Yr Comisiwn Brenhinol wedi gweithio gyda phartneriaid yn y Grŵp Cydlynu Cofnodion i adnewyddu’r Fframwaith Strategol ar gyfer Cofnodion yn Ymwneud ag Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Cadw, Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r canlynol:
Mae’r fframwaith yn ein galluogi i ddatblygu porth Cymru Hanesyddol i fod yn bwynt mynediad cyhoeddus i ddata wedi’i rannu gan sefydliadau partner. Mae hefyd yn rhoi modd i bob sefydliad rannu ei wybodaeth ag eraill a nodi lefel y mynediad y gellir ei gynnig i ddefnyddwyr. Mae hefyd wedi cynorthwyo â ffurfio Grŵp Safonau Data newydd, lle mae ein harbenigedd wedi rhoi cyngor a gwybodaeth i’r gwaith o ddatblygu a gweithredu safonau pwysig ar gyfer cofnodion sy’n sail i’r fframwaith cyfan.
Fframwaith Strategol ar gyfer Cofnodion yn Ymwneud ag Amgylchedd Hanesyddol Cymru