
Darganfod Tai Hanesyddol Eryri
Un o’r cwestiynau a ofynnir amlaf am dai hanesyddol yw; ‘Pa bryd yn union y cafodd ei adeiladu?’ Rydym ni bellach yn gallu ateb y cwestiwn hwn yn Eryri.
Ffrwyth prosiect newydd ei gwblhau i ddyddio’n wyddonol tua 100 o dai cynharaf Eryri a adeiladwyd cyn iddi ddod yn ffasiynol i arysgrifio dyddiadau arnynt yw Darganfod Tai Hanesyddol Eryri, a gyhoeddir ym mis Rhagfyr 2014.

Fel rhan o’r prosiect partneriaeth rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a’r Grŵp Dyddio Hen Dai Cymreig bu llawer o berchnogion tai ac oddeutu 200 o bobl leol yn cymryd rhan mewn ymarfer uchelgeisiol mewn archaeoleg gymunedol. Mae wedi manteisio ar y dechnoleg newydd o ddyddio ar sail blwyddgylchau sy’n ei gwneud hi’n bosibl i ddyddio coed i’r flwyddyn, a hyd yn oed i’r tymor, y cafodd y goeden ei thorri i lawr.
Yn y llyfr fe gyflwynir canlyniadau’r prosiect, sy’n aml yn peri syndod, ynghyd â llawer o ffotograffau a chynlluniau na chawsant eu cyhoeddi o’r blaen. Ceir hanesion manwl tai neuadd o’r Oesoedd Canol a thai lloriog o bob math. Mae’r astudiaethau achos yn cynnwys Tŷ-mawr, Wybrnant – cartref yr Esgob Morgan, cyfieithydd y Beibl cyfan i’r Gymraeg – y gwyddom bellach iddo gael ei adeiladu ym 1565, tua’r un adeg ag yr oedd y William Morgan ifanc yn gadael Penmachno am Gaergrawnt.
Meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a fydd yn lansio’r llyfr ar 4 Rhagfyr ym Mhlas Tan y Bwlch: “Fel rhywun sydd wedi byw ar hyd ei oes bron yn Eryri, alla i ond teimlo cynhesrwydd a pharch at yr adeiladau hyn, ynghyd ag ychydig o eiddigedd a rhyw ias o barchedig ofn!”
Yn sgil lansio’r llyfr, bydd darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol yn cael ei thraddodi yn Aberystwyth ar Ddydd Gwener 5 Rhagfyr gan Richard Suggett (cyd-awdur) a fydd yn siarad ar y testun “Darganfod Tai Hanesyddol Eryri” am 1.30pm a 5.30pm. Darlithiau cyhoeddus yw’r rhain ond rhaid trefnu’ch lle. I gael manylion pellach, cysylltwch â’r Comisiwn Brenhinol ar 01970 621200, chc.cymru@cbhc.gov.uk
Llyfr fformat mawr o 295 tudalen yw Darganfod Tai Hanesyddol Eryri. Ceir ynddo 225 o luniau o ansawdd uchel a’r gost yw £29.95 yn unig. Yr anrheg Nadolig berffaith!



20/11/2014