The historic core of surviving Naval buildings within Pembroke Dockyard.

Darganfod Arwyr Aberdaugleddau: Rhan 1

Aberdaugleddau, porthladd ar arfordir de-orllewinol Cymru, oedd un o’r canolfannau llyngesol pwysicaf yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn agos at y Dynesfeydd Gorllewinol ac roedd ganddo gyfleusterau ar gyfer atgyweirio ac ailstocio llongau, ac o ganlyniad fe chwaraeodd ran allweddol yn yr ymdrechion i amddiffyn Môr Iwerddon. Roedd angen enw llong arno fel y byddai’r dynion a gâi eu hanfon i wasanaethu yno yn dod o dan ddisgyblaeth y llynges. Felly galwyd y pencadlys yn HMS Sabrina ac yna HMS Sabrina II hyd at Awst 1916, ac wedyn HMS Idaho.

Llun o gyn ganolfan y Llynges Frenhinol yn Noc Penfro, yn edrych i’r dwyrain tuag at bont Cleddau ac yn cynnwys angorfa’r Man of War Roads yn y cefndir canol.
Llun o gyn ganolfan y Llynges Frenhinol yn Noc Penfro, yn edrych i’r dwyrain tuag at bont Cleddau ac yn cynnwys angorfa’r Man of War Roads yn y cefndir canol.

Is-Lyngesydd Charles Dare

Roedd y porthladd dan ei reolaeth annibynnol ei hun i ddechrau, a châi’r ganolfan ei goruchwylio gan yr Is-Lyngesydd Charles Dare, aelod o’r Llynges Frenhinol Wrth Gefn. Gellir cael amcan o’i gymeriad drwy edrych ar ei negeseuon a’i gyhoeddiadau i staff a dynion y ganolfan a oedd yn eu hatgoffa’n gyson o’r drefn gywir i’w dilyn pan fyddant ar y môr neu’r lan. Pa un a oedd yn rhoi cyfarwyddyd ar ymarfer saethu, neu ar ba wisg swyddogol y gallai criwiau iotiau’r Llynges eu gwisgo, neu ar hwylio llongau-Q, roedd Dare yn ddyn â llygad am fanylion. Pan ddaeth y ganolfan o dan reolaeth unedig ym 1915, a’r Is-Lyngesydd Lewis Bayly â chyfrifoldeb cyffredinol drosti, nid oedd yn syndod i Dare gadw ei swydd. Dangosodd ei ofal dros y dynion ar ddiwedd y rhyfel drwy drefnu swper buddugoliaeth iddynt.

Croesawodd Aberdaugleddau, a Doc Penfro gerllaw, lu o ddynion nodedig eraill hefyd. Byddai William Alexander Florence o’r HMS PC 56 a Cedric Naylor o’r HMS Penshurst yn gwneud eu cartref yn yr ardal, y cyntaf gan ei fod yn gwasanaethu ar y PC 56 a weithredai o Ddoc Penfro a’r ail ar ôl i’w long gael ei suddo. Byddai llong Florence yn helpu i suddo’r U 87 ar ddiwedd 1917, a byddai Naylor yn cymryd rhan mewn cyrchoedd niferus ar fwrdd y Penshurst, gan ddinistrio dwy long-U. Roedd Percy Tennison Perkins o’r PC 43 yn gwasanaethu yno; daeth yn gapten y llong hyfforddi, y Worcester, yn nes ymlaen. Roedd Frank Arthur Worsley o’r PC 61 wedi bod yn aelod o Ymdaith Traws-Arctig Ymerodrol Ernest Shackleton yn 1914-1916. 

Calon hanesyddol adeiladau’r Llynges yn Iard Longau Penfro.
Calon hanesyddol adeiladau’r Llynges yn Iard Longau Penfro.

Roedd y ganolfan yn gartref i aelodau niferus o’r lluoedd arfog, o longwyr i beirianwyr, o gogyddion i warchodwyr. Byddai rhai o’r dynion a wasanaethai ar y treill-longau ysgubo ffrwydron yn colli eu bywydau wrth gyflawni eu dyletswyddau. Treuliai pobl eraill eu hamser yn atgyweirio llongau o dan amodau anodd yn ystod rhyfel hir a diflas, ac roeddynt yn llawn haeddu’r pryd buddugoliaeth ar ei ddiwedd.

Arddangosfa’r Prosiect Llongau-U 1914-18

Fel rhan o wythnos o weithgareddau i ddathlu hanes llyngesol a morwrol Aberdaugleddau, bydd arddangosfa’r Prosiect Llongau-U 1914-18 yn cael ei dangos yng Ngwesty’r Lord Nelson, Hamilton Terrace, Aberdaugleddau SA73 3AW o Ddydd Mercher 29 Mai hyd Ddydd Gwener 31 Mai 2019.

Geoffrey Hicking, Ymchwilydd, Y Prosiect Llongau-U 1914-18

05/29/2019

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets