Datgelu Cyfrinachau Llong Fasnach Ganoloesol

Yn 2002 roedd Theatr Glan yr Afon, y lleoliad ar gyfer cynhadledd Gorffennol Digidol 2017, yn cael ei hadeiladu. Wrth gloddio glannau Afon Wysg i greu lle ar gyfer pwll cerddorfa, cafodd olion llong hwylio bren eu darganfod. Cafodd yr olion hyn eu cofnodi’n ofalus gan archaeolegwyr a’u codi i’w hastudio ymhellach. Gwyddom bellach mai hon yw’r llong fwyaf cyflawn o’r 15fed ganrif a ddarganfuwyd erioed, ac yn ystod y 14 blynedd ddiwethaf mae gwaith ymchwil a chadwraeth manwl wedi’i wneud ar y darganfyddiad eithriadol o bwysig hwn er mwyn datgelu hanes y llong a’i diogelu i’r cenedlaethau a ddaw.

Bydd Dr Toby Jones, Curadur Prosiect Llong Ganoloesol Casnewydd, yn rhoi un o’r prif gyflwyniadau yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2017. Bydd yn dangos sut mae manteisio ar dechnolegau digidol arloesol wedi bod o gymorth i gofnodi, deall a diogelu’r llong, sydd o bwys rhyngwladol. Bydd hefyd yn cyflwyno canlyniadau diweddaraf y gwaith dadansoddi. Yn ogystal â’r sgwrs, fe fydd taith dywys drwy labordai Llong Casnewydd (nifer cyfyngedig o leoedd) ar fore’r 16eg o Chwefror a bydd gan y prosiect stondin arddangos yn y gynhadledd lle gellir cael gwybodaeth a chyngor arbenigol.

Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr

 

 

NMS

 

Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr

12/08/2016

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x