
Datgelu murluniau: y wal batrymog o Gymru fodern i Gymru’r Oesoedd Canol
Bydd y sgwrs ddarluniedig hon yn ymdrin â hanes addurno waliau, o bapur wal modern i furluniau canoloesol, gan gynnwys y darganfyddiadau cyffrous yn eglwysi Llandeilo Tal-y-bont a Llancarfan.
Mae’r sgwrs yn rhoi sylw i rai o’r themâu yng nghyhoeddiad hirddisgwyliedig y Comisiwn Brenhinol ar Furluniau yn Eglwysi Cymru sy’n cael ei baratoi ar hyn o bryd.
‘Datgelu murluniau: y wal batrymog o Gymru fodern i Gymru’r Oesoedd Canol’
gan Richard Suggett,
3 Rhagfyr, 5pm.

Gwyliwch ef ar Facebook
Os nad oes gennych docyn ar gyfer y digwyddiad ar Zoom (a werthodd allan o fewn 24 awr!), gwyliwch ef ar Facebook lle bydd yn cael ei ddangos yn fyw. Gellir cyflwyno cwestiynau drwy Facebook yn ystod y digwyddiad ac wedyn. Hefyd fe gaiff y digwyddiad ei recordio a’i roi ar ein sianel YouTube.
Byddwn unwaith eto’n ymuno â Ffair Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn ddigwyddiad rhithiol eleni.
O 11 y bore hyd 8 y nos fe fydd Siop y Llyfrgell Genedlaethol a busnesau lleol yn arddangos eu cynhyrchion Nadoligaidd ar-lein drwy dudalen Facebook y Llyfrgell.
Beth am fanteisio ar y cyfle i ddod o hyd i’r anrheg berffaith i’ch anwyliaid neu i’ch sbwylio’ch hun?!
12/01/2020