1. Cranogwen reading ‘Y Fodrwy Briodasol’, her prizewinning poem at the National Eisteddfod in 1865.

Dadorchuddio’r Trydydd Cerflun o Gymraes Enwog: ‘Cranogwen’ (Sarah Jane Rees 1839 – 1916)

Ddydd Sadwrn, 10 Mehefin 2023, dadorchuddiwyd cerflun y bu disgwyl mawr amdano, sef cerflun o Sarah Jane Rees sy’n fwy adnabyddus fel ‘Cranogwen’, ei henw barddol. Roedd yn forwraig fedrus, yn athrawes, yn fardd, yn ddarlithydd, yn ymgyrchydd dros ddirwest, yn olygydd, yn bregethwraig ac yn eiriolydd cymdeithasol. Cychwynnodd y digwyddiad yn Llangrannog yn ne Ceredigion â seremoni yng Ngwersyll yr Urdd i glodfori’r Gymraes ysbrydoledig hon. Yna, cafodd gorymdaith gyhoeddus liwgar ei harwain o’r Gwersyll i’r ardd gymunedol sydd newydd gael ei hadnewyddu yng nghanol Llangrannog. Cafodd Cranogwen ei geni ym mhentref Llangrannog, sefydlodd ei hysgol fordwyo yno yn 1859, ac mae wedi’i chladdu ym mynwent Eglwys Sant Crannog. Mae’r cerflun yn benllanw ymgyrch codi arian llwyddiannus gan is-grŵp o Bwyllgor Lles Llangrannog, sef Cerflun Cymunedol Cranogwen, mewn partneriaeth â Monumental Welsh Women. Dyma’r trydydd cerflun o fenyw go iawn a enwir, sydd wedi’i gomisiynu gan Monumental Welsh Women ac sydd wedi’i osod mewn man cyhoeddus yn yr awyr agored yng Nghymru. Mae’n dilyn dadorchuddio Cofeb i Betty Campbell yng Nghaerdydd ar 29 Medi 2021 a cherflun o’r awdur Elaine Morgan yn Aberpennar ar 18 Mawrth 2022.

Mae’r cerflun hwn a grëwyd gan Sebastian Boyesen yn clodfori bywyd anghyffredin Cranogwen ac mae’n ei dangos yn darllen ei cherdd fuddugol (Y Fodrwy Briodasol) yng nghategori’r Gân yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865. Mae manylder y cerflun yn rhyfeddol ac mae llinellau o’i cherdd wedi’u gwau yn gelfydd drwy ei dillad. Mae ‘Fan’, ei chi ffyddlon a fyddai’n mynd gyda hi i lawer o ddigwyddiadau’n ôl pob sôn, yn ymddangos yn y cerflun hefyd, er mawr lawenydd i oedolion a phlant fel ei gilydd.

Cafodd Cranogwen ei chladdu yn Llangrannog yn 1916 a chafodd y gofeb iddi yn y fynwent ei haddurno â blodau i nodi’r diwrnod. At hynny, byddai’r sawl a fentrodd i mewn i’r eglwys wedi gweld y gofeb sydd yn y gangell, sy’n coffáu gwaith Cranogwen dros Undeb Dirwestol Merched y De a sefydlwyd yn 1901 gyda’i help hi. Roedd gan yr undeb 140 o ganghennau erbyn marwolaeth Cranogwen yn 1916. Cofeb ymarferol iddi oedd Llety Cranogwen, sef lloches i fenywod a merched digartref, a sefydlwyd yng nghwm Rhondda yn 1922 gan Undeb Dirwestol Merched y De. Mae’r lloches yn deyrnged barhaol i waith Cranogwen i wella bywydau menywod yng Nghymru.

Fel sy’n wir am y cerfluniau eraill o fenywod enwog Cymru, mae’r cerflun hwn mewn man cyhoeddus a gellir ei weld unrhyw bryd.

I ddysgu mwy am yrfa nodedig Cranogwen, darllenwch ein blog cynharach gan Charina Jones, Cranogwen (1839–1916): Yn gapten ar ei llong ei hun, ac ewch i wefan Monumental Welsh Women.

Y prif lun Cranogwen yn darllen ‘Y Fodrwy Briodasol’, ei cherdd fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1865.
1. Y prif lun Cranogwen yn darllen ‘Y Fodrwy Briodasol’, ei cherdd fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1865.
Y cerflun o Cranogwen yn yr Ardd Gymunedol yn Llangrannog, ar ddiwrnod ei ddadorchuddio.
2. Y cerflun o Cranogwen yn yr Ardd Gymunedol yn Llangrannog, ar ddiwrnod ei ddadorchuddio.
Golwg fwy manwl ar Fan, ci ffyddlon Cranogwen.
3. Golwg fwy manwl ar Fan, ci ffyddlon Cranogwen.
Y gofeb i Cranogwen ym mynwent Eglwys Sant Crannog wedi’i haddurno â blodau a rhubanau ar y diwrnod.
Y gofeb i Cranogwen ym mynwent Eglwys Sant Crannog wedi’i haddurno â blodau a rhubanau ar y diwrnod.
Cofeb ar ffurf llechen y tu mewn i’r eglwys, sy’n clodfori gwaith Cranogwen dros ddirwest.
5. Cofeb ar ffurf llechen y tu mewn i’r eglwys, sy’n clodfori gwaith Cranogwen dros ddirwest.

Nicola Roberts, Rheolwr Cyfathrebiadau

15/06/2023

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x