Family and friends playing croquet c.1900, probably in northeast Wales. Just one of the over two million images held in the Royal Commission’s archive.

Dathlu 10 Mlynedd o Gyfeillgarwch

Aeth 10 mlynedd heibio ers sefydlu ‘Cyfeillion y Comisiwn’. Mae llawer wedi digwydd ers mis Tachwedd 2011, yn enwedig yn ystod y deunaw mis diwethaf. O fis Mawrth 2020, mewn ymateb i ofynion y cyfnod clo, mae ein gweithgareddau estyn-allan wedi cael eu haddasu er mwyn i ni allu parhau â’n gwaith ymgysylltu mewn ffordd newydd a’i ddatblygu i ddenu cynulleidfa ehangach (gweler isod).

Teulu a ffrindiau’n chwarae croquet tua 1900, yng ngogledd-ddwyrain Cymru mae’n debyg. Un yn unig o’r ddwy filiwn a mwy o luniau sydd yn archif y Comisiwn Brenhinol.
Teulu a ffrindiau’n chwarae croquet tua 1900, yng ngogledd-ddwyrain Cymru mae’n debyg. Un yn unig o’r ddwy filiwn a mwy o luniau sydd yn archif y Comisiwn Brenhinol.

Rydyn ni’n falch o ddweud mai ni bellach yw un o’r grwpiau Cyfeillion mwyaf ym maes treftadaeth a bod gennym aelodau gwerthfawrogol iawn. Mae’r cynulleidfaoedd mawr sy’n mynychu ein sgyrsiau ar-lein misol yn tystio i hyn. Mae gennym feddwl mawr o’n Cyfeillion ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am yr holl sylwadau adeiladol a roddant ar ffurflenni adborth yn dilyn digwyddiadau a darlithiau, yn enwedig yn achos y rhagolwg o ‘Coflein Newydd’ yn gynharach eleni. Recordiwyd yr holl sgyrsiau ac maen nhw ar gael ar ein sianel YouTube. https://www.youtube.com/RCAHMWales

Mae Christopher Catling, ein Hysgrifennydd (Prif Weithredwr), yn mawr werthfawrogi’r degawd o gefnogaeth mae’r Cyfeillion wedi’i roi. Dywed “Roedd angen y Cyfeillion yn 2011 gan ein bod ni’n wynebu cael ein cyfuno â Cadw, datblygiad yr oedd llawer o bobl yn credu na fyddai er budd treftadaeth yng Nghymru. Heddiw mae angen y Cyfeillion cymaint ag erioed gan fod y sector treftadaeth yn wynebu heriau newydd – o gau ac ailddatblygu addoldai ar gyflymder cynyddol i newidiadau yn y Stryd Fawr wedi’u hachosi gan dwf siopa ar-lein, ac, yn anad dim, effeithiau newid hinsawdd y byddai rhai o’r atebion a gynigir i’w lleddfu, fel ailgoedwigo ar raddfa fawr a dymchwel adeiladau hŷn i godi rhai newydd, yn bygwth ein treftadaeth bensaernïol ac archaeolegol os nad eir i’r afael â nhw’n ofalus. Rydyn ni’n sefydliad bach iawn sy’n wynebu lliaws o heriau; mae cefnogaeth y Cyfeillion a’r diddordeb a ddangoswch yn ein gwaith yn rhoi hwb mawr i’n morâl.”

Gellir ymuno â’n grŵp Cyfeillion AM DDIM, ac mae aelodaeth ar agor i bawb.

I ymaelodi, cofrestrwch drwy ebostio cyfeillion@cbhc.gov.uk

Byddwch yn derbyn:

  • Y newyddion diweddaraf am ein digwyddiadau a gweithgareddau.
  • Disgownt o 10% ar bob eitem yn ein siop drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ein llyfr dwyieithog diweddaraf ar furluniau yn Eglwysi Cymru, Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800, y gellir ei ragarchebu nawr.
  • Cyfle i gael tocynnau’n gynnar ar gyfer ein digwyddiadau.
  • Cyfle i wirfoddoli (pan fydd amgylchiadau’n caniatáu).

Mae gweithgareddau ar-lein newydd yn cynnwys y cyfathrebiadau wythnosol hyn: #HenebYrWythnos ar ein tudalen Facebook. Ein cyfrifon Twitter arbenigol yw: @RC_Survey, sy’n canolbwyntio ar ein gwaith arolygu ac astudiaethau thematig; @RC_Archive, sy’n tynnu sylw at beth o’n deunydd archifol mwyaf diddorol; ac @RC_EnwauLleoedd lle gellir gweld postiadau rheolaidd am enwau lleoedd hanesyddol Cymru; hefyd fe gyhoeddir newyddion cyffredinol y Comisiwn Brenhinol ar ein prif gyfrif @RCAHMWales. Gellir cael newyddion am ein prosiect partneriaeth @CHERISH* o: http://cherishproject.eu/cy/

*Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd, prosiect sy’n cael ei ariannu gan yr UE a’i arwain gan y Comisiwn Brenhinol mewn partneriaeth ag Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, Arolwg Daearegol Iwerddon, a’r Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesi Iwerddon. Ei waith yw monitro effeithiau newid hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol basn Môr Iwerddon.

02/01/2022

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x