Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol ─ Ynysoedd Cymru: Darganfod archaeoleg Sgomer a Gwales, gan Louise Barker

Tirweddau wedi’u gwarchod yn ofalus yw Sgomer a Gwales. Fe’u rheolir yn bennaf er lles eu poblogaethau byd-enwog o adar môr, fel palod, adar drycin Manaw a huganod, sy’n dod iddynt i baru. Maen nhw’n drysorau archaeolegol hefyd: Sgomer yw un o’r tirweddau cynhanesyddol perffeithiaf yn Ynysoedd Prydain, ac ar Gwales, tir mwyaf gorllewinol Cymru, mae tystiolaeth bod pobl wedi bod yn byw a ffermio yno ers miloedd o flynyddoedd.

Lleoedd gwych yw’r rhain ar gyfer astudio bywyd ar ynysoedd, a buont yn ganolbwynt i waith newydd pwysig gan y Comisiwn Brenhinol sydd wedi bod yn ymchwilio i archaeoleg ac amgylcheddau’r tirweddau anghysbell hyn.

Rhoddir Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol gan Louise Barker, Uwch Ymchwilydd Archaeoleg y Comisiwn, am 6pm, Dydd Iau nesaf, 8 Rhagfyr yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cynhelir y ddarlith ar yr un noson â noswaith siopa hwyr y Llyfrgell Genedlaethol, a fydd yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau arbennig gan gynnwys Côr ABC a gwin twym a mins-peis am ddim yng nghaffi Pen Dinas. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd, felly bwciwch eich lle yn fuan.

I gael manylion pellach a bwcio, cysylltwch â thîm Ymholiadau CBHC ar 01970 621200, neu â Nicola Roberts, nicola.roberts@cbhc.gov.uk, ffôn: 01970 621248.

 

Mae muriau darniog wedi goroesi o anheddiad cynnar a gloddiwyd ym 1972. Mae nythod huganod yn eu hamgylchynu erbyn heddiw.

Mae muriau darniog wedi goroesi o anheddiad cynnar a gloddiwyd ym 1972. Mae nythod huganod yn eu hamgylchynu erbyn heddiw.

 

Awyrlun CBHC o Ynys Gwales, o’r dwyrain, NPRN: 404206.

Awyrlun CBHC o Ynys Gwales, o’r dwyrain, NPRN: 404206.

 

Awyrlun CBHC o Ynys Sgomer, NPRN: 402711.

Awyrlun CBHC o Ynys Sgomer, NPRN: 402711.

 

Cloddio linsied cae cynhanesyddol ar Ynys Sgomer yn y Gwanwyn 2016.

Cloddio linsied cae cynhanesyddol ar Ynys Sgomer yn y Gwanwyn 2016.

12/02/2016

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x