Casgliad y Werin Cymru

Mae Casgliad y Werin Cymru yn wefan sy’n bodoli’n unswydd ar gyfer hanes Cymru a’i phobl. Mae’r wefan yn llawn o luniau, recordiadau sain, dogfennau, fideos a straeon cyfareddol am hanes a threftadaeth Cymru.

Mae’r Comisiwn Frenhinol wedi bod yn bartner allweddol yn y prosiect ers ei sefydlu, ac mae wedi cymryd yr awenau mewn gweithgareddau arloesi. Ers ei lansio yn 2010, mae’r prosiect wedi datblygu isadeiledd technegol o’r radd flaenaf er mwyn i unrhyw un sydd â chyfrif defnyddiwr fedru uwchlwytho ac ailddefnyddio cynnwys Casgliad y Werin.

 

Mae’r oriel isod yn dangos yr holl eitemau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Brenhinol ar Gasgliad y Werin Cymru.

 

Tweets