
Datgelu Tirwedd Gudd: darganfyddiadau archaeolegol newydd ar Ynys Dewi, Sir Benfro

Ynys Dewi (Crown Copyright RCAHMW: AP_2011_4374)
Mae arolwg laser newydd o’r awyr o Ynys Dewi (RSPB) wedi datgelu tirwedd archaeolegol gudd y tybir ei bod yn mynd yn ôl 4,500 o flynyddoedd i’r Oes Efydd. Mae’r arolwg wedi newid ein dealltwriaeth o sut y cafodd yr ynys anghysbell hon oddi ar Sir Benfro ei hanheddu ac wedi darparu arf rheoli grymus newydd at ddefnydd yr RSPB.
Comisiynwyd yr arolwg laser gan archaeolegwyr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru fel rhan o’r Prosiect CHERISH Iwerddon-Cymru newydd, wedi’i ariannu gan yr UE, sy’n ymchwilio i newid hinsawdd a threftadaeth yr arfordir. Mae’r data a gasglwyd yn ystod yr arolwg wedi ein galluogi i greu model 3D hynod fanwl o Ynys Dewi am y tro cyntaf. Yn ogystal ag arwain at ddarganfod safleoedd archaeolegol newydd, mae’r gwaith hwn wedi darparu set ddata fanwl gywir y gellir ei defnyddio i gadw llygad ar newidiadau amgylcheddol ar yr ynys o ganlyniad i newidiadau yn yr hinsawdd. Ariennir y Prosiect CHERISH drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru yr UE 2014-20.
Mae’r arolwg newydd wedi datgelu safleoedd cyffrous megis crugiau crwn o’r Oes Efydd, caer bentir arfordirol gynhanesyddol, safle posibl capel coll, a llu o gyfundrefnau caeau hynafol. Mae’r darganfyddiadau hyn yn gorfodi archaeolegwyr i newid eu dehongliad o sut y byddai bodau dynol wedi rhyngweithio ag Ynys Dewi yn ystod y 4,000-5,000 o flynyddoedd diwethaf.

Delwedd o Ynys Dewi wedi’i chynhyrchu o ddata laser-sganio o’r awyr (LiDAR) (Hawlfraint y Goron: PROSIECT CHERISH 2017. Cynhyrchwyd gyda chymorth ariannol yr UE drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020. Mae’r holl ddeunydd ar gael am ddim o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.)
Mae’r arolwg laser-sganio o’r awyr (LiDAR) hynod fanwl a wnaed gan Bluesky International LTD ym mis Chwefror 2017 yn darparu golwg unigryw o’r ynys gyfan ar gydraniad o 25cm. Mae gwahanol dechnegau delweddu 3D wedi datgelu llawer o wrthgloddiau archaeolegol am y tro cyntaf nad oes modd mynd atynt ar droed neu sy’n rhy anodd eu gweld ar y ddaear o dan y gorchudd o redyn a phrysgwydd. Mae awyrluniau hanesyddol o’r Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth wedi cael eu hastudio hefyd i ddarganfod olion cnydau sy’n dynodi archaeoleg a aeth o’r golwg o ganlyniad i aredig yn y cyfnod modern. Mae’r tîm CHERISH wedi ymhelaethu ar y gwaith hwn gan ddefnyddio mapio drwy gymorth cyfrifiadur wedi’i seilio ar y data LiDAR ynghyd ag awyrluniau hanesyddol wedi’u digido. Ar sail hyn, mae’r archaeolegwyr wedi gwella ein dealltwriaeth o sut yr oedd y dirwedd amaethyddol gynhanesyddol a chanoloesol yn edrych.
Meddai Dan Hunt, archaeolegydd CHERISH yn y Comisiwn Brenhinol: ‘Rydyn ni wedi ychwanegu cyfoeth o wybodaeth archaeolegol newydd at stori Ynys Dewi, gan ddefnyddio set ddata 3D anhygoel sydd wedi rhoi i ni ddarlun syfrdanol o fanwl o’r ynys. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â wardeiniaid Ynys Dewi (RSPB), a chydweithwyr eraill ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i ymchwilio ymhellach i’r darganfyddiadau hyn.’

