briodol, ac nad yw’n gwneud niwed dianghenraid i’r amgylchedd morol nac yn atal neu’n cyfyngu ar fynediad defnyddwyr eraill iddo. Rhaid cael trwydded forol cyn gallu dechrau prosiectau fel adeiladu ffermydd gwynt alltraeth, gosod ceblau cyfathrebu, carthu harbyrau, neu adeiladu/atgyweirio amddiffynfeydd arfordirol.

Fferm wynt North Hoyle, oddi ar arfordir Gogledd Cymru, enghraifft nodweddiadol o’r datblygiadau mawr y mae angen ymgynghori â’r Comisiwn Brenhinol yn eu cylch (ffotograff y Comisiwn Brenhinol, tynnwyd gan Toby Driver ym mis Gorffennaf 2009).
Fferm wynt North Hoyle, oddi ar arfordir Gogledd Cymru, enghraifft nodweddiadol o’r datblygiadau mawr y mae angen ymgynghori â’r Comisiwn Brenhinol yn eu cylch (ffotograff y Comisiwn Brenhinol, tynnwyd gan Toby Driver ym mis Gorffennaf 2009).

Cynllunio Morol

Goruchwylir y broses hon – y term cyffredinol amdani yw ‘cynllunio morol’ – gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac mae gan y Comisiwn Brenhinol rôl bwysig fel ymgynghorai statudol mewn perthynas â threftadaeth ddiwylliannol o fewn parth morol Cymru (gweler y map). I grynhoi, mae hyn yn golygu y byddwn yn asesu pob cais am drwydded forol o ran effaith bosibl y prosiect ar ein harchaeoleg arforol. Mae hyn yn cynnwys pob math o safle archaeolegol, o longddrylliadau ac awyrennau i faglau pysgod a choedwigoedd boddedig. Rhaid i ni hefyd ystyried effaith bosibl y gwaith adeiladu, effaith defnyddio’r datblygiad, ac (os yn berthnasol) effaith y gwaith datgomisiynu ar ddiwedd ei oes.

Yn dangos hyd a lled y parth morol sy’n dod o fewn cylch gorchwyl y Comisiwn Brenhinol, a lleoliad ymgynghoriadau cynllunio morol, Mehefin-Rhagfyr, 2021.
Yn dangos hyd a lled y parth morol sy’n dod o fewn cylch gorchwyl y Comisiwn Brenhinol, a lleoliad ymgynghoriadau cynllunio morol, Mehefin-Rhagfyr, 2021.
Ymgynghoriadau cynllunio morol y Comisiwn Brenhinol yn ôl math, Mehefin-Rhagfyr, 2021.
Ymgynghoriadau cynllunio morol y Comisiwn Brenhinol yn ôl math, Mehefin-Rhagfyr, 2021.

Parth Morol

I hwyluso’r broses hon, mae diwydiannau wedi datblygu methodolegau safonol ar gyfer ymdrin â safleoedd archaeolegol yn y parth morol. Yn achos fferm wynt alltraeth, gwneir arolwg o’r ardal sy’n cael ei datblygu ar ddechrau’r prosiect er mwyn dod o hyd i unrhyw safleoedd archaeolegol sydd yn y golwg. Hefyd fe gaiff canlyniadau’r arolwg eu croesgyfeirio yn erbyn ffynonellau fel Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) y Comisiwn Brenhinol a’r gronfa ddata o longddrylliadau hysbys a gedwir gan Swyddfa Hydrograffig y DU. Mae’r broses hon yn helpu datblygwyr i osgoi unrhyw longddrylliadau neu nodweddion archaeolegol eraill yn ardal eu prosiect. Ategir hyn drwy sefydlu parthau gwahardd archaeolegol (AEZs) o amgylch safleoedd penodol sydd o ddiddordeb lle na ellir adeiladu tyrbinau gwynt a lle na fydd y ceblau sy’n mynd â’r trydan i’r tir yn cael eu gosod. Er mwyn i’r broses hon fod yn effeithiol, rhaid i ni sicrhau bod y rhan o CHCC sy’n ymdrin â’r parth morol mor gyfoes â phosibl.

Weithiau fe fydd safleoedd archaeolegol newydd yn cael eu darganfod wrth i’r gwaith ar brosiectau fynd yn ei flaen. Nid yw hyn yn syndod, gan fod tua thri chwarter y llongau y gwyddys eu bod wedi suddo yn nyfroedd Cymru heb eu lleoli eto. Gall y gwaith arolygu manwl a wneir cyn adeiladu arwain at ddod o hyd i longddrylliadau nad oedd neb yn gwybod amdanynt – gan ychwanegu at y wybodaeth yn CHCC. Rhaid asesu llongddrylliadau newydd eu darganfod i gael amcan o’u pwysigrwydd. Yn achlysurol, gall llongddrylliadau claddedig gael eu darganfod yn ystod y gwaith adeiladu ei hun. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y gwaith yn cael ei atal ar unwaith er mwyn rhoi cyfle i ni ystyried pa mor bwysig yw’r safle. Eglurir y broses gyfan mewn dogfen am ddim a gynhyrchwyd gan Ystâd y Goron sy’n berchen ar lawer o wely’r môr o amgylch y DU.

