
Herio’r Dreigiau – DATGANIAD I’R WASG
‘Herio’r Dreigiau’ yw enw cynhadledd a fydd yn archwilio’r man anghyfarwydd lle mae celf ac archaeoleg yn cyfarfod. Bydd ymarferwyr blaenllaw yn y ddwy ddisgyblaeth yn dod at ei gilydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 27 a 28 Chwefror 2019 i ystyried sut y caiff artistiaid eu hysbrydoli gan ddulliau a darganfyddiadau archaeolegol a sut mae archaeoleg, mewn llawer ffordd, yn ymdrech artistig.
Syniad Carmen Mills, arlunydd preswyl Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yw’r gynhadledd. Mae ei harddangosfeydd solo yn cynnwys ‘Amser Dan ein Traed’ (2016, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd), ‘The Archaeologist’s Dance’ (2014, rhan o ŵyl Coastival ddwyflynyddol Scarborough) ac ‘Excavations 1’ (2013) yn y Studio Gallery, Scarborough, a oedd yn seiliedig ar safleoedd archaeolegol yn Star Carr, Gogledd Swydd Efrog, a Streethouses, Loftus, Cleveland.
Mae Carmen yn credu mai hwn fydd y tro cyntaf i archaeolegwyr ac artistiaid gyfarfod i gyfnewid syniadau a fydd yn helpu i ddiffinio meysydd newydd o astudiaeth academaidd ac ymarfer artistig. ‘Mae’r croestoriadau rhwng celf ac archaeoleg yn mynd ymhell y tu hwnt i fyd cyfarwydd darlunio archaeolegol a lluniadau ailgreu. Rydw i’n edrych ymlaen at y rhyngweithio rhwng y ddwy ddisgyblaeth.’
Meddai Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol, sy’n cyd-drefnu’r gynhadledd, ‘Rydw i’n meddwl bod archaeolegwyr yn dechrau deall na ellir dehongli’r gorffennol yn nhermau’r ymarferol yn unig: ni allwn ein rhoi ein hunain ym meddyliau ein hynafiaid heb werthfawrogi bod dawn artistig i’w gweld mewn bwyell gaboledig Neolithig neu mewn bryngaer o Oes yr Haearn, a bod artistiaid yn y gorffennol wedi bod yn arloeswyr sydd wedi arwain bodau dynol i feysydd newydd o brofiad.’
Agorir y gynhadledd gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru. Mae’r prif siaradwyr archaeolegol yn cynnwys yr Athro Colin Renfrew (yr Arglwydd Renfrew o Kaimsthorn), awdur Figuring It Out: What are We? Where do we Come From? The Parallel Visions of Artists and Archaeologists (2004), yr Athro Jennifer Wallace, awdures Digging the Dirt: The Archaeological Imagination (2004), a’r Athro Michael Shanks, awdur The Archaeological Imagination (2016).
Ymhlith yr artistiaid a fydd yn siarad y mae Kate Whiteford OBE, sy’n dweud bod ‘tynfa’r gorffennol, hanes a myth, symbolau ac arwyddion’ yn llinyn parhaus sy’n rhedeg drwy ei gwaith; Julia Sorrell, y mae ei gwaith diweddar wedi’i seilio ar dirwedd a henebion cynhanesyddol Ynysoedd Erch; a’r Athro John Harvey, hanesydd celf ac ymarferwr celf sydd wedi’i gyfareddu gan seiniau’r gorffennol ac a drefnodd gynhadledd yn ddiweddar i ystyried ‘Synau Celf: Ymarfer Clyweled mewn Hanes, Theori a Diwylliant’.
I gael mwy o fanylion ewch i https://bravingthedragons.com
Tanysgrifiwch i borthiant newyddion y Comisiwn Brenhinol
Rydym ghefyd ar gael ar:
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
---|
08/11/2018