The decorated fragment of a 3700-year-old Early Bronze Age Vase Urn is the first Bronze Age pottery from the western Pembrokeshire islands (Richard Brown and Giselle Eagle, WTSWW).

Darganfyddiadau lwcus o dwll cwningen yn ailysgrifennu cynhanes un o ynysoedd Cymru

Mae darganfyddiadau ar hap sy’n mynd yn ôl 9000 o flynyddoedd yn datgelu stori newydd am Ynys Sgogwm, Sir Benfro 

Mae offer carreg a darnau o grochenwaith a ddarganfuwyd ar hap yn nhwll cwningen gan wardeiniaid Ynys Sgogwm wedi peri syndod i’r arbenigwyr ac yn cynnig gwybodaeth newydd am gynhanes yr ynys hon.

Mae Ynys Sgogwm yn gorwedd ddwy filltir oddi ar arfordir deheuol Sir Benfro ac mae’n eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru. Mae’n enwog am y degau ar filoedd o adar môr sy’n nythu yno yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf.

Mae Ynys Sgomer gerllaw yn fwy adnabyddus na Sgogwm am ei harchaeoleg gynhanesyddol, ond newidiodd hynny i gyd ym mis Mawrth 2021 pan gododd y wardeiniaid Richard Brown a Giselle Eagle, sy’n byw ar eu pennau eu hunain ar Ynys Sgogwm ar hyn o bryd, garreg betryalog lefn o dwll cwningen ger bwthyn yr ynys yng nghysgod brigiad craig.

Yr offer heliwr-gasglwr cyntaf i gael eu darganfod 

Cafodd lluniau eu hanfon drwy e-bost at Dr Toby Driver, archaeolegydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sy’n aelod o’r tîm a fu’n gweithio ar Ynys Sgomer, a chysylltodd ef â Dr Andrew David, arbenigwr ar offer cerrig cynhanesyddol.

Sylweddolodd Andrew ar unwaith beth oedd arwyddocâd y darganfyddiad:

‘Roedd y lluniau’n dangos “cerigyn befelog” o’r cyfnod Mesolithig Diweddar (Oes Ganol y Cerrig), erfyn y credir ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn cymunedau heliwr-gasglwr rhyw 6000 i 9000 o flynyddoedd yn ôl i gyflawni tasgau fel paratoi crwyn morloi ar gyfer gwneud cychod, neu brosesu bwydydd fel pysgod cregyn.

‘Er bod y mathau hyn o offer yn gyffredin ar safleoedd arfordirol ar dir mawr Sir Benfro a Chernyw, yn ogystal ag yn yr Alban a gogledd Ffrainc, dyma’r enghraifft gyntaf o Sgogwm, a’r dystiolaeth gadarn gyntaf bod pobl yn byw ar yr ynys yn y cyfnod Mesolithig Diweddar.’

Dywedodd Dr David, sydd wedi cyfarwyddo cloddiadau ar safleoedd tebyg yn Sir Benfro, fod dod o hyd i gerigyn befelog ar Ynys Sgogwm yn ddigwyddiad cyffrous.

Claddfa o’r Oes Efydd  

Roedd mwy o ddarganfyddiadau i ddod. Yn ogystal â chodi ail erfyn Mesolithig o’r fath y diwrnod wedyn, sylwodd Richard a Giselle ar ddarnau mawr o grochenwaith cwrs a gawsai eu cicio allan o dyllau cwningod yn yr un lle.

Y tro hwn, Jody Deacon, Curadur Archaeoleg Gynhanesyddol yn Amgueddfa Cymru, a sylweddolodd beth oedd eu harwyddocâd. Mae’n debyg bod un darn mawr trwchus, wedi’i addurno â llinellau endoredig o amgylch y brig, yn rhan o rimyn Llestr Ffiol o’r Oes Efydd Gynnar, a gysylltir fel rheol â chladdfeydd amlosgi. Cafodd llestri o’r fath eu cynhyrchu rhwng 2100 a 1750 CC, oddeutu 3750 o flynyddoedd yn ôl, ac nid ydynt yn anarferol yng ngorllewin Cymru. Fodd bynnag, dyma’r enghraifft gyntaf i’w darganfod ar Ynys Sgogwm, neu ar unrhyw ynys arall ar arfordir gorllewinol Sir Benfro o ran hynny.

Cynlluniau i archwilio archaeoleg Ynys Sgogwm

Mae Toby Driver a Louise Barker, archaeolegwyr o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, wedi cynnal arolygon archaeolegol ar Ynys Sgomer, Ynys Dewi a Gwales gerllaw. Yn awr mae cynlluniau ar y gweill i ymweld â Sgogwm yn ddiweddarach yn 2021 yng nghwmni’r arbenigwyr eraill, os bydd cyfyngiadau COVID yn caniatáu, i ymchwilio ymhellach i’r darganfyddiadau cyffrous hyn.

