
Dadorchuddio’r Ail Gerflun o Gymraes Enwog: Cerflun Dr Elaine Morgan, Aberpennar
Ddydd Gwener diwethaf fe gafodd cerflun efydd o Dr Elaine Morgan OBE ei ddadorchuddio y tu allan i Dŷ Calon Lân yn Aberpennar, y gyn-dref lofaol yng Nghwm Cynon lle bu Elaine Morgan yn byw ac yn gweithio am y rhan fwyaf o’i hoes. Roedd yn achlysur llawen i’r dorf enfawr a ddaeth ynghyd i wrando ar gôr o’r ysgol gynradd leol ac ar siaradwyr a draethodd yn angerddol am fywyd a gwaith Elaine. Yn eu plith yr oedd ei mab a’i hwyres a phobl o’r cyfryngau a byd addysg a oedd yn ei hadnabod.

Mae’r cerflun, a gafodd ei greu gan Emma Rodgers a’i gastio mewn efydd yn ffowndri Castle Fine Arts ym Mhowys, yn cyflwyno hanes bywyd Elaine Morgan. Mae hi’n eistedd wrth ei desg, ysgrifbin yn ei llaw ‘ar frig ton’ o’i gweithiau a’i sgriptiau, uwchben golygfeydd mewn lliwiau dyfrol o grwpiau o anifeiliaid a bywyd môr sy’n adlewyrchu ei damcaniaeth esblygiadol am yr Epa Acwatig. Geiriau’r arysgrif yw:
Elaine Morgan OBE
1920–2013
O’r Celfyddydau i’r Gwyddorau, yr Awdur o’r Cymoedd a siaradodd â’r Byd
From the Arts to Science, the Valleys Writer who spoke to the World
Y cerflun hwn yw’r ail mewn cyfres o bum cerflun o fenywod ysbrydoledig o Gymru y bwriedir eu codi. Cafodd y cyntaf, o Betty Campbell, ei ddadorchuddio’r llynedd. Mae’r cerfluniau’n rhan o ymgyrch gan Monumental Welsh Women i ddathlu a choffáu cyflawniadau menywod enwog o Gymru ac i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod disglair. Mae cenhadaeth y grŵp yn ddigon syml: Pum Cymraes. Pum Cerflun. Pum mlynedd o ‘ddathlu cyflawniadau menywod go iawn o Gymru’.
Ganwyd Elaine i deulu glofaol ym 1920 a thyfodd i fyny yn Telelkebir Road, Trehopcyn. Roedd hi’n unig blentyn a wnaeth yn dda yn yr ysgol, gan ennill ysgoloriaeth i fynd i Ysgol Ganolradd y Merched ym Mhontypridd. Daeth yn brif ddisgybl ac enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen ym 1939, camp anhygoel bryd hynny i ferch o gymoedd de Cymru.
Ar ôl treulio cyfnod yn dysgu dosbarthiadau addysg oedolion yn Norfolk, fe ddychwelodd i Drehopcyn a phriododd Morien Morgan, athro lleol a fu’n ymladd yn y rhyfel yn Sbaen. Wrth fagu eu tri phlentyn, fe barhaodd â’i gyrfa ysgrifennu a oedd wedi dechrau pan oedd hi’n 11 oed gyda chyhoeddi ei stori ‘Kitty in Blunderland’ yn y Western Mail. Roedd ei gwaith ysgrifennu’n cynnwys ysgrifau, storïau ac erthyglau a gyhoeddwyd mewn cylchgronau a phapurau newydd cenedlaethol, a dramâu a sgriptiau ar gyfer y radio a’r teledu, gan gynnwys cyfresi eiconig y BBC, ‘How Green was my Valley’ a ‘Testament of Youth’ yn y 1970au. Roedd y gwobrau a enillodd am ysgrifennu yn cynnwys dau BAFTA, gwobr Awdur y Flwyddyn y Gymdeithas Deledu Frenhinol, ac anrhydeddau Urdd yr Awduron.
“I wrote for the market and about what I knew. I just wanted to convey the flavour of Wales, of people whose lives were just as dramatic and full of moral problems as any other lives.” https://www.iwa.wales/agenda/2013/07/a-writer-who-brought-out-the-flavour-of-wales/?lang=cy
“I come from a working class background in the South Wales Valleys and this has helped me in my writings over the years.” https://www.walesonline.co.uk/news/news-opinion/carolyn-hitt-mtvs-valleys-bears-2589304
Er nad oedd hi’n wyddonydd, fe ddaeth yn enwog am ei damcaniaeth am esblygiad dynol. Ysgrifennodd chwe llyfr ar y pwnc, gan gynnwys dau lyfr a ddaeth yn hynod boblogaidd drwy’r byd, The Descent of Woman ym 1972, ei safbwynt ffeministaidd hi am esblygiad, ac yn ddiweddarach, The Aquatic Ape. Yn sgil y rhain bu’n rhoi sgyrsiau ac yn mynychu cynadleddau ar hyd a lled y byd. Mae ei sgwrs TED: ‘I believe we evolved from aquatic apes’, a recordiwyd pan oedd hi’n 89 oed, wedi cael ei gwylio 1.4 miliwn o weithiau hyd yn hyn.
Yn ystod degawd olaf ei bywyd fe fu’n ysgrifennu’r golofn wythnosol, ‘The Pensioner’, yn y Western Mail, gan ennill ‘Colofnydd y Flwyddyn’ ar ei chyfer yn 2011. Roedd hi’n dal i ysgrifennu ei cholofn ychydig o fisoedd cyn ei marwolaeth yn 2013 yn 92 oed.
Darllen pellach:
- Gwefan Monumental Welsh Women: https://monumentalwelshwomen.com/
- Gellir gwylio sgwrs TED Elaine Morgan: ‘I believe we evolved from aquatic apes’ yma: https://www.ted.com/talks/elaine_morgan_i_believe_we_evolved_from_aquatic_apes?language=en
- Mae ei hunangofiant Knock ’Em Cold, Kid (2012)ar gael yma: https://folk.ntnu.no/krill/morgan/Morgan%202012.pdf
- Mae cofiant Daryl Leeworthy, Elaine Morgan: A Life Behind the Screen (Seren 2020) ar gael yma (gallwch wylio Daryl yn sgwrsio ag Carolyn Hitt am y llyfr hefyd): https://www.serenbooks.com/productdisplay/elaine-morgan-life-behind-screen

Tŷ Elaine Morgan, 24 Aberffrwd Road, Aberpennar.

54 Telelkebir Road, cartref Elaine pan oedd yn blentyn. “I lived in Telelkebir Road, Hopkinstown. I remember we lived all the time in the kitchen because we could only afford to have a fire in one room and we went into the middle room for posh occasions.” O’i hunangofiant, Knock ‘Em Cold, Kid, 2012.

Ysgol Ganolradd y Merched, Pontypridd, 1932. Enillodd Elaine ysgoloriaeth i fynd i’r ysgol hon a byddai wedi bod yno adeg tynnu’r llun.
Gan Helen Rowe, Uwch Archifydd a Nicola Roberts, Rheolwr Cyfathrebiadau.
03/25/2022