CBHC / RCAHMW > Newyddion > Darganfod Hanes Datblygu Rocedi yn y Cliff Hotel, Y Ferwig

Darganfod Hanes Datblygu Rocedi yn y Cliff Hotel, Y Ferwig

Yn ddiweddar, wrth i mi aros i ddechrau cyflwyniad ar ffotograffiaeth o’r awyr mewn gwesty ger Aberteifi, gwelais wrthrych ar stand ddillad yn y cyntedd a sylweddolais ei fod yn fodel o lansiwr rocedi 3”. Yn llawn chwilfrydedd, fe godais y model i ddarllen yr arysgrif arno:

THE ORIGINAL 3” A.A. ROCKET PROJECTOR

DESIGNED IN THE CLIFF HOTEL IN THE SUMMER OF 1940

PRESENTED BY SIR ALWYN CROW C.B.E.

Dull arloesol cynnar o danio rocedi oedd y lansiwr rocedi 3” daear-i-awyr. Roedd gan bob lansiwr yn y batri gwrthawryennol griw o ddau. Câi’r taflegryn ei saethu drwy ddefnyddio gwefr drydanol fach i danio 9 pwys o danwydd cordit i lywio’r roced 7 troedfedd o hyd, oedd â ffrwydryn 4 pwys yn yr arfben, tuag at awyrennau’r gelyn.

Er nad oedd y system yn arbennig o lwyddiannus – roedd nifer yr awyrennau y cadarnhawyd iddynt gael eu saethu i lawr yn fach iawn – fe gododd y lanswyr rocedi ysbryd y boblogaeth leol. Yn ôl pob sôn, byddai tanio’r rocedi yn cynhyrchu sŵn dychrynllyd wrth i’r taflegrau gael eu hanfon ar eu ffordd.

3”-ground-to-air-rocket-launcher

 

Mae’r darganfyddiad hwn yn dangos mor allweddol oedd y datblygiadau ym maes rocedeg hylifol a thanwydd solid yng Ngheredigion.

Hefyd yn gweld:

Gan Medwyn Parry

26/01/2017

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x