H.M. Prison, Usk, where Margaret Haig Thomas was sentenced for arson in the suffragette cause. Her cell looked into the inner courtyard of the prison. Always positive, he later said, “As cells go, I had nothing against it”

Dathlu Bywyd Cymraes Ysbrydoledig: Margaret Haig Thomas (1883–1958), Yr Arglwyddes Rhondda yn ddiweddarach

Heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched (Mawrth 8) ymunwn â’n gilydd i goffáu a dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod ar hyd a lled y byd. Mae’r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu i gyflymu cydraddoldeb i fenywod. Ar y diwrnod hwn, hoffem ddathlu bywyd Margaret Haig Thomas, Cymraes a wnaeth wahaniaeth go iawn i fywydau pob menyw yng ngwledydd Prydain yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd.

Yn gynharach eleni, wrth wrando ar y radio, fe ges i fy atgoffa o gyflawniadau’r fenyw ysbrydoledig hon, yr oedd ei henw’n gyfarwydd i bawb ar un adeg (fel yr Arglwyddes Rhondda), ond y mae’r cof amdani wedi pylu erbyn heddiw. Yn y rhaglen hon yng nghyfres ‘Great Lives’ y BBC fe fu’r Foneddiges Brenda Hale, Barnwr a chyn Lywydd y Goruchaf Lys, yn trafod bywyd Margaret Haig Thomas, y swffragét ac ymgyrchydd hawliau merched enwog. Darparwyd y dystiolaeth arbenigol ar gyfer y sgwrs gan yr Athro Angela V John, awdur huawdl cofiant yr Arglwyddes Rhondda.

Ganwyd Margaret Haig Thomas ym 1883, yn unig blentyn i D.A. Thomas (Is-iarll Rhondda yn ddiweddarach), y diwydiannwr a gwleidydd rhyddfrydol, a Sybil Haig o Neuadd Pen Ithon a oedd yn perthyn i deulu mawr o fenywod penderfynol. Roedd bywyd cynnar Margaret yn un breintiedig ond cyffrous. Fel menyw Edwardaidd ifanc fe ddaeth yn swffragét amlwg a goroesodd suddo’r Lusitania ym 1915.

Fel swffragét fe gafodd gryn sylw yn y wasg drwy herio H.H. Asquith, y Prif Weinidog a oedd yn erbyn rhoi’r bleidlais i ferched, drwy neidio ar ei gar. Cafodd ei charcharu wedyn ar ôl rhoi blwch llythyrau ar dân yn Risca Road, Casnewydd. Yn 2015, ar ôl ymgyrch ariannu torfol, fe osodwyd plac glas i goffáu’r digwyddiad hwn. Yng Ngharchar Brynbuga fe aeth ar streic newyn ac yn ei hunangofiant roedd ganddi air da am holl staff y carchar heblaw am y caplan, gan ddweud mai ef oedd yr unig un cas yno. Roedd wedi gwrthod iddi gael llyfrau o’r llyfrgell. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu’n goruchwylio’r broses o recriwtio menywod i weithio yn y ffatrïoedd arfau yng Nghymru ac fe gafodd ei chartref teuluol, Parc Llanwern, ei droi’n ysbyty. Er iddi roi’r gorau i ymgyrchu yn ystod y rhyfel, fe ailgydiodd yn y frwydr wedyn yn Llundain. Arweiniodd ymdrechion y swffragetiaid yn y pen draw at basio Deddf Etholfraint Gyfartal 1928 a roddodd y bleidlais i bob menyw.

Cafodd yr Arglwyddes Rhondda, a etifeddodd rai o fuddiannau busnes ei thad, ei chydnabod yn wraig fusnes lwyddiannus mewn byd o ddynion busnes. Serch hynny, ei phrif ddiddordeb oedd ysgrifennu a chyhoeddi, ac ym 1920 fe ddaeth yn sefydlydd ac yn olygydd y cylchgrawn llenyddol dylanwadol, Time and Tide, a gyhoeddodd waith gan George Orwell, Virginia Woolf, Olive Schreiner, ac awduron eraill yr oedd llawer ohonynt yn arddel safbwyntiau adain-chwith a ffeministaidd.

Yn ei hunangofiant, This Was My World (1933), mae hi’n disgrifio byd lled-Fictoraidd ei magwraeth. Ceir disgrifiadau o leoedd yng Nghymru a oedd yn bwysig iddi, gan gynnwys ei chartref ei hun, Parc Llanwern, tŷ ei thad-cu ar ochr ei thad, Ysguborwen, a thŷ ei thad-cu ar ochr ei mam, Neuadd Pen Ithon. Manylir ar yr holl adeiladau hyn yn Coflein.

Yn ôl disgrifiad yr Arglwyddes Rhondda, tŷ brics sgwâr a chysurus o’r ddeunawfed ganrif oedd Parc Llanwern. Roedd yn ddymunol a chyfeillgar, ac yn llawn heulwen ond, ysywaeth, fe gafodd ei ddymchwel ym 1952 am resymau nad ydynt yn hollol glir. Efallai na wnaeth adfer o effeithiau cael ei feddiannu gan y llywodraeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ffodus, mae gan y Comisiwn Brenhinol ffotograffau o’r tŷ a dynnwyd ychydig cyn i’r gosodion a ffitiadau gael eu gwerthu, sy’n dangos tu mewn yn ogystal â thu allan y tŷ Sioraidd hyfryd hwn.

