
DATGANIAD I’R WASG – Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru
Mae’r chwilio wedi dechrau am Angylion Treftadaeth Cymru
Bydd pobl sy’n achub adeiladau hanesyddol o esgeulustod yn cael eu cydnabod gan gynllun gwobrau Cymreig newydd o’r enw ‘Angylion Treftadaeth Cymru’ sy’n cael ei noddi gan Sefydliad Andrew Lloyd Webber. Gall unrhyw un enwebu person neu brosiect ar gyfer y gwobrau a chyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni Wobrwyo fawreddog yn Nhachwedd 2018.
Cafodd y cynllun ei lansio gan Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Treftadaeth Cymru, ar 16 Ebrill wrth ymweld â Thŷ Weindio’r Hetty ger Pontypridd. Byddai’r tŷ weindio ager hwn o oes Fictoria yn cludo glowyr a glo i fyny ac i lawr siafft 360 metr (1,181 troedfedd) o hyd, nes i Lofa’r Great Western gau ym 1983. Mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Glofa’r Great Western wedi adfer y Tŷ Weindio rhestredig fel ei fod yn gweithio eto – ‘enghraifft berffaith’ meddai’r Gweinidog, ‘o’r math o brosiect y sefydlwyd Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru i’w dathlu’.
Mae pum categori o wobrau:
- Enghraifft Orau o Achub Adeilad neu Le Hanesyddol ar gyfer prosiectau’n costio llai na £5m
- Enghraifft Orau o Adfywio Adeilad neu Le Hanesyddol ar Raddfa Fawr ar gyfer prosiectau’n costio mwy na £5m
- Cyfraniad Gorau i Brosiect Treftadaeth gan Bobl Ifainc
- Crefftwr neu Brentis Gorau ar Brosiect Achub neu Atgyweirio Treftadaeth
- Enghraifft Orau o Ymchwil, Dehongli neu Gofnodi Treftadaeth
Enghreifftiau o rai sydd wedi cyrraedd rhestri byr blaenorol, o’r tu allan i Gymru, yw gwirfoddolwr ymroddedig sy’n cynnal cerrig milltir hanesyddol, grŵp o gyn-aelodau o’r lluoedd arfog sy’n adfer camlesi, saer maen sydd wedi trosglwyddo ei fedrau i gannoedd o hyfforddeion, aelodau grŵp cymunedol sy’n cofnodi cerrig beddau ym mynwentydd hen gapeli ac eglwysi, a gwirfoddolwr sydd wedi datblygu teithiau yn ei amgueddfa leol sy’n ddelfrydol i bobl awtistig.
Mae’r Farwnes Andrews, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru wedi cytuno i fod yn feirniad. Meddai “Mae’r Gwobrau Angel Treftadaeth wedi’u seilio ar syniad syml, sef y dylid diolch i’r rheiny sy’n gweithio’n ddiflino ac yn ddistaw i achub a gwarchod treftadaeth Cymru a dathlu’r gwaith gwirfoddol maen nhw’n ei wneud. Hebddyn nhw, gallai elfennau llai ffasiynol ein treftadaeth gael eu colli am byth – ac eto dyma’r lleoedd sy’n golygu cymaint i’n cymunedau: camlesi a dyfrffyrdd, melinau gwynt a gorsafoedd rheilffordd, sinemâu, capeli a neuaddau’r gweithwyr. Heb eu gwaith anhunanol nhw, byddai llawer o gymeriad Cymru wledig, arfordirol a threfol yn cael ei golli. Nid yw’r ‘Angylion’ hyn wedi arfer ag adrodd eu storïau ar lwyfan cenedlaethol, ond bydd y Gwobrau Angel yn awr yn eu galluogi i wneud hynny – ac i ysbrydoli pawb drwy’r wlad. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn falch iawn o allu cyfrannu at ddarganfod trysorau amhrisiadwy ein gwlad.”
Mae enwebu pobl a phrosiectau ar gyfer y gwobrau’n syml: mae’r manylion llawn i’w cael yn https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwobrauangeltreftadaethcymru/
Meddai Andrew Lloyd Webber, a sefydlodd Wobrau Angel Historic England yn 2011: “Rydw i’n canmol pawb sy’n cystadlu am y Gwobrau Angel ac sy’n dangos i’r byd y gwaith bendigedig maen nhw’n ei wneud i achub a diogelu ein treftadaeth. Rydw i’n arbennig o falch bod Cymru’n cymryd rhan eleni gan fod hyn yn golygu bod y Gwobrau Angel yn cael eu cynnal ar hyd y DU am y tro cyntaf. Mae’r Gwobrau Angel yn tynnu sylw at yr unigolion a grwpiau arbennig hynny sy’n mynd i’r afael ag adeiladau a safleoedd hanesyddol anodd sydd mewn perygl ac sy’n ysbrydoli pobl eraill i ymuno â nhw. Rydw i wrth fy modd y byddwn ni’n cyflwyno gwobr arbennig yn y seremoni yn Llundain i’r enillydd cyffredinol o’r holl gategorïau Gwobrau Angel yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru. Hoffwn annog pawb i gamu ymlaen a gwneud cais am y gwobrau.”
