
“Dambusters” yng Nghwm Elan: stori Argae Nant-y-Gro!
Mae neithiwr, noson 16-17 Mai 2018, yn nodi pen-blwydd y “Cyrch Dambusters” enwog a gynhaliwyd 75 mlynedd yn ôl. Gyda Guy Gibson yn eu harwain, esgynnodd 19 o awyrennau Lancaster o Sgwadron 617 i’r awyr o redfa yn Swydd Lincoln yn nwyrain Lloegr. Roedd pob un ohonynt yn cario arf pwrpasol – y “bom sboncio” – i’w ollwng ar ganolfannau diwydiannol yr Almaen. Cafodd llwyddiant y cyrch ei anfarwoli’n ddiweddarach yn y ffilm The Dam Busters ym 1955.

Cyrch Dambusters
Ym 1940 y meddyliwyd gyntaf am y syniad o wneud cyrch i ddinistrio argaeau’r Ruhr, pan gyfrifodd y dylunydd awyrennol Dr Barnes Wallis y pŵer ffrwydrol yr oedd ei angen i dorri drwyddynt. Darganfu Wallis nad oedd yr un awyren fomio a oedd ar gael yn gallu cario bom digon mawr, ond sylweddolodd y gallai bomiau llai o faint a fyddai’n taro gwaelod yr argae gael yr un effaith. I wneud hyn yn bosibl, dyluniodd Wallis y “bom sboncio” a fyddai’n trybowndio ar draws y dŵr ac yn taro’r mur. Roedd yn rhaid gollwng y bom ar y cyflymder iawn, ar y pellter iawn o’r argae ac ar yr uchder iawn uwchben y dŵr.
Er nad yw llawer o bobl yn gwybod hynny heddiw, fe chwaraeodd Canolbarth Cymru ran allweddol yn natblygiad “bom sboncio” dyfeisgar Barnes Wallis.

Ym mis Gorffennaf 1942 rhoddwyd prawf ar y bom prototeip drwy ei ddefnyddio yn erbyn argae bach yng Nghwm Elan. Cafodd rhan ganolog yr argae ei dinistrio gan 280 pwys o ffrwydron ffyrnig. Roedd yr arbrawf yn llwyddiant ysgubol. Gellir gweld olion atgofus a sobreiddiol yr argae hyd heddiw. Mae Argae Nant-y-Gro (NPRN 408280) wedi’i leoli yn SN92196348 ac yn cael ei ddiogelu fel un o Henebion Cofrestredig Cadw.
05/17/2018