CBHC / RCAHMW > Newyddion > Cysylltiad Llanfihangel-yng-Ngwynfa a ‘Chwm Rhondda’

Cysylltiad Llanfihangel-yng-Ngwynfa a ‘Chwm Rhondda’

Ydych chi’n gwybod am yr ystadegau brawychus bod Cymru mewn perygl o golli traean o’i chapeli ac eglwysi erbyn 2030?  Dyma’r rhagolwg ar gyfer  adeiladau crefyddol Cymru yn y dyfodol, yn ôl ein Prif Weithredwr, ac sydd hefyd yn Gadeirydd Fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru.  Cyhoeddwyd y sylwadau hyn yn sgil arwerthiant arfaethedig eglwys hynafol Mihangel Sant, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, ger Llanfyllin, Powys (NPRN: 268109) ar Ebrill11 ond mae’r eglwys bellach wedi cael ei dynnu oddi ar y farchnad gan yr Eglwys yng Nghymru gyda’r arwerthiant yn cael ei ohirio am flwyddyn. 

Mae’n eglwys hanesyddol bwysig oherwydd ei chysylltiad cryf gyda’r emynydd, Ann Griffiths, a oedd yn un o feirdd crefyddol amlycaf ei chenhedlaeth yn Ewrop.  Hi oedd awdur y geiriau Cymraeg, ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ a ddefnyddiwyd ar gyfer emyn dôn adnabyddus ‘Cwm Rhondda’, a gyfansoddwyd gan John Hughes(1873-1932) ar ddechrau’r 20fed ganrif. Roedd ei gwaith yn adlewyrchu ei gwybodaeth drylwyr o’r Beibl a’i ffydd Gristnogol angerddol a chadarn.  Dyma’r eglwys ble cafodd ei bedyddio, ei phriodi ac mai wedi ei chladdu ym mynwent yr eglwys gyda chofeb iddi tu fewn muriau’r eglwys.

Roedd Ann yn un o bump o blant a anwyd ar fferm Dolwar Fach, plwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn 1776 i John a Jane Thomas.  Yn ystod y diwygiad crefyddol a fu yn yr ardal honno, cafodd Ann dröedigaeth grefyddol a dod yn Fethodist Calfinaidd tua 1796-97 ac yn 1804 priododd ffermwr o Feifod, sef Thomas Griffiths.  Mynegodd Ann ei phrofiadau ysbrydol drwy gyfrwng penillion a byddai’n aml yn eu hadrodd i’r forwyn yn Nolwar Fach, sef Ruth Evans, a ddaeth yn ddiweddarach yn wraig i John Hughes, Pontrobert (1775-1854).  Bu ei gohebiaeth gyda John Hughes a’i lyfrau nodiadau, yn ffynhonnell arwyddocaol wrth gofnodi penillion a cherddi Ann.  Mae’n bur debyg iddo eu trosglwyddo i Thomas Charles o’r Bala ac fe’u cyhoeddwyd yn 1805, 1807 ac 1808 gan ddod yn boblogaidd iawn ymhlith cyfansoddwyr i’w gosod ar gyfer emynau donau. 

Bu Ann Griffiths farw’n ifanc iawn, yn 29 mlwydd oed, yn 1805 ychydig wythnosau wedi genedigaeth ei phlentyn.  Mae’r eglwys hefyd yn adeilad pwysig yn hanes traddodiad Y Plygain yng Nghymru gyda’r gwasanaeth boreol unigryw hyn wedi bod yn cael ei gynnal yno ers y drydedd ganrif ar ddeg.

Ail-adeiladwyd yr eglwys yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond mae’n sefyll mewn mynwent ganoloesol siâp cylch.  Mae rhai cofebion canoloesol wedi goroesi yn ogystal â thariannau mewn lliw o’r 16eg ganrif sy’n cael eu cysylltu gyda theulu Vaughan o Lwydiarth.

Darllenwch ragor am yr hanes yng nghylchgrawn Golwg, Cyfrol 36/Rhif 30/Ebrill 11, 2024, tud.5 a golwg360 ble gellir darllen rhifynnau digidol ar y testun.

Ffotograff CBHC o'r awyr yn dangos Eglwys Mihangel Sant, Llanfihangel-yng-Ngwynfa
Ffotograff CBHC o’r awyr yn dangos Eglwys Mihangel Sant, Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

Bethan Hopkins-WIlliams, Swyddog Ymgysylltu gyda’r Cyhoedd

25/04/2024

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x