DATGANIAD I’R WASG – Cyhoeddi llyfr deniadol newydd ar archaeoleg a hanes Gwent

Bydd Archaeoleg Ucheldir Gwent gan Frank Olding, Cadeirydd yr Eisteddfod eleni, yn cael ei lansio yn Y Lle Hanes ar Ddydd Iau, 4 Awst, am 2 o’r gloch y prynhawn.

Ffurfiwyd cymeriad arbennig cymoedd de Cymru a’u cymunedau gan gyfuniad o’u tirwedd a’u hanes, ac yn y Blaenau cewch drysorfa o henebion archaeolegol sy’n dangos sut mae pobl wedi byw, wedi gweithio ac wedi amaethu yno o’r oesoedd cynharaf hyd at y gorffennol diweddar. Mae’r llyfr hwn gan Frank Olding, Swyddog Treftadaeth Blaenau Gwent, aelod o’r Orsedd a chadeirydd Pwyllgor Llywio yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, yn mynd â’r darllenydd ar daith o offer fflint a bryngaerau cynhanes ymlaen i wrthryfel y Siartwyr a diwydiannau’r ugeinfed ganrif. Mae’n gyforiog o luniau a dynnwyd ar lawr gwlad ac o’r awyr, ac o fapiau, cynlluniau a lluniau hanesyddol. Cewch hefyd eitemau nodwedd sy’n cynnig mewnwelediadau gan arbenigwyr i feysydd megis Mynwent Colera Cefn Golau, eglwysi uwchdirol Bedwellte a Llanhiledd, a Chaer Rufeinig Gelligaer.

Archaeoleg Ucheldir Gwent yw’r gyfrol ddiweddaraf gan y Comisiwn Brenhinol ar archaeoleg a hanes ucheldiroedd Cymru. Mae’n rhan o ymrwymiad y Comisiwn, dros gyfnod o bum mlynedd ar hugain, i wneud arolygon archaeolegol cynhwysfawr o ucheldiroedd Cymru.

Meddai Frank Olding:

“Mae’n hyfryd cael bwrw’r gyfrol hon i’r byd o’r diwedd.  Gobeithio ei bod yn deyrnged deilwng i archaeoleg unigryw ucheldir Gwent.  Fel un a aned yn yr ardal, braint enfawr oedd cael gwahoddiad i lunio’r gyfrol hon a mawr yw fy niolch i holl staff y Comisiwn am eu cefnogaeth a’u hymroddiad.”

Y Comisiwn Brenhinol, a sefydlwyd ym 1908, yw’r corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am arolygu a chofnodi archaeoleg ac adeiladau Cymru. Mae’n cynnal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, yr archif gweledol mwyaf yn y wlad, lle cedwir mwy na 2 filiwn o ffotograffau a 125,000 o luniadau yn ogystal â llawer o gofnodion eraill.

Pris y llyfr yw £14.95 ac mae ar gael gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a phob siop lyfrau dda.

 

DIWEDD

I gael lluniau neu fwy o wybodaeth, cysylltwch â Nicola Roberts, nicola.roberts@rcahmw.gov.uk. Ffôn: 01970 621200.

 

Nodiadau i Olygyddion

Archaeoleg Ucheldir Gwent gan Frank Olding, gyda rhagair gan yr Athro William Manning, wedi’i gyhoeddi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2016, 160 o dudalennau, 91 o ddarluniau, maint 216 x 229mm.

Y Comisiwn Brenhinol yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.    www.cbhc.gov.uk

Capsiwn:

  1. Tirwedd Cwm Rhymni: Tredegar Newydd, a Phillipstown i’r dde ohono, gan edrych tua’r gogledd-orllewin tuag at Rymni a chopaon Bannau Brycheiniog. (AP 2010_1229)
  2. Bryngaer Crug Hywel. Saif gwrthgloddiau amddiffynnol trawiadol bryngaer Crug Hywel ar ben Mynydd y Bwrdd i’r gogledd o Grucywel. (AP_2009_2003, NPRN 92128)
  3. Maen arysgrifedig o’r cyfnod ôl-Rufeinig ar Gomin Gelli-gaer, yn sefyll ar safle tomen gladdu gynhanesyddol. (DS2015_143_001, NPRN 305944)
  4. Ynys Bwlc, Llan-gors. Dyma’r unig enghraifft hysbys o grannog yng Nghymru. (AP_2013_0329, NPRN 32997)
  5. Cerflun tirwedd 200 metr o hyd gan yr artist Mick Petts ar safle Pwll Glo Penalltau yw’r cerflun hwn o’r merlyn Sultan. Fe’i crëwyd i dalu teyrnged i’r merlod a ddefnyddid dan ddaear i halio’r glo. (AP_2014_4974, NPRN 402672)
  6. Cafodd cerflun Gwarcheidwad y Cymoedd, Pwll Glo Six Bells, Abertyleri, ei lunio a’i greu gan yr artist Sebastien Boyesen a’i wneud o fwy nag 20,000 o stribedi o ddur a weldiwyd wrth ei gilydd. (DS2015_131_006, NPRN 421326)
  7.  Clawr blaen Archaeoleg Ucheldir Gwent.
Fig 11 - Rhymney Valley landscape with New Tredegar and Phillipstown AP_2010_1229 cmyk

Tirwedd Cwm Rhymni: Tredegar Newydd, a Phillipstown i’r dde ohono, gan edrych tua’r gogledd-orllewin tuag at Rymni a chopaon Bannau Brycheiniog. (AP 2010_1229)

 

Figure 19 AP_2009_2003 Crug Hywel Hillfort

Bryngaer Crug Hywel. Saif gwrthgloddiau amddiffynnol trawiadol bryngaer Crug Hywel ar ben Mynydd y Bwrdd i’r gogledd o Grucywel. (AP_2009_2003, NPRN 92128)

 

Figure 33 DS2015_143_001 Inscribed stone Gelligaer Common

Maen arysgrifedig o’r cyfnod ôl-Rufeinig ar Gomin Gelli-gaer, yn sefyll ar safle tomen gladdu gynhanesyddol. (DS2015_143_001, NPRN 305944)

 

Figure 35 AP_2013_0329 Llangorse Crannog

Ynys Bwlc, Llan-gors. Dyma’r unig enghraifft hysbys o grannog yng Nghymru. (AP_2013_0329, NPRN 32997)

 

Figure 84 AP_2014_4974 Sultan Pit Pony Sculpture

Cerflun tirwedd 200 metr o hyd gan yr artist Mick Petts ar safle Pwll Glo Penalltau yw’r cerflun hwn o’r merlyn Sultan. Fe’i crëwyd i dalu teyrnged i’r merlod a ddefnyddid dan ddaear i halio’r glo. (AP_2014_4974, NPRN 402672)

 

Figure 88 DS2015_131_006 Guardian Statue pro

Cafodd cerflun Gwarcheidwad y Cymoedd, Pwll Glo Six Bells, Abertyleri, ei lunio a’i greu gan yr artist Sebastien Boyesen a’i wneud o fwy nag 20,000 o stribedi o ddur a weldiwyd wrth ei gilydd. (DS2015_131_006, NPRN 421326)

 

Gwent Cover

Clawr blaen Archaeoleg Ucheldir Gwent.

08/03/2016

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x