Casglu Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru
O dan Adran 34 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 mae gofyn i Weinidogion Cymru lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol Cymru. Mae’n bleser gennym gadarnhau y caiff y ddyletswydd hon ei chyflawni drwy’r Comisiwn Brenhinol. Rydym ni’n gweithio ar ran Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw) gyda nifer o gyrff eraill, gan gynnwys Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, i ymchwilio i sut y gellir gweithredu darpariaethau’r Ddeddf.
Pwrpas y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol
Mynegai o enwau lleoliadau daearyddol a nodir mewn ffynonellau a oedd ar gael cyn y Rhyfel Byd Cyntaf fydd y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Gan fanteisio ar ymchwil cyfoes i enwau lleoedd, bydd y Rhestr yn cynnwys y gwahanol ffurfiau a sillafiadau a ddefnyddid i gofnodi adeiladweithiau neu adeiladau ar hyd y canrifoedd.
Pwrpas y Rhestr yw:
Canlyniadau
Bydd y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol ar gael i’r cyhoedd ac i ddefnyddwyr proffesiynol fel ei gilydd. Fe fydd hi’n:
Mae’r Rhestr ar gael nawr am ddim ar-lein ac mae’n gofnod datblygol o wybodaeth awdurdodol am enwau lleoedd hanesyddol a all gael ei ddefnyddio i:
Mae aelod amser-llawn o’r staff yn gyfrifol am guraduro’r Rhestr ac ateb ymholiadau.
Ewch yn awr i enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk i ddarganfod hanesion cudd enwau lleoedd wrth eich ymyl chi ac ar hyd a lled Cymru.