
Darganfyddwch Fryngaer Dinas Dinlle ger Caernarfon: taith gerdded wedi’i harwain gan archaeolegwyr a daearyddwyr CHERISH
Dysgwch am hanes, chwedloniaeth a thirwedd y lle arbennig yma, ac am yr ymchwil diweddaraf sy’n cael ei wneud i effaith newid hinsawdd ar yr heneb eiconig hon o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dydd Mercher 22 Awst 2018
10am: Taith gerdded fyrrach i’r teulu, yn addas i fforwyr ifanc!
2pm: Taith gerdded lawn
Lleoliad: LL54 5TW (SH 4370 5635)
Hyd: Hyd at 2 awr
Pellter: 1 filltir
Tir: Cymysg gyda rhai llethrau serth i fyny ac i lawr
Digwyddiad am ddim yw hwn ac fe’i cynhelir yn y Saesneg. Mae nifer cyfyngedig o leoedd felly mae’n rhaid bwcio. I gael mwy o wybodaeth ac i gadw’ch lle, cysylltwch â: Rhian Davies 01970 621231 neu e-bostiwch Cherish@rcahmw.gov.uk
08/09/2018