Llun o Gaer Hubbertson, Aberdaugleddau. Cafodd ei hadeiladu ym 1860 a’i defnyddio i amddiffyn yr ierdydd llongau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd

Darganfod Arwyr Aberdaugleddau: Rhan 2

Sut beth oedd bywyd i ddynion y ganolfan lyngesol? 

Un agwedd gyffredin ar fywyd y dynion oedd disgyblaeth a rheoliadau’r Llynges. O olchi gwisgoedd swyddogol i gael caniatâd i fod yn absennol, roedd bob amser gyfarwyddyd gan yr Is-Lyngesydd Dare ynghylch y drefn gywir i’w dilyn. Roedd gwaharddiad llwyr ar fynychu’r tri thafarndy yn y dref. Roedd llawer o lythyron Dare yn ymwneud â digwyddiadau diweddar, er enghraifft, roedd un am y nifer fawr o docynnau rheilffordd am ddim a roddwyd heb reswm da cyn 7 Mehefin 1916.

Llun o Gaer Hubbertson, Aberdaugleddau. Cafodd ei hadeiladu ym 1860 a’i defnyddio i amddiffyn yr ierdydd llongau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd
Llun o Gaer Hubbertson, Aberdaugleddau. Cafodd ei hadeiladu ym 1860 a’i defnyddio i amddiffyn yr ierdydd llongau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd

Peirianwyr yn y Ganolfan

Yn ogystal â’r staff a anfonai negeseuon papur di-ddiwedd Dare, roedd peirianwyr yn y ganolfan a oedd yn gyfrifol am atgyweirio’r llongau. Byddent yn cyflawni llu o dasgau, fel adnewyddu hydroffonau, glanhau boeleri a gosod gynnau newydd ar dreill-longau arfog, ac roedd yn amlwg eu bod yn gweithio’n galed iawn.

Byddai’r is-lyngesydd yn gweithredu’n llym pe bai unrhyw gamgymeriadau’n dod i’w sylw. Câi carfanau cyfan o bersonél y ganolfan eu ceryddu am siarad esgeulus a diffyg disgyblaeth mewn mannau cyhoeddus. Pan fyddai llongau’r Llynges yn ymarfer tanio eu gynnau y tu allan i’r ardal ddynodedig, byddai ei ymateb yn gyflym a ffyrnig.

Mae’n ymddangos bod iechyd yn bryder i rai, gan i nifer sylweddol o ddynion fanteisio ar wasanaeth deintyddion preifat (yn ddiangen ym marn Dare).

Gwasanaethu ar y llongau

I’r rheiny a wasanaethai ar y llongau, roedd anaf neu angau yn fygythiad go iawn. Roedd yn hollol bosibl i griw cyfan gael ei golli. Mae tynged yr HMS Prize ym 1917 yn dangos hyn yn glir. Ar ôl ymosod ar yr U 93, nid oedd y criw yn sylweddoli bod y llong danfor wedi dianc ac wedi rhoi gwybod i forlys yr Almaen am fodolaeth y llong-Q. Yn fuan wedyn, ymosodwyd ar y Prize gan yr U 48 a lladdwyd pawb ar ei bwrdd.

Doc Penfro o’r awyr. Gellir gweld Aberdaugleddau o ochr arall y foryd.
Doc Penfro o’r awyr. Gellir gweld Aberdaugleddau o ochr arall y foryd.

Sut bynnag, mae’n debyg nad oedd bywyd y dynion a wasanaethai yn y canolfannau llyngesol yn ddiflastod i gyd. Ganrif ar ôl y digwyddiadau hyn, mae’n bosibl gweld ochr fwy doniol. Yn sicr, roedd rhai o’r rheoliadau a gyflwynwyd yn ymwneud â sefyllfaoedd eithaf anarferol. Er enghraifft, mae un llythyr yn cyfarwyddo llongwyr i osgoi anfon eu dillad budr neu bysgod drwy’r post.

Roedd yr Is-Lyngesydd Dare hefyd yn barod i roi cyngor buddiol ar ymdrin â materion peryglus. Mae dogfennau o’r ganolfan yn cofnodi’r cyngor a roddodd ar sut i drin ffrwydron tanddwr neu sut i gael gwared â ffrwydron nofio Almaenig. Pa un a oedd gan y dynion brofiad o’r materion hyn ai peidio, mae’n bosibl bod cyngor o’r fath yn gysur i’r llongwyr ifancach a oedd yn gwasanaethu ar slwpiau a threill-longau clirio ffrwydron yn y Dynesfeydd Gorllewinol.

Efallai bod bywyd yn galed, ond fe wnaeth y Llynges yr hyn a allai i ofalu am ei dynion.

Arddangosfa’r Prosiect Llongau-U 1914-18

Fel rhan o wythnos o weithgareddau i ddathlu hanes llyngesol a morwrol Aberdaugleddau, bydd arddangosfa’r Prosiect Llongau-U 1914-18 yn cael ei dangos yng Ngwesty’r Lord Nelson, Hamilton Terrace, Aberdaugleddau SA73 3AW o Ddydd Mercher 29 Mai hyd Ddydd Gwener 31 Mai 2019.

Geoffrey Hicking, Ymchwilydd, Prosiect Llongau-U 1914-18

05/29/2019

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x