‘Gwyddom o arolygon o’r awyr a laser-sganio o’r awyr a wnaed yn y gorffennol gan y Comisiwn Brenhinol fod olion caeau ac aneddiadau cynhanesyddol ar Ynys Sgogwm, ond ni fu unrhyw gloddio yma.

‘Mae rhai darganfyddiadau cynhanesyddol anhygoel yn cael eu gwneud nawr ar yr ynys. Mae’n ymddangos i’r cwningod darfu ar domen gladdu o’r Oes Efydd Gynnar oedd wedi cael ei hadeiladu ar ben safle heliwr-gasglwr o Oes Ganol y Cerrig. Mae’n llecyn cysgodol, lle mae bwthyn yr ynys yn sefyll, ac mae’n amlwg bod pobl yn byw yma ers miloedd o flynyddoedd.

‘Diolch i lygaid craff y wardeiniaid, rydyn ni wedi cael yr offer Mesolithig cyntaf a’r crochenwaith Oes Efydd cyntaf o Sgogwm. Hyd yn hyn does gennym ni ddim byd tebyg o Ynys Sgomer nac Ynys Dewi, sy’n ynysoedd mwy o faint.

‘Er gwaethaf y cyfnod clo, mae wardeiniaid Ynys Sgogwm wedi gallu rhannu ffotograffau a fideos manwl o’u darganfyddiadau ag arbenigwyr drwy Gymru, gan roi cyfle i ni i gyd fwynhau’r cyffro.’

1. Ynys Sgogwm o’r awyr, ar 5 Chwefror 2018. Cafodd y darganfyddiadau newydd eu gwneud ger y bythynnod ar ochr bellaf yr ynys (© Hawlfraint y Goron: Y PROSIECT CHERISH 2018. Cynhyrchwyd ag arian o’r UE drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru 2014-2022).
1. Ynys Sgogwm o’r awyr, ar 5 Chwefror 2018. Cafodd y darganfyddiadau newydd eu gwneud ger y bythynnod ar ochr bellaf yr ynys (© Hawlfraint y Goron: Y PROSIECT CHERISH 2018. Cynhyrchwyd ag arian o’r UE drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru 2014-2022).
2. Yr erfyn ‘cerigyn befelog’ o’r cyfnod Mesolithig Diweddar, sy’n 6000 i 9000 oed, yw’r dystiolaeth gyntaf bod helwyr-casglwyr yn byw ar Ynys Sgogwm (Richard Brown a Giselle Eagle, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru).
2. Yr erfyn ‘cerigyn befelog’ o’r cyfnod Mesolithig Diweddar, sy’n 6000 i 9000 oed, yw’r dystiolaeth gyntaf bod helwyr-casglwyr yn byw ar Ynys Sgogwm (Richard Brown a Giselle Eagle, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru).
3. Y darn addurnedig hwn o Lestr Ffiol 3700 oed o’r Oes Efydd Gynnar yw’r crochenwaith cyntaf o’r Oes Efydd i’w ddarganfod ar ynysoedd gorllewinol Sir Benfro (Richard Brown a Giselle Eagle, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru).
3. Y darn addurnedig hwn o Lestr Ffiol 3700 oed o’r Oes Efydd Gynnar yw’r crochenwaith cyntaf o’r Oes Efydd i’w ddarganfod ar ynysoedd gorllewinol Sir Benfro (Richard Brown a Giselle Eagle, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru).
4. Mae’r darlun  hwn o Lestr Ffiol o’r Oes Efydd Gynnar a ddarganfuwyd yn West Williamston, Caeriw, Sir Benfro, yn rhoi syniad o sut roedd llestr claddu Sgogwm yn edrych (Toby Driver).
4. Mae’r darlun hwn o Lestr Ffiol o’r Oes Efydd Gynnar a ddarganfuwyd yn West Williamston, Caeriw, Sir Benfro, yn rhoi syniad o sut roedd llestr claddu Sgogwm yn edrych (Toby Driver).
5. Y twll cwningen lle daethpwyd o hyd i’r darganfyddiadau cynhanesyddol newydd (Richard Brown a Giselle Eagle, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru).
5. Y twll cwningen lle daethpwyd o hyd i’r darganfyddiadau cynhanesyddol newydd (Richard Brown a Giselle Eagle, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru).

Cysylltiadau:  

Ymholiadau gan y cyfryngau i’r Comisiwn Brenhinol: cysylltwch â Nicola.Roberts@cbhc.gov.uk
Mae fersiynau cydraniad-uchel o’r delweddau hyn ar gael.

Wardeiniaid Sgogwm: skokholmwarden@gmail.com

Dr Toby Driver, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Toby.driver@cbhc.gov.uk

Gina Gavigan, Rheolwr Datblygu Marchnata, Yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. g.gavigan@welshwildlife.org  

CYSYLLTAU DEFNYDDIOL: 

03/25/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x