Cafodd Ysguborwen yn Aberdâr ei adeiladu gan Samuel Thomas, tad-cu’r Arglwyddes Rhondda ar ochr ei thad ac yn un o arloeswyr masnach lo Cymru. Cwblhawyd adeilad cerrig y diwydiannwr ym 1855 ac mae’n dal i sefyll heddiw. Mae bellach yn gartref gofal a gwnaed rhai newidiadau i’r adeilad gwreiddiol.
Roedd gan yr Arglwyddes Rhondda atgofion arbennig o felys am yr hafau a dreuliai ym Mhen Ithon, cartref ei mam yng ngogledd Sir Faesyfed. Roedd Neuadd Pen Ithon wedi cael ei hadeiladu gan ei thad-cu, George Augustus Haig, mewn rhan ddiarffordd o’r sir. Yn ôl yr hanes, fe ddechreuodd ei briod (Anne Eliza Haig) feichio crio pan gyrhaeddodd y tŷ anghysbell hwn yn uwchdiroedd Cymru, filltiroedd o’r dref a gorsaf reilffordd agosaf. Mae’r Arglwyddes Rhondda yn rhoi darlun paradwysaidd o’i hafau ym Mhen Ithon. Byddai’n dringo coed, yn nofio mewn llynnoedd mynyddig ac yn marchogaeth merlod ar y rhostiroedd. Roedd ei thad-cu, mae’n ymddangos, wedi mewnforio 200 o ferlod o Wlad yr Iâ. Mae gennym hanes anghyhoeddedig o’r tŷ, Pen Ithon Hall gan Ion Trant, yn ein harchif.

Rydym heddiw yn dathlu bywyd yr Arglwyddes Rhondda, cydwladolwraig a gyflawnodd gymaint yn ystod ei hoes ond a arhosodd yn ffyddlon i’w gwreiddiau yn ne Cymru. Mae hi’n cael ei chydnabod fwyfwy fel un o fenywod ysbrydoledig hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, yn enwedig fel ymgyrchydd dros hawliau merched.

Mae ymgyrch ar y gweill gan yr Ymgyrch Coffáu Menywod i godi cerflun iddi yng Nghasnewydd. Hwn yw un o bum cerflun arfaethedig yn coffáu arwresau o Gymru y bwriedir eu codi mewn pum lleoliad ar draws Cymru. Cafodd y cyntaf o’r cerfluniau hyn, sy’n coffáu prifathrawes groenddu gyntaf Cymru, Betty Campbell, ei ddadorchuddio ar 29 Medi 2021 yng Nghaerdydd. Gobeithir codi cerfluniau eraill i Elaine Morgan yn Aberpennar, Cranogwen yn Llangrannog, Ceredigion, Elizabeth Andrews yn y Rhondda ac, wrth gwrs, Yr Arglwyddes Rhondda yng Nghasnewydd. Byddaf yn gadael i Brenda Hale, cyn Lywydd y Goruchaf Lys, gael y gair olaf: mae hi’n credu mai gwers bwysicaf yr Arglwyddes Rhondda yw bod brwydrau newydd bob amser i’w hymladd ac na ddylech byth roi’r gorau iddi. Rhaid i chi bob amser ddyfalbarhau.

Gan Nicola Roberts, Rheolwr Cyfathrebiadau

Ffynonellau:

  • Yr Is-Arlles Rhondda, This Was My World (Llundain, 1933)
  • Angela V. John, Turning the Tide. The life of Lady Rhondda (Parthian, 2013)
  • BBC Radio 4, Great Lives https://www.bbc.co.uk/programmes/m0013963

Ysgrifennwyd y blog hwn gyda chymorth Grŵp Menywod y Comisiwn sy’n cefnogi staff, yn gwahodd siaradwragedd o’r tu allan i roi cyflwyniadau, yn rhannu adnoddau gwerthfawr, ac yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol.

1.	Carchar Brynbuga, lle carcharwyd Margaret Haig Thomas am losgi bwriadol yn ystod ymgyrch y swffragetiaid. Roedd ei chell yn edrych dros gwrt mewnol y carchar. Roedd ganddi agwedd gadarnhaol bob amser – dywedodd yn ddiweddarach, “As cells go, I had nothing against it”.
Carchar Brynbuga, lle carcharwyd Margaret Haig Thomas am losgi bwriadol yn ystod ymgyrch y swffragetiaid. Roedd ei chell yn edrych dros gwrt mewnol y carchar. Roedd ganddi agwedd gadarnhaol bob amser – dywedodd yn ddiweddarach, “As cells go, I had nothing against it”.
2.	Neuadd Llanwern, cartref teuluol Margaret Haig Thomas, yn ei hanterth
Neuadd Llanwern, cartref teuluol Margaret Haig Thomas, yn ei hanterth.
Neuadd Llanwern cyn ei dymchwel ym 1952
Neuadd Llanwern cyn ei dymchwel ym 1952.
Gardd Neuadd Pen Ithon (cartref ei mam) lle byddai Margaret Haig Thomas yn mwynhau hafau bythgofiadwy pan yn blentyn
Gardd Neuadd Pen Ithon (cartref ei mam) lle byddai Margaret Haig Thomas yn mwynhau hafau bythgofiadwy pan yn blentyn.
Y cerflun pedwar metr o uchder sy’n coffáu Betty Campbell MBE. Cafodd ei greu gan Eve Shepherd a hwn yw’r cyntaf o bum cerflun arfaethedig i goffáu menywod Cymru y bwriedir eu codi fel rhan o’r ‘Ymgyrch Coffáu Menywod’
Y cerflun pedwar metr o uchder sy’n coffáu Betty Campbell MBE. Cafodd ei greu gan Eve Shepherd a hwn yw’r cyntaf o bum cerflun arfaethedig i goffáu menywod Cymru y bwriedir eu codi fel rhan o’r ‘Ymgyrch Coffáu Menywod’.

03/08/2022

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x