Trwydded Forol

Bydd rhai prosiectau y mae angen cael trwydded forol ar eu cyfer yn cael eu hadeiladu yn llawer nes at y tir, yn aml yn yr ardal rhwng distyll a phenllanw, sef y parth rhynglanw. Bydd cynlluniau amddiffyn yr arfordir, gosod ceblau cyfathrebu neu drydan, neu atgyweirio/adeiladu harbyrau fel rheol yn cynnwys peth gwaith yn y parth hwn. Pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru (Dyfed, Gwynedd, Clwyd-Powys a Morgannwg-Gwent) sy’n gyfrifol am gynllunio archaeolegol yn y cyswllt hwn, ond oherwydd arbenigedd y Comisiwn Brenhinol ym maes archaeoleg arforol fe ofynnir i ni roi ein barn ar brosiectau yn y parth rhynglanw hefyd.

Amddiffynfeydd Arfordirol yn cael eu gosod ym Mae Colwyn ym mis Mai 2011. Mae’r rhan fwyaf o’r math hwn o waith yn cael ei wneud yn y parth rhynglanw, a ddangosir ar benllanw yn y llun hwn (ffotograff y Comisiwn Brenhinol, tynnwyd gan Toby Driver ym mis Mai 2011).
Amddiffynfeydd Arfordirol yn cael eu gosod ym Mae Colwyn ym mis Mai 2011. Mae’r rhan fwyaf o’r math hwn o waith yn cael ei wneud yn y parth rhynglanw, a ddangosir ar benllanw yn y llun hwn (ffotograff y Comisiwn Brenhinol, tynnwyd gan Toby Driver ym mis Mai 2011).

Gall lle fod yn gyfyng yn y parth rhynglanw. Yn y môr agored gellir ailgyfeirio cebl i osgoi llongddrylliad, ond wrth adeiladu morgloddiau gall fod yn llawer anos, neu’n amhosibl, osgoi cael effaith ar safle archaeolegol, felly rhaid ystyried mesurau lliniaru. Nod y broses hon yw lleihau i’r eithaf effaith gyffredinol y gwaith ar y cofnod archaeolegol. Yn achos magl bysgod, er enghraifft, efallai y bydd angen ymgymryd ag arolwg manwl llawn o’r olion cyn gwneud y gwaith ac wedyn. Bydd hyn yn sicrhau bod y fagl bysgod yn cael ei diogelu drwy ei chofnodi, ac yn ei gwneud hi’n bosibl i ddod i gasgliad cadarn ynghylch effaith y prosiect. Bydd hyn yn ei dro yn gwella ein dealltwriaeth o sut y bydd gwaith cyffelyb yn effeithio ar safleoedd eraill yn y dyfodol. Weithiau, gall y safle archaeolegol a’r gwaith adeiladu ill dau fod yn eithriadol o bwysig, ac felly, fel ar y tir, y dewis gorau yw cofnodi’r safle drwy wneud cloddiad trylwyr.

Dewiswyd Swnt Ynys Dewi, ym man mwyaf gorllewinol Cymru, yn lleoliad ar gyfer cynllun egni llanw arbrofol a phrosiect acwafeithrin morol. Dyma ddau fath o ddatblygiad morol rydym ni’n debygol o weld mwy ohonynt yng Nghymru yn y dyfodol. (Llun Arolwg rhagchwilio o’r awyr i’r Prosiect CHERISH. Hawlfraint y Goron PROSIECT CHERISH 2017. Cynhyrchwyd gyda chymorth ariannol yr UE drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru 2014-2020.)
Dewiswyd Swnt Ynys Dewi, ym man mwyaf gorllewinol Cymru, yn lleoliad ar gyfer cynllun egni llanw arbrofol a phrosiect acwafeithrin morol. Dyma ddau fath o ddatblygiad morol rydym ni’n debygol o weld mwy ohonynt yng Nghymru yn y dyfodol. (Llun Arolwg rhagchwilio o’r awyr i’r Prosiect CHERISH. Hawlfraint y Goron PROSIECT CHERISH 2017. Cynhyrchwyd gyda chymorth ariannol yr UE drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru 2014-2020.)

Adnodd bregus yw ein holl dreftadaeth ddiwylliannol, ac mae hyn yn arbennig o wir am archaeoleg ein harfordiroedd a’n moroedd. Rydym ni’n byw mewn byd lle mae datblygiadau morol ac arfordirol, ynghyd ag ymdrechion i liniaru newid hinsawdd a’i effeithiau, yn parhau i gynyddu. Felly mae rôl y Comisiwn Brenhinol o ran sicrhau bod treftadaeth ddiwylliannol yn cael ystyriaeth a gofal priodol yn mynd yn fwyfwy pwysig. Yn ail hanner 2021 fe dderbyniodd y Comisiwn 24 o geisiadau i roi cyngor ar ddatblygiadau yng Nghymru (gweler y map). Roedd y prosiectau hyn yn ymwneud â ffermydd gwynt alltraeth, amddiffynfeydd arfordirol, gwaith cynnal a chadw ar isadeiledd, acwafeithrin morol, samplu gwely’r môr, a charthu harbyrau. Mae disgwyl y bydd 2022 yr un mor brysur wrth i gynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt alltraeth mawr fynd rhagddynt ac i brosiectau llai sy’n ceisio ffyrdd newydd o fanteisio ar ein moroedd, fel ffermio gwymon, gael eu datblygu. Bydd y ddau fath hyn o ddatblygiad morol, yn eu ffyrdd gwahanol eu hunain, yn gallu ein helpu i gyflawni’r nod o greu Cymru sero net. Felly fe fydd y Comisiwn Brenhinol yn edrych yn ôl ac ymlaen wrth wneud ei orau glas i ddiogelu ein treftadaeth ddiwylliannol.

Gan Julian Whitewright, Uwch Ymchwilydd (Arforol)

01/19/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x