
Darganfod Llongddrylliad y ‘Bronze Bell’
Darganfyddwch fwy am y llongddrylliad enigmatig hwn cyn ein sgwrs ar-lein am ddim nesaf, ‘Diving Back on the Bronze Bell Wreck’, gan Alison James o MSDS Marine ar ran Prosiect CHERISH ar 17 Chwefror am 5pm.
Bu cynnydd aruthrol yn y galw ym Mhrydain am garreg o safon i godi adeiladau nodedig fel eglwysi cadeiriol fel St Paul’s a phlastai crand y boneddigion rhwng 1750 a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Am fod marmor Carrara o Dwsgani’n cael ei werthfawrogi’n arbennig, câi ei fewnforio ar longau masnach ac, yn anochel, fe ddigwyddai ambell drasiedi. Ym 1978 daeth deifwyr a oedd yn gweithio ger creigres dywodlyd a thwyllodrus Sarn Badrig ym Mae Ceredigion – sarn 13 milltir o hyd ac na siartwyd mohoni tan 1740 – o hyd i longddrylliad. Ynddo yr oedd llwyth o ryw 43 o flociau o farmor Carrara a’r rheiny’n pwyso rhyw 66 o dunelli ac wedi’u stacio, i bob golwg, yn eu safle gwreiddiol. Amrywiai’r marmor gryn dipyn o ran maint, o giwbiau bach 0.80 metr i flociau 2.8 metr wrth 1 wrth 0.8. Yr oedd gan y llong arfau helaeth – trefn ddigon cyffredin wrth amddiffyn llwythi gwerthfawr – a hwnt ac yma ar y llong cafwyd hyd i 18 prif fagnelfa, 8 gwn llai-o-faint o haearn bwrw a 10 gwn o haearn gyr. Yn eu plith yr oedd amryw o angorau. Awgrymai’r ffaith fod adfach un wedi torri iddo ddal ar wely dyrchafedig y môr i’r de i’r greigres wrth i’r capten geisio rhedeg y llong at y lan mewn storm. Efallai i’r llong gael ei dal yn ôl am eiliad ac yna gael ei gorfodi i wyro oddi ar ei chwrs wrth i’r adfach dorri. Parodd hynny iddi daro’r tir ac, ymhen hir a hwyr, iddi chwalu.
Daliwyd i gloddio’r llongddrylliad tan 1996 ac fe gafwyd amrywiaeth mawr o arteffactau i roi cipolwg ar fywyd ar y llong. Yn eu plith yr oedd cloch bres ac arni’r dyddiad 1677 a’r geiriau Laudate dominus omnes gente (‘Moled pawb yr Arglwydd’). Cafwyd hyd iddi yn ystod un o’r plymiadau cyntaf, a dyna sut y rhoddwyd enw anffurfiol i’r llongddrylliad. Er bod adeiladwaith coed y llong wedi treulio’n llwyr, mae’n bosibl y gall elfennau ohono oroesi o dan y llwyth. Ond gan fod y sgwrio naturiol o danynt wedi gadael y blociau marmor ar ben brigiadau creigiog, go brin y bydd unrhyw nodweddion wedi’u diogelu’n ddigon da i ganiatáu adlunio cydlynol. Ni ellir dweud fawr o ddim yn bendant ond nad oedd y llong, mae’n debyg, yn fawr iawn. Gwyddom i longau masnach canolig eu maint o’r oes honno gludo llwythi o 75 tunnell o farmor. Ni allwn fod yn sicr i ba genedl y perthynai’r llong a’i chriw gan ei bod yn hysbys i longau o’r Iseldiroedd, Ffrainc a Lloegr ymwneud â’r fasnach honno. Er ei bod hi’n sicr mai o’r Eidal y daethai’r llwyth, plât wedi’i stampio yn Lyon yn Ffrainc ym 1700 oedd un o’r gwrthrychau piwter y cafwyd hyd iddynt ar y llongddrylliad. Mae’r arfau arni’n cydymffurfio â’r arddull Ffrengig ac o Ffrainc y daeth y mwyafrif o’r darnau arian o’r ail ganrif ar bymtheg y cafwyd hyd iddynt o bryd i’w gilydd ar y traeth gerllaw. Awgryma’r cyfan i’r ‘Bronze Bell’ fod yn llong fasnach o Ffrainc a oedd wedi galw yn Genoa neu Leghorn (Livorno) wrth deithio o ogledd yr Eidal i Brydain ond i storm ei chwythu dipyn oddi ar ei chwrs ac iddi gael ei dryllio. Gan mai 1702 yw’r dyddiad ar y darn arian diweddaraf a gafwyd o’r llongddrylliad, gellir cynnig iddi suddo wedi hynny.
Mae llongau masnach bob amser wedi bod yn fwy niferus na llongau rhyfel, ond gan fod cynifer ohonynt a’u bod mor amrywiol, cafwyd llai o sylwadau arnynt gan bobl ar y pryd. Y duedd yw i’n gwybodaeth am olwg a hirhoedledd y llongau hynny fod yn brin ac efallai i’r ‘Bronze Bell’ fod yn debyg i’r cychod bas (fly boats) y gwyddom iddynt gludo llwythi o farmor. Datblygiad o’r ‘flute’ (fluit) o’r Iseldiroedd oeddent ac yn llongau tri hwylbren, pedryfwrdd uchel a chul, a starn gron. Gan fod môr-ladron a herwlongwyr yn bla, adeiladwyd dec gynnau ar y llongau masnach hynny a’u gwneud hwy, o ran eu golwg, yn debyg iawn i longau rhyfel yr oes.
Gan Sian Rees, cyd-olygydd Cymru a’r Môr
Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr
Daw’r testun uchod o’n cyhoeddiad arobryn Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr (Llyfr Morwrol Darluniedig Gorau’r Flwyddyn, Y Sefydliad Morwrol, 2020) sy’n cynnwys mwy na chant o draethodau wedi’u hysgrifennu gan ryw hanner cant o arbenigwyr ar hanes morwrol Cymru.
Mae ar gael am £24.99 yn unig, gyda gostyngiad o 10% i Gyfeillion.



Diving Back on the Bronze Bell Wreck
I ddysgu mwy, dewch i wrando ar ein sgwrs ar-lein nesaf, ‘Diving Back on the Bronze Bell Wreck’, gan Alison James, MSDS Marine, ar ran y Prosiect CHERISH.
Mae tocynnau am ddim yn dal ar gael!
Yn 2021 fe gafodd cwmni MSDS Marine ei gomisiynu gan y Prosiect CHERISH i ymgymryd â chyfres o ddeifiau ar safle llongddrylliad y Bronze Bell. Y tro diwethaf i’r safle gael ei archwilio gan gontractwr archaeolegol oedd yn 2004, ac fe gafodd effaith newid hinsawdd ar y llong ei hasesu am y tro cyntaf fel rhan o’r ymweliad hwnnw. Yn awr fe fydd Alison yn trafod y gwaith maes diweddaraf a’r hyn a ddarganfuwyd.
02/10/2022