
DARGANFOD TIRWEDD LECHI GOGLEDD-ORLLEWIN CYMRU: Dathlu Safle Treftadaeth y Byd newydd Cymru
Sgwrs gan Louise Barker am 5pm, 7 Hydref 2021
Ar 28 Gorffennaf 2021 fe ddaeth Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO. Arweiniwyd y cais Enwebu llwyddiannus gan Gyngor Gwynedd ar ran partneriaeth a oedd yn cynnwys y Comisiwn Brenhinol, ac roedd yn benllanw mwy na 15 mlynedd o waith caled.
Pwysleisiodd y ddogfen Enwebu bwysigrwydd diwylliant yn ogystal â diwydiant, gan nodi bod Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru yn enghraifft arbennig o dirwedd ddiwydiannol a diwylliannol a weddnewidiwyd gan gloddio am lechi ar raddfa fawr ar yr wyneb ac o dan y ddaear, a chan drin a chludo llechi ar gyfer marchnadoedd lleol a rhyngwladol.
Dyma’r adeg i ddathlu treftadaeth gyfoethog amrywiol diwydiant llechi Gogledd-orllewin Cymru. Mae cymunedau Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru yn parhau i arloesi, ac mae’r dynodiad Safle Treftadaeth y Byd hwn yn cydnabod tirwedd ddiwylliannol nodedig diwydiant llechi Cymru a’i gyfraniad i hanes y byd.
Fe wnaeth y Comisiwn Brenhinol gyfraniad hanfodol i’r ddogfen Enwebu drwy ddarparu cymorth archifol ac arbenigol helaeth, dan arweiniad Louise Barker, uwch archaeolegydd. Ymunwch â Louise ar ymweliad rhithiol â’r Safle Treftadaeth y Byd newydd a dysgwch am ei leoedd a’i henebion a’i gyfraniad i’r byd yn ein darlith rithiol nesaf ar Ddydd Iau, 7 Hydref, am 5pm.
Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!
Am fwy o wybodaeth neu i bwcio eich tocyn am ddim ewch i dudalen y digwyddiad.
09/29/2021