Investigators Digital Photograph Ruined Quarrymans Cottages Betws-y-coed

Darganfod Gorffennol Cymru Ar-lein

Gwelwyd mwy o drafodaeth ar bwysigrwydd hanes Cymru yn ddiweddar, pa un ai wrth ystyried rhinweddau’r cwricwlwm newydd neu wrth dynnu sylw at storïau grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol. Yn y drafodaeth hon, mae amgylchedd hanesyddol cyfoethog Cymru yn bwnc sy’n ennyn cryn ddiddordeb – pa un a yw’n ymwneud â mudiad ‘Cofiwch Dryweryn’, y newidiadau mawr yn ninas Caerdydd, neu leoedd llai hysbys a’u hanesion – ac mae llawer o bobl yn awyddus i ddysgu mwy.

Yn ffodus i bawb sydd eisiau gwybod mwy am hanes, pensaernïaeth ac archaeoleg Cymru, mae gennym amrywiaeth eang o adnoddau mynediad agored. Mae’r holl adnoddau hyn yn cyflawni swyddogaethau gwahanol ond cydategol sy’n adlewyrchu cyfrifoldebau gwahanol ond cydategol eu rhiant sefydliadau. Felly, gallant gael eu defnyddio ar wahân neu gyda’i gilydd er mwyn darganfod mwy am hanes Cymru.

Cofnodi, astudio a hyrwyddo dealltwriaeth o dreftadaeth archeolegol, adeiledig ac arforol Cymru yw cyfrifoldeb Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). Cafodd ei sefydlu ym 1908, a’i dasg greiddiol gyntaf (sy’n parhau hyd heddiw) oedd creu rhestr o’r holl safleoedd pwysig yng Nghymru – Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Aethom i’r afael â’r dasg hon drwy greu rhestri o’r safleoedd yn siroedd hanesyddol Cymru, y gellir cyrchu llawer ohonynt am ddim yma. Rydym bellach yn cynhyrchu’r gronfa ddata ar-lein, Coflein.

Ffotograff digidol ymchwilwyr o fythynnod Quarrymans adfeiliedig Betws-y-coed
Ffotograff digidol ymchwilwyr o fythynnod Quarrymans adfeiliedig Betws-y-coed

Mae Coflein yn cynnwys cofnodion ar gyfer mwy na 120,000 o safleoedd drwy Gymru. Mae llawer o’r rhain, ond nid y rhan fwyaf, wedi’u rhestru neu’u cofrestru, ac nid yw cynnwys safle yn CHCC yn golygu bod ganddo unrhyw amddiffyniad statudol. Nod Coflein yw sicrhau bod gwybodaeth am amgylchedd adeiledig hanesyddol Cymru yn hygyrch i bobl Cymru (a’r byd ehangach). Gellir chwilio’r gronfa ddata yn ôl safle unigol, math o safle, ardal ddaearyddol neu gyfnod amser, a hefyd drwy chwiliadau testun rhydd neu yn ddaearyddol drwy ddefnyddio ein system fapio (mae canllaw i ddefnyddio’r map ar gael yma). Ar hyn o bryd, mae rhai cofnodion ar Coflein yn llawnach nag eraill, ac rydym yn gweithio’n barhaus i wella’r wefan, gyda chymorth adborth y cyhoedd yn aml.

Mae CBHC hefyd yn gysylltiedig â chynhyrchu nifer o adnoddau eraill, er enghraifft, Taith i’r Gorffennol, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, sy’n ymdrin â disgrifiadau o Gymru mewn teithlyfrau hanesyddol o Ffrainc a’r Almaen, a’r gronfa ddata ar-lein o gapeli, www.addoldaicymru.org, mewn partneriaeth ag Addoldai Cymru.

Yn fwyaf arbennig, o dan y ddarpariaeth yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ar gyfer llunio rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol, rydym wedi creu cronfa ddata ar-lein o gannoedd ar filoedd o enwau lleoedd hanesyddol Cymru, ac mae’r rhestr yn tyfu bob dydd. Yn ogystal â’i phwysigrwydd o ran deall hanes Cymru, mae swyddogion lleol, datblygwyr eiddo a pherchenogion eiddo yn gallu ei defnyddio i ddysgu mwy am enwau lleoedd hanesyddol eu milltir sgwâr.