Golwg 3D o Ynys Dewi o’r de-ddwyrain wedi’i gynhyrchu o ddata LiDAR. Mae’r lliwiau’n dangos y newid mewn uchder uwchben lefel y môr. (Hawlfraint y Goron: PROSIECT CHERISH 2017. Cynhyrchwyd gyda chymorth ariannol yr UE drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020. Mae’r holl ddeunydd ar gael am ddim o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.)
Mapio’r gorffennol
Mae’r mapio drwy gymorth cyfrifiadur newydd yn cyfuno arolygon blaenorol â darganfyddiadau newydd. Mae rhai o’r nodweddion archaeolegol a ddangosir ar y map newydd yn amrywio o domenni claddu o’r Oes Efydd i derfynau cae ôl-ganoloesol sydd wedi mynd o’r golwg yn sgil canrifoedd o aredig. Gyda’i gilydd mae’r holl nodweddion hyn yn creu darlun o sut y gallai’r dirwedd fod wedi edrych ar hyd yr oesoedd.
Darganfyddiadau cynhanesyddol:
Mae tirwedd gynhanesyddol Ynys Dewi yn ymestyn hyd at ben gogleddol pellaf yr ynys lle mae safle caer bentir arfordirol gynhanesyddol bosibl wedi’i nodi ar bentir creigiog uchel Trwyn-Siôn-Owen. Mae’n debyg bod y gaer arfordirol hon yn anheddiad ag amddiffynfeydd parhaol neu’n fan ymgynnull i’r bobl a oedd yn byw ac yn ffermio ar yr ynys. Yr olion y gellir eu gweld yw ffos lydan sy’n gwahanu’r pentir oddi wrth y tir mawr ac yn rhannu’r ynys yn ddwy ardal amlwg. Bydd y Prosiect CHERISH yn ymchwilio ymhellach i’r safle ac yn ei fonitro am erydiad arfordirol.
Olion canoloesol:
Mae olion o’r cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol i’w gweld yn amlwg ar Ynys Dewi hefyd. Mae llawer o’r dystiolaeth hon ar ffurf cefnau aredig hynafol, yng ngogledd a chanol yr ynys yn bennaf. Ond ceir hefyd wrthgloddiau sy’n awgrymu anheddu, diwydiant ac arfer crefyddol.
I’r gogledd o Garn Ysgubor mae olion tirwedd cefnen a rhych ganoloesol ac ôl-ganoloesol. Mae olion llwyfan pridd i’w gweld yn y cefnau aredig sydd o bosibl yn dynodi safle adeilad petryalog bach. Hefyd, yn yr ardal hon, yn ogystal ag yn rhan ddeheuol yr ynys, ceir olion nifer o domenni clustog posibl, yn awgrymu hwsmonaeth ar yr ynys, a allasai fod yn gartrefi i gwningod yn ystod y canol oesoedd ac wedyn.
I’r gogledd o’r ffermdy mae mwy byth o olion sy’n dangos mor eang oedd y dirwedd amaethyddol ganoloesol, gan gynnwys safle posibl y capel coll ‘Capel Dyfanog’. Ceir yma olion safle sylweddol, lle bu llynnoedd, llwyfannau a llociau ar un adeg, sy’n ymestyn ar hyd arfordir dwyreiniol yr ynys ac yn lleoliad addas iawn ar gyfer canolfan eglwysig ganoloesol a fyddai wedi cynnig golwg unigryw dros ddyfroedd Swnt Dewi tuag at ddinas Tyddewi.
Ynghylch CHERISH:
Prosiect pum mlynedd cyffrous newydd rhwng Cymru ac Iwerddon a ariennir gan yr UE ac a ddechreuodd ar 1 Ionawr 2017 yw’r Prosiect CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd). Bydd y prosiect yn dwyn y ddwy genedl ynghyd i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o effeithiau (yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos) newid hinsawdd, stormusrwydd a digwyddiadau tywydd eithafol ar dreftadaeth ddiwylliannol yr arfordir. Yn ystod y pum mlynedd fe fydd y prosiect yn derbyn mwy na €4m drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru yr UE, blaenoriaeth 2 – addasiad cymunedau Môr Iwerddon ac arfordirol i newid yn yr hinsawdd.
Ynghylch Ynys Dewi (RSPB):
Ynys Dewi yw un o’r lleoedd gorau ar gyfer bywyd gwyllt yn y DU, ac fe’i cydnabyddir yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn safle Natura 2000. Mae Ynys Dewi yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer y frân goesgoch ac mae sicrhau bod y tir yn cael ei bori yn galluogi’r adar hyn i chwilio yn y glaswellt byr am y pryfed maen nhw’n eu bwyta.
Dan Hunt yw Ymchwilydd Archaeolegol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar gyfer y Prosiect CHERISH.
daniel.hunt@rcahmw.gov.uk
Prosiect CHERISH: www.cherishproject.eu | Facebook: CHERISH Project | Twitter: @CHERISHProj
Ynys Dewi (RSPB): https://www.rspb.org.uk/reserves-and-events/reserves-a-z/ramsey-island/
03/23/2018