Y Diwedd
Nodiadau i olygyddion
Gall unrhyw un enwebu pobl a phrosiectau ar gyfer y gwobrau.
Mae enwebu’n syml; mae ffurflen enwebu (ynghyd â thelerau ac amodau) i’w chael ar wefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: www.cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwobrauangeltreftadaethcymru/
Gwahoddir enwebiadau o dan bum categori:
- Enghraifft Orau o Achub Adeilad neu Le Hanesyddol ar gyfer prosiectau’n costio llai na £5m
- Enghraifft Orau o Adfywio Adeilad neu Le Hanesyddol ar Raddfa Fawr ar gyfer prosiectau’n costio mwy na £5m
- Cyfraniad Gorau i Brosiect Treftadaeth gan Bobl Ifanc
- Crefftwr neu Brentis Gorau ar Brosiect Achub neu Atgyweirio Treftadaeth
- Enghraifft Orau o Ymchwil, Dehongli neu Gofnodi Treftadaeth
- Enghraifft Orau o Achub, Cofnodi neu Ddehongli Lle Hanesyddol
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 21 Mehefin 2018.
Bydd tri pherson neu brosiect yn cael eu dewis ym mhob categori a chyhoeddir y rhestri byr ar 9 Medi 2018.
Bydd y seremoni Wobrwyo yn cael ei chynnal yn Nhachwedd 2018 [dyddiad a lleoliad i’w cyhoeddi’n fuan].
Bydd enw’r prif enillydd o’r pedair cenedl (Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon) yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad mawreddog yn Llundain yn hwyrach ym mis Tachwedd 2018.
Noddir y cynllun Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru gan Sefydliad Andrew Lloyd Webber:
Ynghylch Sefydliad Andrew Lloyd Webber
Cafodd Sefydliad Andrew Lloyd Webber ei sefydlu gan Andrew ym 1992 i hyrwyddo’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth er budd y cyhoedd; ers y dechrau Andrew sydd wedi darparu’r rhan fwyaf o’r arian ar gyfer gweithgareddau elusennol y Sefydliad. Yn 2010, fe ddechreuodd y Sefydliad raglen rhoi grantiau ac erbyn hyn mae wedi dyfarnu grantiau gwerth mwy na £18 miliwn i hybu hyfforddiant a datblygiad personol o safon uchel ac i gefnogi prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gyfoethogi ansawdd bywyd unigolion a chymunedau lleol. Rhai grantiau sylweddol a roddwyd yw £3.5m i’r Arts Educational Schools, Llundain i greu theatr broffesiynol â’r cyfleusterau diweddaraf, £2.4m i’r Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth mewn Ysgolion Uwchradd, £1m i’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, $1.3m i’r American Theatre Wing, a mwy na £350,000 bob blwyddyn i ariannu 30 ysgoloriaeth yn y celfyddydau perfformio ar gyfer myfyrwyr dawnus sydd mewn angen ariannol. http://andrewlloydwebberfoundation.com/
Mae Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru yng ngofal grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau Cymreig, gan gynnwys Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, Cyngor Archaeoleg Prydain Cymru, y Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol, Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru, Glandŵr Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n gweinyddu’r Gwobrau yng Nghymru ar ran y Grŵp Llywio Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru.

Cafodd y cynllun Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru ei lansio gan Weinidog Treftadaeth Cymru, Dafydd Elis-Thomas, yn ystod ymweldiad â Thŷ Weindio’r Hetty ger Pontypridd, ar 16 Ebrill, 2018. Chwith i’r dde: Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Treftadaeth Cymru, Brian Davies, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Glofa’r Great Western, a Christopher Catling, Yr Ysgrifennydd (Prif Weithredwr) CBHC.

Tŷ Weindio’r Hetty ger Pontypridd Chwith i’r Dde: Brian Davies, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Glofa’r Great Western; Susan Mason, CADW; Christopher Catling Yr Ysgrifennydd (Prif Weithredwr) CBHC; Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Treftadaeth Cymru.
Manylion cysylltu:
Angharad Williams, Rheolwr Ymgysylltu â’r Cyhoedd , Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
01970 621 237 angharad.williams@cbhc.gov.uk
This press release is also available in English
04/18/2018