Mae CBHC hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru ar Gasgliad y Werin Cymru, sef adnodd arloesol a rhyngweithiol y gall sefydliadau swyddogol ac unigolion preifat ei ddefnyddio i rannu eu casgliadau a’u straeon am hanes Cymru.

Gwaith Cadw yw diogelu, cynnal, dehongli a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol, ac mae hyn, yn arbennig, yn cynnwys rhestru adeiladau a chofrestru henebion. Mae wedi llunio canllawiau defnyddiol i restru a chofrestru, a’r prosesau, meini prawf ac amddiffyniadau sy’n gysylltiadau â hwy. Dwy yn unig o’r dogfennau sydd ar gael yn adran ‘Cyngor a Chymorth’ ei wefan yw’r rhain. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys canllawiau i egwyddorion cadwraeth a gofalu am dirweddau hanesyddol, a gwybodaeth am deddfwriaeth a chanllawiau.

Gellir gweld cofnodion Cadw, gan gynnwys gwybodaeth am longddrylliadau a warchodir, safleoedd treftadaeth y byd, adeiladau rhestredig, tirweddau hanesyddol cofrestredig a henebion cofrestredig ar wefan Cof-Cymru. Mae’r cofnodion hyn yn ddefnyddiol iawn i ymchwilwyr proffesiynol a phreifat y mae ganddynt ddiddordeb mewn safleoedd sy’n cael eu hamddiffyn yn statudol, ond dylid cofio eu bod wedi’u hysgrifennu mewn modd technegol, fel sy’n angenrheidiol gan eu bod yn gofnodion statudol o safleoedd.

Mae pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru hefyd, sy’n gyfrifol am gynnal Cofnod Amgylchedd Hanesyddol ar gyfer pedair ardal, sef Gwynedd, Dyfed, Clwyd-Powys a Morgannwg-Gwent. Gellir gweld eu cofnodion ar y wefan Archwilio, sy’n cynnwys gwybodaeth am filoedd o safleoedd.

Bydd yr holl sefydliadau hyn yn gweithio’n agos â’i gilydd, gan rannu gwybodaeth a chofnodion er mwyn deall amgylchedd hanesyddol Cymru yn well, a sicrhau bod y wybodaeth ar gael i bobl Cymru. Mae gwybodaeth o bob un o’r sefydliadau hyn – cofnodion CHCC, adeiladau rhestredig, henebion cofrestredig a chofnodion amgylchedd hanesyddol, yn ogystal â chasgliad archaeolegol Amgueddfa Cymru – ar gael ac yn chwiliadwy ar un wefan, sef Cymru Hanesyddol. Er hynny, mae’n dal yn syniad da defnyddio Coflein, Cof-Cymru ac Archwilio i gael y canlyniadau gorau.

Nid yw’r adnoddau mynediad agored hyn yn darparu ond cyfran fach o’r wybodaeth sydd ar gael am hanes Cymru. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n cynnal sawl cronfa ddata amhrisiadwy, gan gynnwys Papurau Newydd Cymru Ar-lein, Cylchgronau Cymru, a’r Bywgraffiadur Cymreig (mewn partneriaeth â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion), ac yn darparu nifer o gofnodion digidol trwy ei chatalog. Gwefan bwysig arall i bawb sydd â diddordeb yn nhirwedd hanesyddol Cymru yw Lleoedd Cymru, lle mae copïau wedi’u digido o fapiau degwm Cymru’r 19eg ganrif ar gael. A sôn am fapiau, gellir defnyddio mapiau a ddarparwyd gan Lyfrgell Genedlaethol yr Alban i archwilio adeiladau a thirweddau hanesyddol Cymru.

Mae’r holl adnoddau hyn, ochr yn ochr â llyfrgelloedd ac archifdai Cymru, yn gallu helpu pobl i ddarganfod hanes Cymru, ac i werthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol lle maent yn byw, gweithio a chwarae. Wedi’r cyfan, Blwyddyn Darganfod Cymru yw 2019!

Dr Adam N. Coward

07/10/2019

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x